Ofwat i ddiflannu - Cyfoeth Naturiol Cymru i fod yn gyfrifol am ddŵr?

Llaw person yn llenwi gwydriad gyda dŵr o dap sinc ceginFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna rybudd y gallai biliau dŵr godi 30% dros y pum mlynedd nesaf

  • Cyhoeddwyd

Mae llywodraethau Cymru a'r DU wedi cadarnhau y bydd Cymru'n cael ei rheoleiddiwr dŵr ei hun.

Daw wedi i adolygiad alw am newid llwyr yn y ffordd y mae cwmnïau dŵr yn cael eu rheoleiddio.

Bydd y corff sy'n gyfrifol am y gwaith ar hyn o bryd, Ofwat, yn cael ei ddiddymu.

Bydd angen i Lywodraeth Cymru benderfynu a yw am sefydlu corff newydd neu trosgwlyddo cyfrifoldebau Ofwat i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies y peth olaf sydd angen ar y cwango amgylcheddol "ffaeledig" yw mwy o bwerau.

Dywedodd yr adolygiad bod dŵr yn fater "sensitif" yng Nghymru oherwydd boddi Cwm Tryweryn yn y 1960au, ac y byddai rheoleiddiwr Cymreig yn adlewyrchu blaenoriaethau'r wlad yn well.

Dywed Ysgrifennydd Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Huw Irranca-Davies y bydd "yn symud ymlaen ag argymhelliad y comisiwn ar gyfer rheoleiddiwr economaidd annibynnol ar wahân i Gymru".

Cyfran uwch o dir amaethyddol

Fe gafodd yr adolygiad mwyaf i'r sector ers ei breifateiddio ei gynnal gan y Comisiwn Dŵr Annibynnol yn dilyn pryderon eang ynghylch llygredd, biliau a thâl rheolwyr.

Fe wnaeth 88 o argymhellion, gan gynnwys diddymu'r system sy'n rheoleiddio cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr a sefydlu dau gorff ar wahân ar gyfer y ddwy wlad.

Doedd yr adroddiad, dan arweiniad cyn-ddirprwy lywodraethwr Banc Lloegr, Syr Jon Cunliffe, ddim yn ystyried a ddylid ailwladoli'r diwydiant.

Ond wrth awgrymu systemau rheoleiddio ar wahân yn y ddwy wlad, mae'r Comisiwn yn cydnabod "natur wahanol ac unigryw" sector dŵr Cymru a ffactorau diwylliannol "sensitif" fel hanes boddi Cwm Celyn er mwyn cyflenwi dinas Lerpwl â dŵr.

"Mae arwyddocâd diwylliannol dwfn ynghylch dŵr yng Nghymru, ac mae'n parhau i fod yn fater sensitif, yn enwedig yn sgil digwyddiadau hanesyddol fel creu cronfa Tryweryn," dywedodd.

Ychwanegodd bod system Cymru'n wynebu heriau gwahanol, gyda chyfran uwch o dir yn dir amaethyddol.

Y cwmni nid-er-elw Dŵr Cymru sy'n cyflenwi mwyafrif y cwsmeriaid yng Nghymru, ac mae cwmni Hafren Dyfrydwy'n gwasanaethu'r gweddill.

Mae'r Comisiwn yn "cydnabod y bydd rhai newidiadau yn gymhleth a hirfaith, gyda'r potensial i greu cryn ansicrwydd".

Syr Jon Cunliffe yn annerch cynhadledd i'r wasg ddydd Llun
Disgrifiad o’r llun,

Mewn cynhadledd i'r wasg fore Llun, dywedodd Syr Jon Cunliffe bod y system rheoleiddio bresennol "wedi methu"

Awgrymodd y Comisiwn y gallai rheoleiddiwr newydd ar gyfer Cymru fod yn rhan o Gyfoeth Naturiol Cymru, neu'n gorff hollol newydd.

Ychwanegodd y dylai CNC, sydd eisoes yn monitro perfformiad amgylcheddol cwmnïau dŵr Cymru, gael pwerau gorfodi cryfach.

Dywedodd Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Syr David Henshaw, eu bod "yn cefnogi'r cyfeiriad strategol… gan gynnwys dull penodol i Gymru o reoleiddio economaidd" ac yn edrych ymlaen at ymateb Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd eu bod "wedi gweithio'n galed i fynd i'r afael â pherfformiad sy'n dirywio ymhlith cwmnïau dŵr, gan ddefnyddio'r ystod lawn o ddulliau gorfodi sydd ar gael i ni.

"Ond mae'r adroddiadau ar ddigwyddiadau llygredd a gollyngiadau a gyhoeddwyd gennym yr wythnos ddiwethaf yn tynnu sylw at yr angen brys am reoleiddio a gorfodi cryfach a mwy hyblyg - dyma sydd ei angen i sbarduno newid gwirioneddol."

