'Byddai fy mab wedi byw heb fethiannau gofal ysbyty'

Rachel Kemble
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachel Kemble yn dweud fod "Ysbyty Singleton angen newid"

  • Cyhoeddwyd

Mae mam a gollodd ei mab tair wythnos oed yn honni y byddai'n dal yn fyw petai wedi derbyn gofal gwell yn yr ysbyty.

Cafodd mab Rachel Kemble, Farai, ei eni wedi toriad cesaraidd yn uned gwasanaethau mamolaeth Ysbyty Singleton, Abertawe ym mis Mehefin 2013.

Mae hi'n dweud fod methiant i gynnal sgan oedd wedi ei argymell wedi arwain at ddiffyg ocsigen yn cyrraedd ei ymennydd.

Mae Ms Kemble yn rhan o grŵp o rieni sy'n galw am ddileu adolygiad o wasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, a dechrau un arall o'r newydd.

Dywedodd y bwrdd iechyd mewn datganiad nad oedden nhw wedi canfod tystiolaeth o unrhyw esgeulustod o ran y gofal yn achos Ms Kemble a'i mab.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, maen nhw'n "chwilio am sicrwydd" y bydd "trafodaethau ystyrlon" yn cael eu cynnal gyda'r teuluoedd.

Mae dwsinau o rieni o Gymru wedi treulio blynyddoedd yn ymgyrchu dros gael adolygiad sy'n edrych ar fethiannau’r uned famolaeth.

Ond wyth mis wedi i'r adolygiad ddechrau, maen nhw'n dweud eu bod yn teimlo fel eu bod yn cael eu hanwybyddu a bod neb sy'n rhan o'r broses wedi cysylltu â nhw.

"Mae'n 'neud fi'n drist, mae'n 'neud fi'n grac a dwi dal yn eistedd yma yn gofyn 'be os?'," meddai Ms Kemble.

"Ym mis Medi byddai e wedi bod yn dechrau ysgol uwchradd. Mae gen i bump o blant, ond dim ond pedwar sy'n fyw a dydy hynny ddim yn iawn."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Farai ei eni yn Ysbyty Singleton Abertawe ym mis Mehefin 2013

Pan aeth Ms Kemble i'r ysbyty wedi 38 wythnos o'i beichiogrwydd, cafodd hi wybod y byddai'n cael sgan er mwyn cael gwybod beth oedd safle'r babi.

Ond fe benderfynodd y doctor oedd wedi ei harchwilio i fwrw 'mlaen â'r enedigaeth heb y sgan.

Deuddydd yn ddiweddarach, cafodd ei rhuthro i gael toriad cesaraidd brys yn sgil newid yng nghuriad calon y babi - a ddaeth i'r amlwg mewn sgan a ddangosodd ei fod hefyd mewn safle ben i waered, neu breech.

Cafodd hi wybod yn hwyrach fod y doctor wedi meddwl ei bod wedi cyffwrdd pen y babi, ond ei bod wedi gwneud camgymeriad, a bod y babi wedi treulio deuddydd heb ocsigen yn cyrraedd ei ymennydd.

Fe gymerodd hi bron i ddau funud i Farai allu anadlu, ac fe ddatblygodd nifer o gymhlethdodau pellach yn yr uned gofal dwys i fabanod.

'Dwi'n dal i ddioddef heddiw'

"Nes i erioed ei glywed yn crio," meddai Ms Kemble.

"Dwi'n credu pe bydden nhw wedi rhoi sgan i mi o'r dechrau, bydden nhw wedi gweld pa safle oedd e ynddo a bydde fe dal yma heddiw."

Ychwanegodd nad oedd effaith yr hyn ddigwyddodd wedi ei tharo tan yn llawer hwyrach.

"Nes i ddioddef PTSD, iselder, gorbryder. Dwi'n dal i ddioddef heddiw," meddai.

"Doeddwn i methu bod o gwmpas babanod eraill neu ferched beichiog am gyfnod.

"Dim ond nawr, 11 mlynedd yn ddiweddarach, dwi'n dechrau dod 'nôl ar fy nhraed."

Esboniodd hefyd bod ei phlant i gyd wedi derbyn cwnsela, a bod un o'i merched wedi dioddef yn ofnadwy wedi'r profiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Kemble wedi cwrdd â theuluoedd eraill sydd wedi bod drwy brofiadau tebyg

Dywedodd ei bod hi wedi derbyn cyngor cyfreithiol, a'i bod wedi cael gwybod bod yr ysbyty'n dweud ei bod hi wedi bod ar gynllun gofal - sef y trefniant arferol.

Er ei bod yn anhapus gyda'r ffordd yr oedd yr ysbyty wedi cyfathrebu â hi, ychwanegodd fod staff yr ysbyty wedi bod yn wych.

"Fe wnaethon nhw edrych ar ei ôl, ei wneud yn gyfforddus yn yr uned gofal dwys i fabanod, a fy nghynnwys i yn y cyfan."

Erbyn hyn mae Ms Kemble wedi cwrdd â theuluoedd eraill sydd wedi bod drwy brofiadau tebyg, rhywbeth oedd yn gysur, ond hefyd yn ofnadwy o drist, meddai.

"Y peth pwysig yw bod Ysbyty Singleton angen newid. Dydw i ddim eisiau gweld neb arall yn mynd drwy'r un peth â fi."

Ond yn ôl Rob a Sian Channon, sydd wedi bod yn arwain ymgyrch y teuluoedd, dydy'r ysbyty heb gysylltu gyda'r un rhiant yn eu grŵp nhw.

Trafodaethau gyda theuluoedd yn 'hanfodol'

Fe wnaeth Margaret Bowron KC, oedd yn cadeirio'r adolygiad, ymddiswyddo o'r rôl ym mis Mehefin yn dilyn beirniadaeth.

Dr Denise Chaffe gafodd ei phenodi yn ei lle, ac mae hi wedi ymddiheuro am unrhyw oedi, gan fynnu eu bod yn benderfynol o "symud 'mlaen" a "gweithio'n agos gyda'r teuluoedd".

Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe eu bod wedi ymchwilio ac wedi rhoi ymateb llawn ar ôl i gyfreithwyr Ms Kemble gysylltu â nhw, ac nad oedden nhw wedi canfod tystiolaeth o unrhyw esgeulustod.

"Ry'n ni'n deall cryfder teimladau'r teuluoedd, ac rydyn ni gyd eisiau'r un peth yn y pendraw - sef cael uned famolaeth a babanod o'r safon uchaf posib.

"Mae'r adolygiad wedi dechrau, a bydd llythyrau yn cael eu hanfon at y teuluoedd yn fuan yn gofyn iddyn nhw rannu eu sylwadau."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn chwilio am sicrwydd fod y bwrdd iechyd yn cefnogi'r broses adolygu a bod ymateb priodol i unrhyw bryderon sy'n codi".

"Mae'n hanfodol fod trafodaethau ystyrlon gyda theuluoedd a staff fel rhan o'r adolygiad yma."

Pynciau cysylltiedig