£3m i wella cyfleusterau pêl-droed y gogledd

Yr Oval
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Oval yng Nghaernarfon yn un o'r stadiymau allai elwa o'r buddsoddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £3m ar gyfer gwella cyfleusterau yn y gogledd.

Bydd y rhanbarth yn cynnal pencampwriaeth dynion dan 19 UEFA yn 2026, fydd hefyd yn ben-blwydd y gymdeithas bêl-droed yn 150 oed.

Mae pedwar maes yn y gogledd wedi eu dewis i gynnal gemau pan fydd y bencampwriaeth yn cael ei chynnal yng Nghymru ymhen dwy flynedd.

Yn ogystal â'r Cae Ras yn Wrecsam, bydd Central Park yn Ninbych, Stadiwm Dinas Bangor a'r Oval yng Nghaernarfon hefyd yn cynnal gemau.

Ffynhonnell y llun, thegas.uk
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Stadiwm Dinas Bangor yn cynnal gemau yn y bencampwriaeth hefyd

Gyda Kylian Mbappè ac Erling Haaland ymysg mawrion y gamp sydd wedi chwarae yn y gystadleuaeth yn y gorffennol, bydd yn gyfle i weld rhai o sêr y dyfodol.

Mae meysydd ym Mae Colwyn, Gresffordd, Bwcle, Rhuthun, Y Rhyl, Caergybi a Phenmaenmawr hefyd wedi eu dynodi fel mannau i'r timau ymarfer yn ystod y bencampwriaeth.

Yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru bydd y £3m yn cael ei wario ar wella cyfleusterau, ond bydd hefyd yn gadael gwaddol i'r clybiau sy'n chwarae yn y meysydd hyn wedi i'r bencampwriaeth ddod i ben.

Ychwanegodd y gymdeithas bod y buddsoddiad yma’n ychwanegol i'r £6m sydd eisoes wedi ei ddynodi i wella safonau ym mhrif adran y Cymru Premier.