Araith y Brenin: Beth sy'n debygol o effeithio ar Gymru?
- Cyhoeddwyd
12 diwrnod wedi i Syr Keir Starmer ddod yn brif weinidog, toc wedi 11:00 fore Mercher fe wnaeth y Brenin Charles agor Senedd newydd San Steffan yn swyddogol gan gyflwyno blaenoriaethau deddfu llywodraeth newydd Prydain mewn araith fer yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Roedd yr araith yn cynnwys bron i 40 o fesurau, ac addewid Rhif 10 oedd y bydd tyfu’r economi wrth galon y cyfan.
Gyda chynifer o fesurau wedi eu cyhoeddi, beth oedd yn yr araith i Gymru – a beth, efallai, oedd ar goll?
'Cryfhau'r gwaith gyda'r llywodraeth datganoledig'
Dywedodd y Brenin y bydd 'na gyngor newydd yn cael ei greu er mwyn helpu'r llywodraeth i "gryfhau ei gwaith gyda'r llywodraethau datganoledig yn Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, fel bod y canlyniad gorau yn cael ei gyflwyno i bobl ar draws y Deyrnas Unedig".
Ychwanegodd fod "sicrhau cynnydd yn yr economi" yn mynd i fod yn "genhadaeth sylfaenol".
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething fod yr "ailosod yn y berthynas" yn rhywbeth "i'w groesawu".
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd30 Mai
Dim gostwng oed pleidleisio
Mae Senedd Cymru eisoes wedi gostwng yr oed pleidleisio i 16 oed ar gyfer yr etholiadau i Fae Caerdydd a chynghorau Cymru.
Roedd adroddiadau y byddai Llywodraeth Prydain yn mynd i’r un cyfeiriad, trwy ganiatáu i bobl 16 ac 17 oed bleidleisio ym mhob etholiad Prydeinig hefyd, ond nid oedd mesur wedi ei gyflwyno am y pwnc yma yn ei araith.
Mae Llywodraeth Prydain hefyd yn ystyried cyflwyno cofrestru awtomatig i bob un person o oed pleidleisio ym Mhrydain, rhag i unrhyw un golli’r dyddiad cau er mwyn cofrestru i fwrw eu pleidlais.
Yn ôl y Comisiwn Etholiadol, roedd bron i 400,000 o bobl yng Nghymru un ai heb gofrestru i bleidleisio neu wedi eu cofrestru yn anghywir y llynedd.
Pobl ifanc a phobl sy’n rhentu oedd fwya' tebygol o fod heb eu cofrestru.
Gwladoli gwasanaethau trên
Mae Llywodraeth Syr Keir wedi addo newid y ddeddf ar reilffyrdd er mwyn gwladoli’r gwasanaethau ar draws Prydain wrth i gytundebau bob cwmni ddod i ben.
Yng Nghymru mae pedwar cytundeb am wasanaethau yn bodoli ar hyn o bryd – mae un ohonyn nhw, Trafnidiaeth Cymru, eisoes yn berchen i Lywodraeth Cymru.
Ond mae Avanti West Coast, Great Western ac Arriva CrossCountry hefyd yn rhedeg gwasanaethau rhwng Cymru a Lloegr - a does yr un o’r cytundebau hynny i fod i ddod i ben cyn 2026 ar y cynharaf, er yr addewid y bydd pob gwasanaeth trên wedi ei wladoli o fewn pum mlynedd.
Yn ôl Llywodraeth Prydain, bydd gwladoli’r gwasanaethau yn mynd i’r afael â blynyddoedd o gwynion dros oedi a phris tocynnau.
Taclo troseddu
Fe wnaeth y Brenin amlinellu sawl mesur i daclo trosedd.
Dywedodd y bydd y llywodraeth yn "edrych i gryfhau ffiniau'r wlad ac i wneud y strydoedd yn saffach".
Bydd hyn yn cael ei gyflawni gyda mesur fydd yn "moderneiddio" y system loches a mewnfudo a sefydlu rheolau newydd i ddiogelwch y ffin.
Dywedodd hefyd bydd 'na fesur newydd yn cael ei gyflwyno i roi "mwy o bwerau i'r heddlu" i ddelio ag agweddau gwrthgymdeithasol yn ogystal â mesurau i wella diogelwch lleoliadau cyhoeddus i "gadw Prydain yn rhydd o derfysgaeth".
Mae'r llywodraeth hefyd yn cynllunio i gyflwyno mesur i "haneru troseddu yn erbyn menywod a merched".
