Nifer y bobl ar restrau aros wedi gostwng am dri mis yn olynol

Er y gwelliant, mae 793,900 o driniaethau eto i'w cwblhau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bu gostyngiad o dros chwarter ym mis Chwefror yn y niferoedd yng Nghymru sydd wedi aros dros ddwy flynedd am driniaeth ar y gwasanaeth iechyd.
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, ym mis Chwefror roedd yna ychydig yn fwy na 15,500 o achosion lle bo' rhywun wedi aros dros ddwy flynedd, o'i gymharu â dros 21,000 ym mis Ionawr.
Mae hynny'n ostyngiad o dros 26% mewn mis.
Mae'r ysgrifennydd iechyd Jeremy Miles wedi croesawu'r gostyngiad, gan nodi fod hyn yn dangos be all ei gyflawni pan fo' byrddau iechyd yn canolbwyntio ar fabwysiadu dulliau newydd o weithio.
Ond mae'r ffigyrau yn awgrymu bod angen ymdrech sylweddol eto os yw'r gwasanaeth iechyd am gyrraedd targed y prif weinidog o ostwng y niferoedd sy'n aros dros ddwy flynedd i tua 8,000 erbyn ffigyrau mis Mawrth.
Amrywiaeth rhwng y byrddau iechyd
Mae yna oedi o ddeufis cyn adrodd ystadegau am amseroedd aros iechyd, a bydd y sefyllfa ym mis Mawrth yn dod i'r amlwg pan fydd yr ystadegau nesaf yn cael eu cyhoeddi fis Mai.
Er mwyn cyflawni'r targed hwnnw o 8,000, fe fyddai angen i'r gwasanaeth iechyd gyflawni gostyngiad o bron i 50% yn y niferoedd sydd wedi aros dros ddwy flynedd, a hynny mewn mis yn unig.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos cryn dipyn o amrywiad ym mherfformiad gwahanol fyrddau iechyd o ran lleihau'r niferoedd sydd wedi bod yn aros y cyfnodau hiraf.
Ym mis Chwefror roedd yna dros 8,300 o achosion ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr lle bo' rhywun wedi aros dros ddwy flynedd - gyda byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf Morgannwg gyda mwy na 2,200 yr un.
Ond y ffigwr yw 829 yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, a 280 ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe.
Does neb yn aros dros ddwy flynedd yn ardal bwrdd iechyd Powys.
Mae arosiadau o dros ddwy flynedd mwy neu lai wedi cael ei dileu yn y gwasanaeth iechyd yn Lloegr.
Faint sy'n disgwyl dros ddwy flynedd?
Cymru gyfan - 15,505
Betsi Cadwaladr - 8,341
Powys - 0
Hywel Dda - 829
Bae Abertawe - 280
Cwm Taf Morgannwg - 2,277
Aneurin Bevan - 1,486
Caerdydd a'r Fro - 2,292

Mae disgwyl i'r ysgrifennydd iechyd gyhoeddi arian ychwanegol yn ystod yr wythnosau nesaf i leihau rhestrau aros ymhellach
Mae'r ffigyrau diweddaraf hefyd yn dangos mai maint y rhestr aros yn ei gyfanrwydd oedd ychydig dros 793,900 ym mis Chwefror - cyfanswm y triniaethau sydd eto i gael eu cwblhau.
Mae hyn yn ostyngiad o tua 2,900 o'i gymharu â mis Ionawr, ond mae'n parhau 74.9% yn uwch na'r ffigwr ym Mai 2020 - yn ystod cyfnod cynnar y pandemig.
Mewn araith i arweinwyr iechyd yn gynharach y mis hwn fe wnaeth Jeremy Miles osod targedau newydd i ostwng y ffigwr hwn o 200,000 yn ystod y flwyddyn nesaf, a dileu arosiadau o dros ddwy flynedd yn gyfan gwbl.
Mae disgwyl i'r ysgrifennydd iechyd gyhoeddi arian ychwanegol i gefnogi'r gwasanaeth iechyd i leihau rhestrau aros ymhellach yn ystod yr wythnosau nesaf.
Ond mae Mr Miles eisioes wedi rhybuddio y byddai Llywodraeth Cymru yn bwriadu cymryd yn ôl unrhyw gyllid ychwanegol o fyrddau iechyd sydd ddim yn cyrraedd targedau penodol neu'n dewis gwario'r arian ar amcanion eraill.
Beth am yr ystadegau eraill?
Yn y cyfamser, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos fod unedau brys a'r gwasanaeth ambiwlans yn parhau dan bwysau sylweddol.
Ym mis Mawrth derbyniodd ychydig dros hanner (50.3%) o alwadau coch - lle mae bywyd mewn perygl uniongyrchol - ymateb o fewn wyth munud.
Roedd hyn yn ddirywiad o 0.8% o'i gymharu â Chwefror. Y targed yw 65%.
Ym mis Mawrth, treuliodd 66.9% o gleifion lai na phedair awr mewn unedau brys cyn cael eu derbyn i'r ysbyty, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Roedd hyn yn ddirywiad o'i gymharu â'r mis blaenorol. Dyw'r targed o 95% erioed wedi'i gyrraedd.
Yn ystod Chwefror fe fu'n rhaid i 10,384 o gleifion aros 12 awr neu'n hirach mewn unedau brys.
Roedd hynny 1,437 (16.1%) yn uwch na'r mis blaenorol. Yn ôl y targedau, dylai neb aros cymaint â hynny.
'Dal gwaith i'w wneud'
Mewn datganiad dywedodd Jeremy Miles ei fod yn "hapus i weld gostyngiad sylweddol yn y rhai sy'n aros hiraf gyda'r rhestrau aros yn disgyn am y trydydd mis yn olynol".
"Mae hwn yn dangos beth all ei gyflawni pan fo byrddau iechyd yn canolbwyntio ar gyflwyno gwasanaethau, gan gynnwys triniaethau cynt a chynyddu capasiti y GIG gan dderbyn ffyrdd newydd o weithio.
"Mae dal gennym ni waith i'w wneud er mwyn cyrraedd ein targed uchelgeisiol."
'Ddim yn ystadegau i'w dathlu'
Wrth ymateb i'r ffigyrau dywedodd Mabon ap Gwynfor AS, llefarydd iechyd Plaid Cymru: "Er bod gostyngiad bach yn ffigyrau heddiw, nid yw'r rhain yn ystadegau i'w dathlu ar unrhyw fesur.
"Mae dros un o bob pump o'r boblogaeth ar restr aros, mae dros 15,000 o bobl yn aros am fwy na dwy flynedd, a dim ond 60% o gleifion canser sy'n cael eu gweld o fewn yr amser â'i argymhellir."
Dywedodd James Evans AS ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod yr ystadegau "yn waeth na bag cymysg".
"Mae'r gostyngiad mewn arosiadau dwy flynedd i'w groesawu, ond mae'r ffaith eu bod yn dal i fodoli, pan nad ydyn nhw wedi ers misoedd lawer yn Lloegr... yn brawf o fethiant Llafur i gyrraedd eu targedau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
- Cyhoeddwyd20 Chwefror