Euro 2025: Cyfle olaf i rai o sêr mwyaf Cymru?

Chwaraewyr Cymru yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru yn yr un grŵp rhagbrofol ag Wcráin, Croatia a Kosovo

  • Cyhoeddwyd

Nos Wener bydd tîm pêl-droed merched Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf yn rowndiau rhagbrofol Euro 2025 yn erbyn Croatia ar y Cae Ras yn Wrecsam.

Bydd carfan Rhian Wilkinson wedyn yn herio Kosovo oddi cartref ddydd Mawrth.

Mae Cymru yn gobeithio cyrraedd un o’r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf yn eu hanes.

Owain Llyr sy’n pwyso a mesur eu gobeithion o gyrraedd y rowndiau terfynol yn Y Swistir y flwyddyn nesaf.

Rheolwr newydd

Mi gafodd pawb dipyn o sioc nôl ym mis Ionawr pan ddaeth y cyhoeddiad fod Gemma Grainger wedi gadael ei swydd gyda Chymru i gymryd drosodd fel rheolwr Norwy.

Fe ddaeth Grainger yn agos iawn at arwain Cymru i Gwpan y Byd 2023, gan golli yn eiliadau olaf amser ychwanegol yn erbyn Y Swistir yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.

Doedd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ddim llawer o amser i benodi rheolwr newydd cyn i rowndiau rhagbrofol Euro 2025 ddechrau.

Ac ar ôl i reolwyr ar draws y byd fynegi diddordeb yn y swydd, dyma benderfynu penodi Rhian Wilkinson.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fel chwaraewr fe enillodd Rhian Wilkinson 183 cap dros Ganada

Fe adawodd ei swydd ddiwethaf gyda Portland Thorns o dan gwmwl yn dilyn honiadau ei bod hi wedi cael perthynas gydag un o’i chwaraewyr, er i ymchwiliad ddod i’r casgliad nad oedd hi wedi gwneud dim o’i le.

Mae un peth yn sicr – mae Cymru wedi cael rheolwr o safon.

Fe enillodd brif gynghrair yr Unol Daleithiau, yr NWSL, gyda’r Thorns yn 2022.

Mae hi hefyd wedi treulio cyfnodau fel is-reolwr timau cenedlaethol Canada a Lloegr.

Mae’n ddigon posibl y bydd ganddi bwynt i’w brofi ar ôl gadael ei swydd ddiwethaf ar nodyn chwerw.

Cyfle olaf i rai?

Mae Jess Fishlock wedi cyflawni cymaint yn ei gyrfa.

Mae hi wedi ennill tlysau di-ri gyda chlybiau Seattle Reign, Melbourne City, Frankfurt a Lyon.

Yr unig beth sydd ar goll ar ei CV ydy chwarae mewn cystadleuaeth ryngwladol gyda Chymru.

Yn 37 oed bellach, mae’n debyg mai hon fydd ei hymgyrch ragbrofol olaf.

Ydy hynny am ei gwneud hi’n fwy penderfynol o weld y tîm yn llwyddo?

Mae hi wedi dweud fwy nag unwaith y byddai hi’n gwireddu breuddwyd yn arwain Cymru i’r Euros neu i Gwpan y Byd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae’n debyg mai hon fydd ei hymgyrch ragbrofol olaf Jess Fishlock

Os bydd hi’n chwarae yn y ddwy gêm yn erbyn Croatia a Kosovo, mi fydd hi’n cyrraedd 150 o gapiau – hi fydd y person cyntaf yn hanes Cymru i gyrraedd y garreg filltir honno.

Mae hi’n haeddu cymaint o glod am ei hymroddiad i Gymru dros y blynyddoedd, yn enwedig gan ei bod yn gorfod hedfan adref o ben arall y byd er mwyn chwarae mewn gemau rhyngwladol.

Mae chwaraewyr fel Sophie Ingle, Rachel Rowe a Kayleigh Barton (Kayleigh Green gynt) bellach yn eu 30au hefyd, felly mae’n bosib y byddan nhw hefyd yn gweld yr ymgyrch yma fel y cyfle olaf i gyrraedd twrnament mawr.

Sut mae cyrraedd yr Euros?

Mae’n rhaid cyfaddef – mae’r llwybr i gyrraedd y rowndiau terfynol yn rhai cymhleth!

Fel yng Nghynghrair y Cenhedloedd mae’r rowndiau terfynol wedi eu rhannu yn wahanol haenau.

Mae Cymru yn yr ail haen (Adran B), ac yn yr un grŵp ag Wcráin, Croatia a Kosovo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Cymru o 2-0 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn eu gêm ddiwethaf

Does dim modd cyrraedd y rowndiau terfynol yn awtomatig o’r ail haen, felly mae angen iddyn nhw wneud yn siŵr eu bod nhw’n gorffen yn y tri safle uchaf yn y grŵp er mwyn chwarae yn y gemau ail gyfle.

Os bydden nhw’n gorffen ar frig y grŵp, yna mi fydden nhw’n cael gêm fwy ffafriol yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle.

Os ydych chi’n edrych ar restr detholion y byd, yna Cymru yw’r tîm gorau yn y grŵp.

Mae hynny’n sicr yn cynnig gobaith ar ddechrau ymgyrch, fydd gobeithio yn arwain at le yn yr Euros Y Swistir.

Bydd pob un o gemau Cymru yn rowndiau rhagbrofol Euro 2025 yn cael eu darlledu’n fyw ar BBC Radio Cymru.