'Rhai ardaloedd angen mwy o fewnfudo' - Rhun ap Iorwerth
- Cyhoeddwyd
Mae rhai ardaloedd yng Nghymru angen mwy, nid llai, o fewnfudo yn ôl arweinydd Plaid Cymru.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth mewn cyfweliad â BBC Cymru fod angen "mwy o fewnfudwyr mewn rhai mannau".
Yn 2023 fe wnaeth tua 685,000 o bobl fewnfudo'n gyfreithlon i'r DU, ond mae Ysgrifennydd Cymru David TC Davies wedi dweud ei fod eisiau gweld y ffigwr yn gostwng i 100,000-150,000.
Ond yn ôl Mr ap Iorwerth, Llywodraeth y DU sydd ar fai bod gwasanaethau cyhoeddus dan straen - nid mewnfudwyr.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru ei fod yn cymryd "pryderon gwirioneddol" pobl am nifer y mewnfudwyr i'r DU "yn ddifrifol iawn".
"Dylwn ni gymryd sylw o bryderon pobl y gallai mewnfudo roi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus," meddai Mr ap Iorwerth.
Ond dywedodd fod y pwysau ar wasanaethau cyhoeddus yn "deillio o ddiffyg gwariant cyhoeddus gan Lywodraeth y DU."
"Byddai un blaid yn dweud ei fod [mewnfudo] yn rhoi pwysau ar ysgolion... ond y broblem sydd gennym ni gydag ysgolion lle rwy'n byw ydy diffyg disgyblion.
"Mae diboblogi yn un o'r materion mwyaf sy'n ein hwynebu ni."
'Angen mwy o bobl mewn rhai meysydd'
Dywedodd fod angen i geiswyr lloches "gael eu prosesu yn gywir", ac y dylai'r rheiny sydd ddim yn cyrraedd y trothwy gael eu gyrru adref "os yn ddiogel".
"Mae angen i ni gydnabod sut dy'n ni'n cael mwy o bobl i rai meysydd yn yr economi, fel iechyd a gofal," meddai.
"'Mae mewnfudo yn ddrwg' yn bennawd y mae rhai pobl mewn gwleidyddiaeth - pobl sydd eisiau cymryd mantais - eisiau i chi ddarllen."
Dywedodd Mr ap Iorwerth hefyd y bydd ymgyrchu dros annibyniaeth yn cael ei roi o'r neilltu am y tro wrth i'r blaid ganolbwyntio ar yr etholiad cyffredinol.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth mewn cyfweliad â BBC Cymru mai "nid etholiad annibyniaeth ydy hwn".
Dyw maniffesto Plaid Cymru ddim yn mynd i fanylder am annibyniaeth tan dudalen 42, ac nid yw'n gosod targed o ran dyddiad i gael refferendwm, yn wahanol i rai o faniffestos blaenorol y blaid.
Ond dywedodd Mr ap Iorwerth mai cael Cymru annibynnol yw'r "wobr ar ddiwedd y dydd", a'i fod "wastad wedi credu hynny".
"Rydyn ni'n siarad am nawr, a sut y gallwn ni adeiladu economi gryfach, ffyniannus i Gymru," meddai.
'Popeth yn ymwneud ag annibyniaeth'
Yn ymateb i sylw ymgeisydd Plaid Cymru, Ann Davies ar BBC Radio Wales fore Llun nad ydy annibyniaeth yn fater sy'n cael ei grybwyll ar stepen y drws, dywedodd Mr ap Iorwerth fod pob pwnc yn ymwneud â Chymru annibynnol.
"Yr hyn sy'n bwysig i bobl - iechyd, addysg, yr economi - mae'r rheiny oll yn bendant am annibyniaeth," meddai.
"Mae traean o bobl yn dweud wrth arolygon barn yn gyson y byddai ganddyn nhw ddiddordeb mewn cael Cymru annibynnol".
Dywedodd mai nod Plaid Cymru ydy ennyn mwy o ddiddordeb yn y pwnc er mwyn "adeiladu tuag at" Gymru annibynnol.
Bydd cyfweliad llawn Rhun ap Iorwerth yn cael ei ddarlledu ar BBC One Wales am 19:00 nos Lun. Gallwch wylio ar-lein yma.
Y cyfweliad gydag arweinydd Plaid Cymru yw'r olaf yn nghyfres cyfweliadau cyflwynydd BBC Cymru, Nick Servini, gydag aelodau blaenllaw y prif bleidiau cyn yr etholiad.
Gallwch wylio'r cyfweliadau gyda Nick Thomas-Symonds Llafur, David TC Davies o'r Ceidwadwyr, a chynrychiolwyr o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Reform UK, ar wefan y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin
- Cyhoeddwyd11 Mehefin