Trigolion pentref Wrecsam yn cwyno am arogl wyau o safle tirlenwi
- Cyhoeddwyd
Bydd rheolaeth safle tirlenwi yn Wrecsam sy'n creu arogl wyau drwg i drigolion cyfagos yn cael ei drafod yr wythnos hon.
Mae pobl sy'n byw ym mhentref Johnstown wedi cwyno ers tro am arogleuon drwg yn dod o Safle Tirlenwi Hafod, lle mae gwastraff domestig a masnachol yn cael ei gladdu, yn ôl y Gwasanaeth Adrodd am Ddemocratiaeth Leol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi annog y gweithredwr safleoedd Enovert i i fynd i’r afael â’r broblem ar ôl rhoi hysbysiad statudol iddynt ym mis Rhagfyr 2023 am dorri eu trwydded amgylcheddol.
Er bod rhai gwelliannau wedi'u nodi yn ystod y misoedd dilynol, dywed y pentrefwyr fod y drewdod budr yn dal i beri gofid i'w bywydau.
Mae disgwyl i gyfarfod o gynghorwyr gael ei gynnal yr wythnos hon i drafod y mater.
Cyn y ddadl, mae un cynghorydd o Gyngor Wrecsam wedi tynnu sylw at yr effaith negyddol yr arogl ar iechyd pobl.
Dywedodd Hugh Jones mewn adroddiad: “Dechreuodd y gwasanaeth dderbyn galwadau gan drigolion ger y safle ddiwedd mis Hydref 2023 ac fe gysylltodd swyddogion â CNC a gweithredwr y safle i’w hysbysu o’r cwynion.
“Mae dau gyfarfod cyswllt wedi’u cynnal gyda CNC ers hynny.
“Mae deialog gweithredol a pharhaus gyda gweithredwr y safle a CNC, yn ogystal â gyda chyrff iechyd eraill.
“Mae cryfder teimlad y cyhoedd yn sylweddol a chydnabyddir bod yr aroglau sy'n deillio o'r safle yn effeithio ar iechyd a lles unigolion a chymunedol.
“Fel awdurdod lleol, rydym yn parhau i gefnogi CNC o safbwynt rheoleiddio ac wedi cynnal adolygiad o’r opsiynau gorfodi deddfwriaethol.”
'Arogl yn parhau'
Mae ffigyrau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad yn dangos bod mwy na 300 o gwynion wedi’u gwneud am y safle tirlenwi rhwng Hydref 2023 ac Awst eleni.
Dywedodd yr awdurdod lleol hefyd fod staff o dîm iechyd yr amgylchedd wedi treulio “cyfnod sylweddol o amser” yn delio â’r mater.
Nid yw'r adroddiad yn cynnwys unrhyw gynigion penodol i fynd i'r afael â'r broblem, ond mae'n awgrymu bod y cyngor yn parhau i weithio gyda CNC ar gamau gorfodi.
Wrth siarad am effaith yr arogl yn flaenorol, dywedodd cynghorydd Tre Ioan a dirprwy arweinydd y cyngor David A Bithell: “Mae angen i gyrff cyhoeddus gydnabod yr effaith sylweddol y mae hyn yn ei gael ar fywydau beunyddiol pobl.
“Rwyf wedi cyfarfod â Phrif Swyddog Gweithredol safle Enovert a CNC sawl gwaith gyda phawb yn dweud eu bod wedi ymrwymo i fod yn gymdogion da ac eisiau cydweithio.
“Er gwaethaf sawl sicrhad rydym yn parhau i gael arogl o’r safle.”
- Cyhoeddwyd15 Hydref
- Cyhoeddwyd13 Hydref
- Cyhoeddwyd10 Hydref
Dywedodd Enovert eu bod yn ymwybodol o ddadl y cyngor a'u bod eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r mater.
Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol Mark Silvester: “Fel rhan o gynllun gweithredu y cytunwyd arno gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, mae Enovert wedi defnyddio’r holl fesurau priodol i gydymffurfio â thrwydded amgylcheddol y safle.
“(Mae’r rhain yn cynnwys) gosod seilwaith echdynnu nwy, capio ardaloedd gweithredu dros dro, cyflymu capio parhaol a defnyddio’r nwyon a gesglir i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.”
Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan aelodau o'r pwyllgor craffu cartrefi ac amgylchedd yr awdurdod ddydd Mercher 16 Hydref.