Ynni glân
Mae'r Blaid Lafur wedi addo sefydlu cwmni ynni cyhoeddus GB Energy o fewn y flwyddyn gyntaf o lywodraethu, gyda'i phencadlys yn Yr Alban.
Ond allai cwmni ynni cyhoeddus agor y drws at ddatblygiadau ynni newydd yng Nghymru, o ynni gwynt y môr i niwclear?
Yn ôl Llafur fe fyddai GB Energy yn rhan allweddol o droi cefn ar ein dibyniaeth ar nwy ac olew gan ganolbwyntio ar ynni gwyrdd, a’r cwmni yn cynhyrchu pŵer yn ei hawl ei hun, yn ogystal â pherchnogi, rheoli a gweithredu prosiectau ynni glan law yn llaw â chwmnïau preifat.
Byddai'r cwmni hefyd yn buddsoddi mewn prosiectau ynni newydd trwy gyllideb gwerth £8.3bn dros bum mlynedd, wedi ei ariannu gan fwy o drethi ar elw cwmnïau ynni a nwy.
Mae Llafur wedi dweud y bydd y buddsoddiadau cyntaf yn canolbwyntio ar brosiectau gwynt a solar, ynghyd â thechnoleg ynni newydd fel ynni gwynt o’r môr, hydrogen ac amsugno carbon – a bod bob £1 o arian cyhoeddus yn denu £3 o arian sector preifat.
Yn ôl prif weithredwr Cymdeithas y Diwydiant Niwclear, Tom Greatrex, mae’r diwydiant yn “edrych ymlaen at weld pa gynlluniau sydd gan GB Energy ar gyfer prosiectau niwclear newydd, gyda nifer o benderfyniadau brys angen eu gwneud, yn cynnwys ar Sizewell C, adweithyddion bach modiwlar a Wylfa ar Ynys Môn".
"Prosiect niwclear newydd ar safle Wylfa fyddai'r mewnfuddsoddiad mwyaf yn hanes Cymru," meddai.
Codi’r cyfyngiad budd-daliadau plant
Ond doedd dim sôn yn yr araith y bydd Llafur yn codi’r rheol sy’n cyfyngu budd-daliadau i’r ddau blentyn cyntaf yn unig – er gwaetha'r galwadau o du mewn a thu allan i’r blaid.
Yn ôl Plaid Cymru, mae'r rheol sy’n atal rhieni rhag hawlio credyd cynhwysol neu gredyd treth am drydydd plentyn yn effeithio ar 11% o blant Cymru - 65,000 o blant.
Dylai Syr Keir ddefnyddio araith y Brenin i “ddod â’r cyfyngiad dau blentyn creulon yma i ben," medd Plaid Cymru.
Mae Plaid Cymru yn cefnogi gwelliant gan yr SNP i araith y Brenin i newid y polisi.
Ond mae mwyafrif enfawr Llafur yn San Steffan bellach yn golygu ei bod hi’n annhebygol y bydd unrhyw fygythiad iddyn nhw golli’r bleidlais ar araith y Brenin – er bod rhai aelodau seneddol Llafur yn Lloegr hefyd yn galw am newid.
Mae Keir Starmer wedi dweud ei fod yn deall y dadleuon dros newid y polisi ond bod hynny’n rhy ddrud ar hyn o bryd.
Cafodd y polisi ei gyflwyno gan y Ceidwadwyr yn 2017, a sefydliad y Resolution Foundation yn dweud y byddai cael gwared arni'n costio rhwng £2.5bn a £2.6bn.
Ymatebion y pleidiau eraill
Wrth ymateb i araith y Brenin, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts er bod Llywodraeth y DU wedi "gosod cynlluniau i gryfhau datganoli gan ddweud bod datganoli yn hanfodol i yrru twf yr economi... nid oedd mwy o bwerau i Gymru".
"Mae'n edrych fel pe bai Llafur yn hapus i gadw Cymru ar ei hôl hi."
Dywedodd hefyd fod gan "Blaid Cymru rôl glir i'w chwarae yn y Senedd newydd".
Ychwanegodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: "Tra bod 'na rhannau o araith y Brenin i'w groesawu, mae pobl yng Nghymru yn aros am ddiwedd i'r annhegwch economaidd."
Dywedodd mai'r ffordd i sicrhau'r tegwch economaidd yw "os byddai Llywodraeth y DU yn gweithredu ar frys ar gyfer ein cymunedau dur ac yn sicrhau na fydd unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl".