'Methiannau niferus a difrifol' o fewn uned mamolaeth - adroddiad

Mae rhai mamau wedi cael profiadau arbennig o wael a thrawmatig, yn ôl yr adroddiad annibynnol
- Cyhoeddwyd
Mae adolygiad annibynnol wedi amlygu "methiannau niferus" a difrifol yn safon y gofal gafodd mamau beichiog a babanod newydd-anedig yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe.
Cafodd rhai mamau brofiadau arbennig o wael a thrawmatig yn ystod blynyddoedd diweddar, gydag achosion o "drawma geni difrifol" yn dal i gael eu cofnodi hyd heddiw.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymddiheuro'n llwyr i unrhyw deulu na chafodd ofal o safon dderbyniol.
Mae'r adroddiad hefyd yn gwneud cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru o ran cryfhau gwasanaethau i famau a babanod dros Gymru gyfan.
Dywed y llywodraeth eu bod yn derbyn yr holl argymhellion, a bydd asesiad annibynnol "yn dechrau'r mis hwn" i wasanaethau o'r fath ar draws Cymru.
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi codi'r gwasanaethau yn ardal Bae Abertawe "i'r ail lefel uchaf o ymyrraeth, sef lefel pedwar" er mwyn "sicrhau trefniadau monitro mwy manwl a chymorth gwell".
'Diffyg tosturi'
Fe gafodd yr adolygiad ei gomisiynu yn dilyn cwynion gan deuluoedd a phryderon ynglŷn â marwolaethau rhwng 2018-2023.
Yn ystod y cyfnod hwnnw fe gafodd gwasanaethau mamolaeth Bae Abertawe eu canoli ar un safle yn Ysbyty Singleton, Abertawe.
Tra bod rhai gwelliannau wedi cael eu gwneud, yn cynnwys gwella lefelau staffio, mae'r adolygiad yn nodi bod "llawer iawn yn dal i'w gyflawni" i gryfhau safon y gofal yn gyflym.
Clywodd yr adolygiad am brofiadau dros 1,100 o deuluoedd, ac fe gafodd y gofal i 138 o fenywod a 125 o fabanod ei adolygu'n glinigol.
Mae'n dweud bod nifer o fenywod wedi cael profiadau "cadarnhaol ar y cyfan", ond bod eraill wedi cael, neu'n parhau i gael, profiadau gwael neu drawmatig.
Mae'n nodi esiamplau o staff yn dangos diffyg tosturi neu'n ymateb yn wael i ddigwyddiadau lle bu niwed.
Nododd hefyd fethiant i wrando ar famau, gyda nifer yn teimlo eu bod yn cael eu "hanwybyddu", a phryderon gan grwpiau lleiafrifol am rwystrau ieithyddol a diffyg ymwybyddiaeth o wahaniaethau diwylliannol.
Clywodd hefyd am bryderon penodol ynghylch systemau brysbennu (triage) mamolaeth, gyda diffyg cefnogaeth a chyngor i fenywod oedd yn galw'r gwasanaeth ynghyd â diffyg arweiniad meddygol.

Dywed Louise ei bod "yn pwyso yn erbyn wal mewn poen" am gyfnod ar ôl cyrraedd uned mamolaeth Ysbyty Singleton dan amheuaeth ei bod ar fin rhoi genedigaeth
Un a gafodd brofiad gwael o ofal yn uned famolaeth Ysbyty Singleton yw Louise (ddim ei henw iawn).
Yn Hydref 2024, fe ffoniodd yr uned am gyngor wedi iddi gael poenau difrifol ac amau ei bod yn dechrau esgor.
"Fel rhieni am y tro cyntaf, doedden ni ddim yn siŵr beth i'w wneud. Felly ffonion ni i ofyn, beth ddylen ni wneud? Ddylen ni ddod mewn?
"Eglures i fy symptomau a sut oeddwn i'n teimlo, ond brofes i ddiffyg gofal gyda'r person ar ochr arall y ffon ddim yn gwrando."
Ar ôl tair awr arall adref mewn poen, aeth ei chymar â hi i'r uned.
"Pan gyrhaeddon ni'r ward, doedd neb yno i'n croesawu ni. Fe wnaeth fy nghymar ganu'r gloch ger y fynedfa," meddai.
"Roeddem yn sefyll yno am, wel, roedd yn teimlo fel oes. Cerddodd staff heibio gan ddweud, 'fe gewch eich gweld mewn munud' ond ces i fy ngadael yno yn pwyso yn erbyn wal mewn poen."
'Crio drwy'r noson gyntaf'
Pan gafodd Louise ei hasesu yn y pen draw, fe gododd bryder yn syth ynghylch iechyd y babi wrth i'r staff gael trafferth darganfod curiad calon.
Fe gafodd ei hanfon yn syth am lawdriniaeth Cesaraidd frys.
Yn ystod y dyddiau wedyn teimlodd unwaith eto fod yna ddiffyg sylw a gofal gan staff.
"Pan oeddwn nôl ar y ward, roedd y gofal bryd hynny yn ofnadwy, mewn gwirionedd," ychwanegodd.
"Doedd dim cysondeb. Byddai un nyrs yn dod i mewn a siarad â mi ac yn sôn am gefnogaeth bwydo'r fron.
"A byddai hi'n dweud, ddaf i nôl atoch mewn 20 munud i ddangos i chi beth i'w wneud... ac yna aeth i ffwrdd, a nes i fyth ei gweld hi eto.
"Rwy'n cofio crio drwy gydol y noson gyntaf, yn dal fy maban newydd-anedig a theimlo'r holl emosiynau ond hefyd yn gwbl ofnus oherwydd diffyg cefnogaeth."

