Bangor: Cynlluniau 'cyffrous' i uwchraddio stadiwm pêl-droed

Stadiwm Dinas Bangor o'r awyrFfynhonnell y llun, thegas.co.uk
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud i ailwampio tu allan i'r stadiwm, y bar a'r maes parcio, gyda gwelliannau pellach ar y gweill i ehangu'r maes ei hun

  • Cyhoeddwyd

Mae rheolwyr stadiwm pêl-droed yn y gogledd yn gobeithio denu mwy o ddigwyddiadau i'r ardal yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y cyfleusterau.

Yn sgil y penderfyniad i gau Ffordd Ffarrar yn 2011, sef cartref CPD Dinas Bangor ers 1920, Nantporth yw prif stadiwm y ddinas.

Ond yn dilyn cyfnod ansicr, gan gynnwys anghydfod dros ddyled o £63,000 yn ddyledus i gyngor y ddinas, dywed penaethiaid y stadiwm bod cynlluniau "cyffrous" ar gyfer y dyfodol gan gynnwys denu gemau o broffil uwch i'r rhanbarth.

Eisoes wedi buddsoddi cannoedd o filoedd ar wella'r cyfleusterau, bydd y stadiwm ar ei newydd wedd yn cael ei ddatgelu dros y penwythnos.

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am redeg y maes yn dweud fod bwriad i ehangu'r capasiti a'r cyfleusterau ymhellach dros y blynyddoedd i ddod.

Gyda phenderfyniad i ailenwi'r maes yn Stadiwm Dinas Bangor, mae’r gwaith sydd wedi ei gwblhau hyd yma yn cynnwys gwelliannau sylweddol i fynediad a thu allan i’r stadiwm. Mae newidiadau hefyd i'r bar a'r cyfleusterau lletygarwch.

Dywedodd Nick Pritchard, un o gyfarwyddwyr Nantporth CIC: “Ein nod yw creu gofod bywiog a chynhwysol sy’n gwasanaethu nid yn unig cefnogwyr pêl-droed, ond y gymuned gyfan, gan gynnwys cynnal digwyddiadau elusennol am ddim.”

Cadw gemau Ewropeaidd yng Nghymru

Ar un adeg roedd hi'n edrych yn debyg na fyddai'r un gêm Ewropeaidd yn cael ei chynnal yng Nghymru yr haf hwn wedi i faes y Seintiau Newydd yng Nghroesoswallt gael ei enwebu fel 'cartref' dros dro Caernarfon, Cei Connah a'r Bala yng nghystadleuaeth Cyngres Europa.

Ond bellach mae Stadiwm Dinas Bangor wedi sicrhau caniatâd arbennig gan UEFA i gynnal gemau Cei Connah a Chaernarfon - er yr elyniaeth draddodiadol rhwng timau'r ddinas a'r Canêris.

Disgrifiad o’r llun,

Stadiwm Dinas Bangor fydd yn cynnal gemau 'cartref' Caernarfon yn Ewrop eleni gan nad yw'r Oval, uchod, yn cyrraedd gofynion UEFA

Daeth y caniatâd er fod Stadiwm Dinas Bangor gydag ond 1,100 o seddi - sydd 400 yn brin o ofynion arferol UEFA.

Dywed Nantporth CIC fod y cynlluniau ar gyfer y maes yn cynnwys dwy eisteddle newydd bob pen i'r maes er mwyn cynyddu'r gofod i gynnal mwy o gemau proffil uwch.

Dywedodd Antonia Vance, Rheolwr Gweithredol Stadiwm Dinas Bangor wrth BBC Cymru, fod y cynlluniau'n rhai "cyffrous".

"'Da ni'n proud iawn fod Stadiwm Dinas Bangor yr unig leoliad yn yr ardal sydd gyda facilities UEFA categori 2, a 'da ni'n edrych ymlaen i groesawu Caernarfon a Cei Connah yn eu gemau yn Ewrop."

Disgrifiad o’r llun,

Antonia Vance: "Mae hyn i gyd ar gyfer y gymuned, 'da ni isho bod yn rhan o oes newydd i dîm pêl-droed a dinas Bangor"

"Mae na 'blaniau mawr exciting ar gyfer y dyfodol a chael mwy o seddi ar gyfer gemau mawr.

"Ar y funud mae'r lle yn cael total makeover.

"Mi fydd y bar yn fwy cyfforddus a golau a seddi neis a bydd y tu allan yn fwy croesawgar," meddai Ms Vance.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 800 o seddi yn y brif eisteddle ac mae 300 yn yr un ar ochr y Fenai. Y bwriad yw adeiladu dwy eisteddle newydd tu ôl i'r goliau

"Bydd elusennau hefyd yn cael defnyddio'r lleoliad am ddim, mae 'na bosibiliadau o gael events mawr a bandiau mawr yn chwarae yma.

