Dŵr Cymru'n cael dirwy £1.35m am fethu monitro ansawdd dŵr

Safle trin dwr Llanelwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dŵr Cymru yn gyfrifol am hunan-fonitro ansawdd y dŵr yn eu gweithfeydd, fel yr un yma yn Llanelwy

  • Cyhoeddwyd

Mae Dŵr Cymru wedi cael dirwy o £1.35m am fethu â monitro ansawdd dŵr dros 300 o safleoedd ledled Cymru yn briodol.

Mae'r cwmni wedi pledio'n euog i 15 cyhuddiad yn ymwneud â dros 800 o droseddau yn 2020 a 2021.

Fe wnaeth y cwmni feio'r methiannau ar ad-drefnu a gweithredu system newydd a gafodd ei gyflwyno yn ystod y pandemig.

Daeth y barnwr Gwyn Jones i'r casgliad bod y cwmni wedi bod yn esgeulus ac "wedi achosi embaras sylweddol i'r holl bersonél ymroddedig yn Dŵr Cymru".

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru bod gan y cwmni "hanes cryf o gydymffurfio â'n rhwymedigaethau monitro cyn ac ar ôl y cyfnod sy'n berthnasol i'r achos yma".

Clywodd Llys Ynadon Wrecsam fod 676 o droseddau wedi digwydd yn 2020 a 142 yn 2021.

Roedd y troseddau'n ymwneud â thorri amodau trwydded amgylcheddol oherwydd bod samplau'n anghyflawn, yn cael eu cyflwyno'n hwyr neu ddim o gwbl, a ddim yn cael eu cymryd mewn modd amserol.

Roedd hyn yn golygu na fyddai unrhyw niwed posibl i ansawdd dŵr, bywyd gwyllt ac chyfleusterau eraill wedi bod yn hysbys.

Roedd y lleoliadau'n cynnwys geithfeydd trin dŵr ym Modedern, Llanfair PG, Pwllheli, Bethesda, Rhuddlan, Yr Wyddgrug, Queensferry, Dyffryn Ardudwy, Cwm Elan, Aberystwyth, Llandrindod, Tregŵyr a Chaerdydd.

Mae Dŵr Cymru yn gyfrifol am hunan-fonitro ansawdd eu dŵr yn eu gweithfeydd a chyflwyno eu canlyniadau i'r rheolydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

llygredd afon
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Llys Ynadon Wrecsam fod 676 o droseddau wedi digwydd yn 2020 a 142 yn 2021

Clywodd y llys fod CNC wedi mynegi eu pryderon i Dŵr Cymru am y wybodaeth yr oedd y cwmni'n ei gyflwyno, ond ar sawl achlysur nid oedd wedi derbyn ymateb.

Roedd Dŵr Cymru wedi dadlau yn y llys bod nifer y troseddau yn cyfrif am gyfran fach iawn o gyfanswm y samplau a gafodd eu casglu yn ystod y cyfnod, gyda'r mwyafrif helaeth ohonyn nhw wedi'u cofnodi'n gywir.

Dywedodd y cwmni eu bod yn cydymffurfio bron i 100% â rhwymedigaethau statudol erbyn hyn.

'Methiant sefydliadol'

Dywedodd y barnwr nad oedd unrhyw awgrym bod y cwmni wedi ceisio cuddio unrhyw weithgaredd anghyfreithlon yn fwriadol.

Mae Dŵr Cymru yn sefydliad enfawr, meddai Gwyn Jones, ac roedd y troseddau wedi digwydd yn ystod y pandemig, a oedd yn gyfnod gweithredol anodd.

Ond roedd y diffyg adrodd yn "tanseilio" effeithiolrwydd a chywirdeb y system hunan-adrodd. "Roedd hyn ar raddfa sylweddol," meddai Mr Jones.

Nid oedd y system newydd o hunan-adrodd a gafodd ei gyflwyno yn dilyn ad-drefnu mewnol yn Dŵr Cymru wedi cael ei phrofi dan straen, meddai, ac roedd "methiant sefydliadol" o ganlyniad.

Cafodd Dŵr Cymru ddirwy o £90,000 am bob un o'r 15 cyhuddiad yr oedden nhw wedi pledio'n euog - sef cyfanswm o £1.35m.

Cafodd y cwmni hefyd ei orchymyn i dalu costau o £70,237.

Llygredd afon

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru bod eu swyddogion wedi "dychryn o ganfod bod ansawdd y wybodaeth a ddarparwyd wedi dirywio'n amlwg o gymharu â blynyddoedd blaenorol".

Ychwanegodd: "Mae samplau a data coll o flwyddyn adrodd 2020 yn golygu nad oedd CNC yn gallu asesu nac ymateb yn llawn i unrhyw effeithiau amgylcheddol.

"Er ei bod yn bosibl, yn unigol, mai mân achosion o ddiffyg cydymffurfio oedd y rhain, mae CNC yn ystyried bod effaith cyfanswm yr holl doriadau yn arwyddocaol o ran effaith amgylcheddol."

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Mae gan Dŵr Cymru hanes cryf o gydymffurfio â'n rhwymedigaethau monitro cyn ac ar ôl y cyfnod sy'n berthnasol i'r achos yma."

Ychwanegodd: "Ni chafodd unrhyw safle ei adael heb ei fonitro yn y cyfnod dan sylw, ond fe wnaeth yr amgylchiadau unigryw yn ystod 2020/21 darfu ar ein gweithrediadau ac achosi heriau sylweddol.

"Nid oes unrhyw niwed amgylcheddol wedi'i nodi yn gysylltiedig â'r achos yma."

Pynciau cysylltiedig