'Digwyddiad hynod brin': Dolffiniaid trwyn potel yn lladd llo yn y de

Dau ddolffinFfynhonnell y llun, Sarah Michelle Photography
Disgrifiad o’r llun,

Roedd posib gweld y digwyddiad o lan Bae Ceredigion, meddai'r Seawatch Foundation

  • Cyhoeddwyd

Mewn digwyddiad sydd wedi'i ddisgrifio fel un "hynod brin", cafodd llo dolffin cyffredin ei ladd yng Ngheinewydd ddydd Iau, gan bedwar dolffin trwyn potel.

Cafodd y Seawatch Foundation, sy'n gofalu am ddolffiniaid yn yr ardal, eu galw i ymchwilio i'r digwyddiad am 18:10.

Roedd posib gweld y digwyddiad o lan Bae Ceredigion, meddai'r sefydliad, a chafodd y llo ei lwytho ar y cwch i wneud awtopsi - i weld pam gafodd y llo ei adael ar ei ben ei hun yn y dŵr.

Gwelodd teithwyr ar gwch preifat yr hyn yr oeddent yn ei feddwl, i ddechrau, oedd dolffiniaid trwyn potel yn ymosod ar lamhidydd harbwr yn fwriadol - rhywbeth sy'n digwydd o dro i dro.

Nid yw'n glir pam fod dolffiniaid yn ymosod ar lamhidyddion ond dywedodd arbenigwyr y gallai fod yn ymateb i gystadleuaeth am fwyd neu ymddygiad rhywiol wedi'i gamgyfeirio.

Dau ddolffinFfynhonnell y llun, Sarah Michelle Photography

Roedd y cwch, sy'n eiddo i Dolphin Spotting Boat Trips, yn cludo 12 o deithwyr ar daith breifat i weld dolffiniaid.

Un o'r teithwyr ar y cwch oedd Holly Williams, 35, a dywedodd hi fod y dolffiniaid wedi dechrau "neidio allan o'r dŵr".

"Roedden ni'n meddwl mai dim ond chwarae oedden nhw," meddai.

Gwelodd y grŵp rywbeth yn cael ei daflu allan o'r dŵr gan y dolffiniaid ac ar y dechrau roedden nhw'n meddwl mai eog oedd yno - cyn sylweddoli mai llo dolffin cyffredin oedd y creadur.

Pynciau cysylltiedig