Trefnwyr angladdau'n galw ar yrwyr i 'ddangos parch' at hersiau

Mae Arwyn Hughes yn dweud bod achosion o amharchu cerbydau claddu ar y ffyrdd yn digwydd yn amlach fyth yn ddiweddar
- Cyhoeddwyd
Mae ymgymerwyr yn dweud y dylai pobl ddangos mwy o barch at gerbydau angladd ar y ffyrdd, gan alw hefyd am gynnwys y mater mewn profion theori gyrru.
Mae Morgan Vowles, sy'n trefnu angladdau yn ardal Pontypridd, wedi apelio ar yrwyr i beidio â bod mor ddiamynedd ar y ffyrdd.
Un arall sy'n poeni y gallai damweiniau gael eu hachosi wrth i bobl geisio pasio hers a'r cerbydau teuluol sy'n teithio i fynwentydd ac amlosgfeydd, ydy Arwyn Hughes, sy'n trefnu angladdau ym Marian-glas ar Ynys Môn.
Ar raglen Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Mr Hughes fod hyn yn rhywbeth "sydd, yn anffodus, yn digwydd fwy a mwy yn ddiweddar".
- Cyhoeddwyd9 Chwefror
- Cyhoeddwyd26 Ionawr
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2020
"'Da chi'n dod fyny at y capel neu hyd yn oed at dŷ teulu'r ymadawedig, 'da chi'n arafu - a ninnau'n dod allan o'r hers, ma' pobl yn eich pasio chi," meddai Mr Hughes.
"Yn enwedig gan bo' ni'n byw cryn filltiroedd o'r amlosgfa agosa' i ni ym Mangor, y tro diwetha' oedden ni'n mynd yno, mi oedd 'na dri char teulu yn dilyn ni yn yr hers.
"Peth nesa, mi oedd 'na motorhome yn ein pasio ni!"
Esboniodd mai'r rheswm fod hers yn gyrru'n araf ydy er mwyn "dangos parch" i'r meirw a'u teuluoedd yn bennaf.
'Ceir yn gwasgu'r teulu i'r ochr'
Aeth Mr Hughes yn ei flaen i esbonio, er bod ymgymerwyr yn rhoi conau diogelwch y tu allan i gapeli ar foreau angladdau fod ceir yn dal i basio ac yn "gwasgu chi a'r teulu i'r ochr".
Rhywbeth arall peryglus sy'n digwydd ar y ffordd, meddai, ydy gyrru ar gylchfannau.
"Ma'r ceir yn tynnu allan yn syth o'ch blaen chi a ma' nhw'n gwybod y bydd ceir y cynhebrwng am fod yn ara' deg felly ma' nhw'n trio cael ar y blaen i osgoi wastio amser."
Ychwanegodd Mr Hughes ei fod yn credu y dylai addysgu am hyn "fod yn rhan o theory test prawf gyrru, achos mae o'n dweud i fod yn fwy gofalus os oes 'na rywun hefo ceffyl neu feic".
"Sa'n well os fysa' nhw'n rhoi hwnna fewn, bod angen bod dipyn bach yn fwy gofalus pan ma' nhw'n gweld angladd - o ran parch ac o ran diogelwch hefyd."
'Gyrru'n ddiogel, gyda pharch' yn rhan o'r prawf
Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) Llywodraeth y DU mai eu blaenoriaeth yw "helpu pawb drwy oes o yrru'n ddiogel".
"Mae gyrru'n ddiogel, gyda pharch at bawb arall ar y ffordd, yn rhan o'r prawf theori gyrru.
"Mae'r prawf gyrru ymarferol yn cael ei gynnal mewn amgylchedd byw, felly nid yw'n bosib i bob ymgeisydd brofi sefyllfa sy'n ymwneud â gyrru o amgylch gorymdaith angladdol.
"Os yw ymgeisydd yn dod ar draws angladd yn ystod prawf, mae eu gallu i ddelio â'r sefyllfa yn cael ei asesu."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.