Mae Louise yn drist na fedra ystyried ceisio cael brawd neu chwaer i'w mab oherwydd yr hyn a aeth drwyddi ar ddiwedd ei beichiogrwydd cyntaf
Oherwydd ei phrofiadau, mae Louise wedi penderfynu peidio â cheisio beichiogi eto.
"Oeddwn i wastad [wedi meddwl ceisio] am ddau neu efallai tri [o blant] ond oherwydd yr hyn brofes i, dydw i ddim am fod yn yr un sefyllfa eto.
"Mae hynny'n fy ngwneud i a fy nghymar yn drist, na allwn ni roi brawd neu chwaer i fy mab, ond dydw i ddim am wynebu'r math yna o risg."

Amlygodd yr adolygiadau clinigol anghysondeb yn safon ac effeithiolrwydd gofal nifer o fenywod, gan nodi fod gwelliannau mewn rhai meysydd ond nid mewn eraill.
Cafodd gwendidau penodol eu hamlygu o ran adnabod rhybuddion bod rhywbeth yn mynd o'i le, ac yn narpariaeth gofal arbenigol a dwys i famau a babanod.
Roedd lefelau staffio, mae'n dweud, yn isel ac anghyson rhwng 2021 a 2024, ac roedd yna ddiffyg cydymffurfiaeth a hyfforddiant gofynnol.
Mae'n nodi fod buddsoddiad ers hynny wedi gwella lefelau staffio a bod hynny'n llai o bryder erbyn hyn.
Dywedodd hefyd fod yna "wendidau mawr" mewn llywodraethiant rhwng 2021-2024, gyda diffyg goruchwyliaeth a chraffu gan y bwrdd iechyd.
Roedd y broses o ymateb i achosion lle cafodd rhywun niwed yn wael, a'r bwrdd iechyd yn amharod i gydnabod bai ac ymddiheuro.
Roedd prosesau delio â chwynion hefyd yn wan
Tra bo'r adolygiad yn cydnabod newid o ran arweinyddiaeth mae'n galw am fwy o waith yn y maes hwn.
Ymddiheuriad llawn
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymddiheuro'n ddiffuant i'r "holl fenywod a theuluoedd na chafodd ofal o safon dderbyniol".
Maen nhw hefyd wedi derbyn yr argymhellion yn llawn, ac wedi llunio cynllun cychwynnol i gyflwyno gwelliannau.
"Rydyn ni'n cydnabod yn llawn pa mor ddifrifol yw cynnwys yr adroddiad annibynnol a'r trallod gafodd ei achosi i'n cleifion a'u teuluoedd.
"Mae'r adroddiad wedi nodi meysydd sydd angen i ni eu gwella, ac rydyn ni'n barod i fynd i'r afael â'r materion hyn gyda chyflymder a thryloywder.
"Byddwn yn gweithio'n agos gyda theuluoedd, ein partneriaid, rhanddeiliaid a rheoleiddwyr i sicrhau fod menywod sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn derbyn gofal o'r safon uchaf."

"Mae arwyddion o welliant ond mae ffordd bell i fynd," meddai Jeremy Miles
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles wedi ymddiheuro i'r holl deuluoedd "na chafodd y gofal yr oeddent yn ei haeddu".
Dywedodd fod yr adroddiad yn "frawychus i ddarllen" ond ei fod hefyd yn dangos bod y bwrdd iechyd wedi gwneud gwelliannau.
"Mae arwyddion o welliant ond mae ffordd bell i fynd ac mae angen i hynny fod yn ddyfnach ac yn gyflymach," meddai.
'Derbyn yr argymhellion yn llawn'
Gan dderbyn pob un o'r 11 argymhelliad yn yr adroddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru bod "asesiad cenedlaethol o'r holl wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru yn dechrau'r mis hwn" dan arweiniad cadeirydd annibynnol.
Fe fydd yr asesiad "yn ystyried canfyddiadau'r adolygiadau diweddar o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled y DU, gan gynnwys ym Mae Abertawe".
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, wedi codi gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe "i'r ail lefel uchaf o ymyrraeth, sef lefel pedwar".
Mae yntau hefyd wedi "ymddiheuro'n llawn ac yn ddiffuant, ar ran Llywodraeth Cymru, i'r holl fenywod a'r teuluoedd sydd ddim wedi cael y gwasanaeth neu'r gofal yr oedden nhw'n ei haeddu a'i ddisgwyl gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe."
Ychwanegodd: "Rhaid i bob menyw a babi gael gofal diogel a thosturiol o ansawdd da. Rhaid rhoi sylw i'w lleisiau yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth a rhaid iddyn nhw gael eu cynnwys mewn cynlluniau i wella gwasanaethau."
- Cyhoeddwyd10 Awst 2024
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2024
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.