"Mae hyn i gyd ar gyfer y gymuned, 'da ni isho bod yn rhan o oes newydd i dîm pêl-droed a dinas Bangor," ychwanegodd.

'Oedd pethau'n reit dywyll'

Er yn cynnal gemau Ewropeaidd yr haf hwn, y prif glybiau sy'n chwarae yn y stadiwm yw prif glybiau dynion a merched y ddinas - sef Bangor 1876 a CPD Merched Bangor.

Mae'r ddau glwb yn chwarae yn ail haen y pyramid Cymreig ac yn denantiaid.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Atletico Madrid ymysg y clybiau y gwnaeth CPD Dinas Bangor groesawu i'w cyn gartref, Ffordd Farrar, sydd bellach yn archfarchnad

Yn ôl cadeirydd Bangor 1876, mae cael stadiwm gyda'r cyfleusterau gorau yn hollbwysig wrth i'r clwb dargedu dyrchafiad i'r JD Cymru Premier dros y blynyddoedd i ddod.

Gyda'r clwb wedi ei sefydlu yn sgil tranc CPD Dinas Bangor, sydd ddim yn chwarae o gwbl erbyn hyn, dywedodd Glynne Roberts fod dyhead i barhau i ddringo'r pyramid ond fod y stadiwm yn "adnodd byddai pob clwb yn hapus iawn i'w gael".

"Wrth fynd yn ôl bum mlynedd bellach roedd pethau'n reit dywyll ar bêl-droed ym Mangor, ac hefo'r traddodiad a'r hanes yn y ddinas roedd y cefnogwyr yn teimlo bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth i amddiffyn y traddodiad yna," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Glynne Roberts: "Mae'r gwaith sy'n mynd ymlaen ar hyn o bryd am osod y lle 'ma ben ac ysgwydd uwchben unrhyw stadiwm arall, yn sicr o fewn y pyramid yn y gogledd 'ma"

"Y penderfyniad, anodd ar y pryd, oedd bod ni'n sefydlu clwb ein hunain a thorri ffwrdd o hen glwb Dinas Bangor, a phenderfynu fod y clwb o dan berchnogaeth y cefnogwyr.

"Y dyhead hirdymor ydi dringo i'r haen uchaf bosib, ond 'da ni wastad wedi dweud fod ni'n byw o fewn yr adnoddau sydd ganddon ni.

"Yr uchelgais ydi dringo gyn belled a fedrwn ni o fewn yr adnoddau sydd ganddon ni ac aros yn glwb sy'n berchen i'r cefnogwyr.

"'Dan ni mor ffodus fod adnoddau'r stadiwm yma ar gael i ni, mae'r gwaith sy'n mynd ymlaen ar hyn o bryd am osod y lle 'ma ben ac ysgwyddau uwchben unrhyw stadiwm arall, yn sicr o fewn y pyramid yn y gogledd 'ma," meddai.

Ffynhonnell y llun, thegas.co.uk
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith cynnal a chadw ac ailwampio sylweddol wedi bod ar waith ers wythnosau

"Mae'n help i ni ddenu chwaraewyr, mae'n help i'r cefnogwyr weld bod ni'n glwb go iawn ac yn help o ran y dyhead yna fod ganddon ni'r cyfleusterau sy'n cyd-fynd gyda'r uchelgais.

"Mae 'na newidiadau wedi digwydd o ran y pobl sy'n rhedeg y stadiwm, mae ganddon ni berthynas dda iawn hefo nhw."

Hen ffrindiau

Y gêm gyntaf yn y stadiwm yn dilyn y gwaith fydd gêm gyfeillgar yn erbyn FC United brynhawn Sadwrn sef clwb arall sydd yn eiddo i'r cefnogwyr a gwrthwynebwyr Bangor 1876 yn eu gêm gyntaf erioed.

"Mae cefnogwyr FC United yn dod i'n gweld yn rheolaidd, oedd na 4-500 o Fangor wedi mynd i'r gêm yna ym Manceinion [yn 2019] a wnaethon nhw weld yr angerdd yna sydd gan gefnogwyr Bangor a dwi'n meddwl fod y berthynas yna," ychwanegodd Glynne Roberts.

"'Da ni'n gobeithio fydd y lle yma'n eitha' llawn.

"Stadiwm cymunedol sydd yma, mae'r adnoddau'n cael eu gwella ac felly fe fydd. gobeithio, lot mwy o ddefnydd gan y gymuned [o stadiwm] a fydd yn agor i fyny i'r gymuned. Felly mae perchnogaeth o'r stadiwm yn eiddo i bobl Bangor a'r cylch."

Pynciau Cysylltiedig