Bangor: Dyfodol stadiwm 'yn ddiogel' ar ôl talu dyled

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Stadiwm Dinas Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nantporth wedi cynnal gemau clybiau Cymru yn Ewrop yn ogystal â sawl gêm ryngwladol y timau ieuenctid

Mae dyfodol un o brif feysydd pêl-droed y gogledd bellach "wedi ei ddiogelu", yn ôl y cwmni sy'n ei redeg.

Roedd ansicrwydd dros ddyfodol stadiwm Nantporth oherwydd anghydfod rhwng y tenantiaid a Chyngor Dinas Bangor.

Gyda £63,000 yn ddyledus i'r perchnogion gan Nantporth CIC, roedd y cyngor yn bygwth camau cyfreithiol yn erbyn y cwmni mewn ymgais i'w adennill.

Ond gyda'r ddyled bellach wedi ei thalu, mae'r cwmni nawr yn gobeithio gwella'r cyfleusterau dros y blynyddoedd i ddod.

Yn ôl clwb Bangor 1876, sy'n gobeithio chwarae yno y tymor nesaf, y bwriad nawr yw ffurfioli cytundeb sydd eisoes mewn lle gyda'r cwmni.

Lleddfu pryderon

Yn ôl Nantporth CIC roedd "rhan helaeth" y ddyled yn deillio o fethiant CPD Dinas Bangor - oedd yn is-denantiaid tan iddyn nhw ildio eu les yn 2022 - i dalu eu rhent.

Nid yw CPD Dinas Bangor yn chwarae erbyn hyn, ond dywedodd y perchennog Domenico Serafino bod "problemau anataliadwy" wedi achosi eu trafferthion ariannol.

Disgrifiad o’r llun,

Fe agorodd Stadiwm Nantporth, ar lannau'r Fenai, yn 2012

Dywedodd y cyngor fod yr "anghydfod yn ymwneud â thorri telerau'r les yn barhaus", a bod ganddyn nhw gyfrifoldeb i "weithredu er budd trethdalwyr Bangor".

Ond dros y penwythnos daeth cadarnhad fod y ddyled bellach wedi ei thalu, gan leddfu'r pryderon dros ddyfodol y stadiwm gafodd ei hadeiladu yn 2012.

Mewn datganiad dywedodd Dr Martin Hanks, cyfarwyddwr dinesig Cyngor Dinas Bangor: "Gall Cyngor Dinas Bangor gadarnhau bod yr anghydfod yr adroddwyd amdano yn flaenorol gyda Nantporth CIC mewn perthynas â thorri amodau'r brydles ar gyfer Stadiwm Nantporth wedi'i ddatrys."

Disgrifiad o’r llun,

Cadarnhaodd Dr Martin Hanks o Gyngor Dinas Bangor fod yr anghydfod gyda Nantporth CIC wedi ei ddatrys

Dywedodd un o gyfarwyddwyr Nantporth CIC fod setlo'r ddyled yn eu galluogi i barhau gyda'u cynlluniau i wella'r maes dros y blynyddoedd i ddod.

Gyda rownd derfynol Cwpan Cymru wedi ei chwarae yno fis Ebrill, mae Nantporth hefyd wedi cynnal gemau timau dan-19 a dan-21 Cymru yn rheolaidd.

Dywedodd Dilwyn Jones wrth Cymru Fyw fod diwedd yr anghydfod yn eu galluogi i barhau gyda'r cynlluniau hyn a bod dyfodol y stadiwm "yn ddiogel".

"Mae'n deillio o ddyledion hanesyddol Dinas Bangor, ond o'n safbwynt ni 'da ni wedi clirio'r gorffennol rŵan," meddai.

Gan ychwanegu fod "Covid wedi eu taro'n galed", roedd yn glir ei farn fod Nantporth "wedi ei redeg yn dda".

Disgrifiad o’r llun,

Dilwyn Jones o Nantporth CIC: "'Da ni eisiau gwella'r cyfleusterau a gosod mwy o seddi gobeithio"

"Y tymor nesaf mae gynnon ni gytundebau mewn lle ar gyfer Bangor 1876 a CPD Merched Bangor i chwarae yno, CPD Llandudno tra maen nhw'n dal i sortio'u problemau gyda'u cae eu hunain a sawl clwb iau i ddefnyddio'r cae 3G."

Gan ddatgelu fod y cyllid i dalu'r ddyled wedi dod "diolch i roddion", dywedodd eu bod yn gobeithio cyhoeddi cyfarwyddwyr newydd yn y man.

"'Da ni'n siarad gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru am ddatblygu'r stadiwm," ychwanegodd.

"'Da ni eisiau gwella'r cyfleusterau a gosod mwy o seddi gobeithio.

"Bydd angen rhai addasiadau ac ystafelloedd newid ychwanegol, ond 'da ni'n gobeithio y bydd grantiau ar gael.

"Mae gynnon ni stand teuluol ond mae'r gweddill yn ochr honno heb ei ddatblygu. Does dim byd y tu ôl i'r goliau ar y funud chwaith, felly bydd angen meddwl am hynny hefyd."

Dyfodol Bangor 1876

Er bod cytundeb eisoes yn ei le i CPD Bangor 1876 chwarae yn Nantporth y tymor nesaf yn dilyn eu dyrchafiad i'r ail haen, roedd amheuon a fyddai hynny'n digwydd wedi i brif noddwr y clwb godi pryderon.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nantporth eisoes gyda dros 1,100 o seddi, ond gobaith Nantporth CIC yw ehangu a gwella'r cyfleusterau

Mewn llythyr roedd Mark Watkin Jones wedi rhybuddio y gall ei gefnogaeth ariannol ddod i ben os oedd y clwb yn mynd i bartneriaeth gyda Nantporth CIC tra roedd y bygythiad o gamau cyfreithiol yn dal yn fyw.

Dywedodd Mr Watkin Jones wrth Cymru Fyw fis diwethaf ei fod yn pryderu "y gallai'r ddyled, mewn rhyw ffordd, ddod yn gyfrifoldeb Bangor 1876 yn y pendraw".

"Pe bai'r cyngor yn gorfodi nhw allan, ni fyddai'n elwa unrhyw un yn y gymuned," ychwanegodd.

Ond yn ymateb i Cymru Fyw yn sgil talu'r ddyled yn llawn, dywedodd Mr Watkin Jones ei fod "wedi ei galonogi" gyda'r newyddion.

Disgrifiad o’r llun,

Mae clwb Bangor 1876 wedi chwarae yn Nhreborth ers ei ffurfio yn 2019, ond nid yw'n ateb gofynion y Cymru North yn sgil dyrchafiad y clwb i'r ail haen

"Rydym wedi'n calonogi bod Cyngor Dinas Bangor a CIC Bangor wedi dod i gytundeb ynglŷn â'r dyledion sydd heb eu talu a bod y bygythiad uniongyrchol o gael eu taflu allan wedi'i ddileu," meddai.

"Gobeithiwn y bydd Bangor 1876 a Bangor CIC yn awr yn gallu negodi cytundeb synhwyrol a fydd yn gweld pêl-droed yn ninas Bangor yn dychwelyd i Nantporth er budd y gymuned ehangach."

Cadarnhaodd cadeirydd Bangor 1876, Glynne Roberts, fod cyfarfod wedi ei drefnu ar gyfer nos Fawrth i drafod y camau nesaf.

"'Da ni'n glwb sy'n cael ei redeg gan y cefnogwyr, felly byddwn yn cyfarfod nos fory," meddai wrth Cymru Fyw.

"Ond y bwriad ydy chwarae yn Nantporth y tymor nesaf, a'n bod yn cynnal trafodaethau gyda Nantporth CIC dros ffurfioli'r cytundeb sydd mewn lle."

Pynciau cysylltiedig