'Cyfle unwaith mewn oes'

Wrth gadarnhau diddymiad Ofwat, dywedodd Ysgrifennydd Amgylchedd y DU, Steven Reed, bod hi'n glir bod y diwydiant dŵr "wedi torri".

Ar ben problemau llygredd, seilwaith a biliau uchel i gwsmeriaid, dywedodd bod y sefyllfa yn amharu ar dwf economaidd a bod cwmnïau dŵr wedi cael rhwydd hynt i wneud elw ar draul pobl Prydain.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth y DU y byddai'n "gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatganoli rheoleiddio economaidd dŵr i Gymru".

Dywedodd Huw Irranca-Davies bod cyhoeddiad dydd Llun "yn gyfle unwaith mewn oes i ailosod trefniadau a gafodd eu creu cyn datganoli".

Pibell carthffosiaeth yn arllwys dŵr i afonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes yn arolygu perfformiad amgylcheddol cwmnïau dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru'n gosod polisïau

'CNC eisoes yn rhy fawr'

Dywed Llywodraeth Cymru bod llawer o argymhellion yr adroddiad "angen ystyriaeth ofalus… i sicrhau ein bod yn cymryd camau cywir ar ran pobl Cymru".

"Camgymeriad mawr" fyddai rhoi mwy o bwerau i Gyfoeth Naturiol Cymru, medd y Ceidwadwyr Cymreig, sy'n galw am i'r corff hwnnw gael ei ddiddymu.

Mae'r "rheoleiddiwr amgylcheddol ffaeledig… yn rhy fawr," dywedodd arweinydd y blaid yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, "a'r peth olaf sydd ei angen arno yw mwy o bwerau".

"Dylai gweinidogion y Senedd gymryd cyfrifoldeb am fethiannau'r diwydiant dŵr yng Nghymru – ni ddylai CNC gael mwy o bwerau, yn hytrach dylid ei ddiddymu a chael corff arall yn ei le."

Gwydriad o ddŵr yn cael ei lenwi dan dapFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn Lloegr, fe awgrymodd y Comisiwn bod angen creu corff newydd i ymgymryd â chyfrifoldebau presennol Ofwat, yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, yr Asiantaeth Amgylchedd a Natural England

Croesawu argymhelliad y Comisiwn wnaeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, gan fod y blaid wedi galw am ddiddymu Ofwat.

Ond dywedodd bod "cwestiynau difrifol" ynghylch a all Cyfoeth Naturiol Cymru "gymryd y pwerau newydd yma a'u defnyddio'n effeithiol" wedi i'r corff wynebu "dros ddegawd o doriadau gan Lafur Cymru".

Fe fydd y blaid, meddai, yn "parhau i ddal gweinidogion ym Mae Caerdydd i gyfri ac ymgyrchu i lanhau'r diwydiant dŵr, gan gynnwys gwahardd taliadau bonws" i uwch reolwyr.

Mae'r grwp gwirfoddol Welsh Rivers Union yn beirniadu rhoi mwy o rymoedd i gorff "di-glem… sydd wedi goruchwylio cwymp amgylchedd a bioamrywiaeth Cymru".

'Newid radical'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Rhodri Williams, dirprwy gadeirydd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr y byddai diddymu Ofwat yn "gam cadarnhaol sydd i'w groesawu yn fawr iawn".

"Dyw'r sector ar hyn o bryd ddim yn darparu'r gwasanaeth mae cwsmeriaid yn ei haeddu," meddai.

"Mae'n hen bryd cael newid, a hwnnw'n newid radical a phell-gyrhaeddol."

Mae Syr Jon Cunliffe hefyd yn rhybuddio y gallai biliau dŵr godi 30% dros y pum mlynedd nesaf wrth i'r sector fynd i'r afael â thrafferthion yn cynnwys hen seilwaith Fictoraidd, gollyngiadau dŵr gwastraff a dadlau dros gyflogau a thaliadau bonws uchel i reolwyr cwmnïau dŵr.

Mewn ymateb i'r posibilrwydd o filiau uwch i gwsmeriaid, dywedodd Rhodri Williams: "Mae lefelau ymddiriedaeth yn y cwmnïau dwr ar ei lefelau isaf erioed.

"Rwy'n gobeithio y caiff y Cyngor Defnyddwyr Dŵr bwerau statudol i gryfhau ein gallu ni i ymyrryd ar ran y cwsmeriaid pan mae pethau yn mynd o'i le."

Ychwanegodd ei fod yn credu y bydd cwsmeriaid "yn elwa o'r newidiadau yma ac y bydd y sector yn gwella".

"Fydd e ddim yn digwydd dros nos, ond ry'n ni ar lwybr fydd yn arwain at wellhad yn safon y gwasanaethau dŵr.

"Bydd yn anoddach i'r cwmnïau dwr i osgoi ac i ohirio delio gyda chwynion pan mae cwsmeriaid yn wynebu trafferthion."