Dyn a laddodd dau - gan gynnwys ei frawd - yn euog o lofruddio eto
- Cyhoeddwyd
Mae llofrudd oedd wedi ei ryddhau o'r carchar wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth "sadistaidd" ei gymydog 71 oed.
Daeth yr heddlu o hyd i gorff Wendy Buckney mewn tŷ ar Heol Tanycoed yng Nghlydach, Abertawe ym mis Awst 2022.
Clywodd Llys y Goron Abertawe yn ystod yr achos ei bod wedi ei tharo a'i thrywanu i farwolaeth, a bod ei chorff wedi ei guddio dan ddodrefn.
Mae disgwyl y bydd Brian Whitelock - a gafwyd yn euog o ladd dau ddyn ar ddechrau'r ganrif - yn cael ei ddedfrydu ar 20 Rhagfyr.
- Cyhoeddwyd23 Awst 2022
- Cyhoeddwyd24 Awst 2022
- Cyhoeddwyd25 Awst 2022
Roedd Whitelock wedi cyfaddef dynladdiad Ms Buckney, ond roedd yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Clywodd y llys fod Wendy Buckney yn talu Whitelock i wneud rhywfaint o waith iddi o amgylch y tŷ, ac er ei bod yn ymwybodol o'i gyfnod yn y carchar, roedd hi'n grediniol fod "pawb yn haeddu ail gyfle".
Cafodd Whitelock ei gyhuddo o lofruddio dau ddyn - gan gynnwys ei frawd - yn 2000, a chafodd ei ddedfrydu bryd hynny i oes yn y carchar.
Fe ymosododd ar ei ffrind Nicky Morgan yn ei gartref yn Abertawe cyn llosgi'r eiddo. Roedd ei frawd Glen hefyd yn cysgu yno ar y pryd.
Cafwyd Whitelock yn euog o lofruddiaeth a dynladdiad ac fe dreuliodd 18 mlynedd dan glo, cyn cael ei ryddhau yn 2018.
Fe wnaeth yr erlyniad ddadlau bod tebygrwydd rhwng y marwolaethau yn 2000 a llofruddiaeth Ms Buckney, gan ddweud bod "trais eithafol wedi ei ddefnyddio yn y ddau achos".
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Whitelock wedi defnyddio cyllell, coes bwrdd a silffoedd i ladd Ms Buckney.
Cafodd y phensiynwraig ei darganfod yn noeth yn ystafell fyw ei chartref ar 23 Awst, 2022.
Dywedodd yr erlyniad fod Whitelock wedi arteithio Ms Buckney, a'i fod wedi dweud wrth y swyddogion wnaeth ei arestio fod ei gymydog "yn erfyn arno i stopio".
Yn ôl Chris Rees KC, roedd yr ymosodiad yn un "sadistaidd", ac nad oedd Whitelock wedi dangos unrhyw edifeirwch.
Honnodd Whitelock yn ddiweddarach fod Ms Buckney wedi ei hanafu cyn iddo gyrraedd, ac nad oedd wedi galw am gymorth gan nad oedd hi eisiau iddo wneud.
Awgrymodd hefyd ei fod wedi dioddef dau anaf sylweddol i'r ymennydd cyn marwolaeth Ms Buckney, ac nad oedd yn cofio'r digwyddiad.
'Taith boenus a thorcalonnus'
Dywedodd teulu Wendy Buckney mewn datganiad: "Mae'r ddedfryd yma yn dod â rhywfaint o gyfiawnder i Wendy, a gafodd ei chymryd gennym yn llawer rhy fuan.
"Er na allai unrhyw beth ddod â Wendy yn ôl, rydym ni'n ddiolchgar bod y gwir wedi cael ei glywed.
"Roedd Wendy yn chwaer a modryb gariadus, ac fe wnaeth ei chynhesrwydd, ei hiwmor a'i chymeriad hoffus gael argraff ar gymaint o fywydau.
"Ni fydd ein bywydau ni fyth yr un peth hebddi, ond fe fyddwn ni'n parhau i'w chofio bob dydd.
"Mae wedi bod yn daith boenus a thorcalonnus i'n teulu, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi yn ystod y cyfnod ofnadwy o anodd yma."