Cwestiynau difrifol i'r BBC dros achos Huw Edwards

Plediodd Edwards yn euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant
- Cyhoeddwyd
Bydd ysgrifennydd diwylliant y DU yn siarad â chyfarwyddwr cyffredinol y BBC ddydd Iau am ymateb y gorfforaeth i achos Huw Edwards.
Daeth i'r amlwg nos Fercher bod y BBC wedi cael gwybod fod Edwards wedi'i arestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â lluniau o gam-drin plant ym mis Tachwedd 2023.
Mewn datganiad brynhawn Mercher, roedd y BBC ond wedi cyfeirio atynt fel "troseddau difrifol," heb fanylu ar eu natur.
Mae cyfarwyddwr cyffredinol y BBC bellach wedi cadarnhau fod categori'r troseddau wedi'i rannu â'r BBC.
Yn ôl un sy'n gyfarwydd â'r sefyllfa, fe ddywedodd Heddlu'r Met wrth y BBC ar y pryd i beidio â rhannu'r manylion.
Cafodd y cyhoedd wybod am y datblygiad hwnnw yr wythnos hon.
Mae pwysau ar y gorfforaeth i egluro pam na chafodd Edwards ei ddiswyddo wedi i'r BBC ddod i wybod ei fod o wedi cael ei arestio, a pham barhaodd i'w dalu am bum mis wedi hynny.
Huw Edwards yn gadael Llys Ynadon Westminster ar ôl pledio'n euog ddydd Mercher
Gadawodd Edwards y BBC ym mis Ebrill 2024 ar sail "cyngor meddygol".
Cafodd gyflog rhwng £475,000 a £479,999 yn 2023/24, yn ôl cyfrifon diweddaraf y BBC - cynnydd o £40,000 ar y flwyddyn gynt.
Fe wnaeth yr ysgrifennydd diwylliant, Lisa Nandy alw cyfarfod brys â Tim Davie er mwyn cael "eglurder pellach" ar y sefyllfa nos Fercher.
Mae disgwyl i'r ddau siarad dros y ffôn ddydd Iau.
Wedi i Edwards bledio'n euog ddydd Mercher, dywedodd llefarydd ar ran y BBC eu bod wedi eu "syfrdanu gan weithredoedd Mr Edwards" a'u bod yn "cydymdeimlo â'r rhai sydd wedi eu heffeithio".
BBC wedi ymateb yn 'deg a phwyllog'
Fe wnaeth cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tim Davie amddiffyn y penderfyniad i beidio â diswyddo Edwards.
Dywedodd ddydd Iau bod y gorfforaeth wedi gwneud "penderfyniadau anodd mewn modd teg a phwyllog".
"Mi oedden ni'n gwybod fod y peth yn ddifrifol," meddai.
"Doedden ni ddim wedi derbyn unrhyw fanylion, heblaw am gategori'r troseddau posib."
Doedd y BBC ddim yn ymwybodol o oed y plant yn y delweddau.
Ychwanegodd ei fod "bron yn amhosib" tynnu pensiwn Edwards oddi arno.
"O ran cyflog, eto, mae'n heriol yn gyfreithiol, ond mi wnawn ni edrych ar bob opsiwn."

Fe wnaeth Tim Davie ddatgelu fod y BBC yn ymwybodol o ddifrifoldeb troseddau Edwards ym mis Tachwedd
Alex Williams, 25 o Ferthyr Tudful, oedd y dyn wnaeth rannu'r lluniau gydag Edwards.
Cafodd ei ddedfrydu i flwyddyn o garchar wedi ei ohirio ym mis Mawrth, ar ôl pledio'n euog i fod â delweddau categori A, B a C yn ei feddiant, yn ogystal â rhannu delweddau anweddus o blant.
Fe ddywedodd ei gymdogion wrth Newyddion S4C eu bod wedi'u "synnu" gan y newyddion.
Dywedon nhw eu bod yn "gwybod dim" am y ddedfryd ym mis Mawrth.
Yn ôl un sy'n byw ar stryd Williams, mae'r dyn 25 oed yn fyfyriwr prifysgol sy'n teithio'n "ôl a 'mlaen" i dŷ ei rieni.
Mae'r BBC ar ddeall y bu ei rieni yn y tŷ heddiw, ond ni wnaeth unrhyw un ateb y drws i Newyddion S4C.
Dywedodd cymdogion Williams nad oedden nhw wedi gweld ef na'i gar am sawl diwrnod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2024