Haneru gollyngiadau carthion erbyn 2030, yn ôl gweinidog

CarthffosiaethFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth y DU yn paratoi "chwyldro dŵr" a fydd yn haneru pa mor aml y mae carthion yn cael eu rhyddhau i ddyfrffyrdd yng Nghymru a Lloegr erbyn 2030, yn ôl yr Ysgrifennydd Amgylchedd.

Dywedodd Steve Reed wrth raglen Sunday with Laura Kuenssberg y BBC fod y sector dŵr wedi "torri" a bod y rheoleiddiwr, Ofwat, yn "amlwg yn methu".

Bydd yn cynnwys triniaeth lymach o benaethiaid cwmnïau dŵr os nad yw eu cwmnïau'n bodloni'r safonau gofynnol, gan gynnwys dedfrydau carchar posibl.

Fodd bynnag, ni chadarnhaodd a fyddai Ofwat yn cael ei ddileu, syn argymhelliad polisi a allai gael ei gynnwys mewn adolygiad o'r diwydiant, y disgwylir ei gyhoeddi ddydd Llun.

Steve ReedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth y DU yn paratori "chwyldro dŵr", meddai Steve Reed

Dywedodd Reed na fyddai modd cymryd dŵr yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus, a fyddai'n "cymryd blynyddoedd" ac yn rhy ddrud.

Mae ei addewid ar ollyngiadau carthion yn nodi'r tro cyntaf i weinidogion osod targed clir ar nifer y gollyngiadau, yn dilyn protest cyhoeddus ynghylch cyflwr dyfrffyrdd y DU.

Dywedodd Reed wrth y rhaglen y byddai'n cael ei ddal yn gyfrifol pe na bai gwelliannau i'w gweld yn ansawdd y dŵr erbyn yr etholiad nesaf.

"Mae gwleidyddion yn dod ac yn dweud ein bod ni'n mynd i wneud pethau. Wrth gwrs, dylai ein swydd fod yn y fantol os na wnawn ni hynny," meddai.

Mae'r addewid yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth y DU i wella'r sector dŵr, cyn i adolygiad y Comisiwn Dŵr o'r diwydiant gael ei gyhoeddi ddydd Llun.

Dywedodd James Wallace, prif weithredwr yr elusen River Action UK, fod y targed yn swnio'n "wych" ond mai "addewid gwleidyddol" ydi o ac nad yw'n un cyfreithiol.

Bydd y cynlluniau a gyhoeddwyd ddydd Sul hefyd yn cynnwys ymrwymiad i weithio gyda llywodraethau datganoledig ledled y DU i wahardd cadachau gwlyb sy'n cynnwys plastig, ymhlith mesurau eraill.

Ddydd Llun bydd cadeirydd y Comisiwn Dŵr, Syr Jon Cunliffe, yn cyflwyno ei argymhellion ar sut i wella perfformiad amgylcheddol ac ariannol y sector. Bydd Llywodraeth y DU yn ymateb yn y Tŷ Cyffredin.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig