Y Cymro cyntaf i gael ci tywys

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Tomos ap Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Tomos ap Rhys a'i gi tywys Sheba

Tomos ap Rhys o Fangor oedd y Cymro cyntaf i gael ci tywys.

Yn y 1930au, roedd yn un o bedwar o ddynion dall ym Mhrydain i gael ci tywys am y tro cyntaf.

Cafodd German Shepherd o'r enw Folly, wnaeth newid ei fywyd.

Mae ei wyres Helen Trevor Davies o'r Fenni wedi siarad am fywyd ei thaid / thadcu: "Roedd fy nhaid yn barod am her pan gafodd gi tywys yn 1931 - un o'r pedwar dyn cyntaf ym Mhrydain i gael ci tywys a'r Cymro cyntaf.

"Gwnaeth y ci tywys newid ei fywyd, gan roi annibyniaeth iddo."

Roedd Tomos ap Rhys wedi cael ei anfon i Ffrainc ym Medi 1915 i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ond roedd rhaid iddo adael y fyddin yn 1917 pan oedd yn 20 oed ar ôl iddo golli ei olwg oherwydd nwy.

Meddai Helen: "Mae'n rhaid bod Tomos ap Rhys wedi cael profiadau erchyll ond doedd e byth yn siarad amdanyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Tomos ap Rhys

Aeth yn ôl i Brydain a chyfarfod Evelyn Kenrick, nyrs o Surrey. Priododd y ddau yn 1919 ac yna mynd i fyw ym Mangor a chael tri o blant - Elizabeth, Ceridwen a Tomos.

Aeth Tomos ap Rhys i Brifysgol Bangor gan gael gradd dosbarth cyntaf gyda help Evelyn, oedd yn darllen iddo bob dydd.

Ffynhonnell y llun, Tomos ap Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Diwrnod priodas Tomos ap Rhys ac Evelyn Kenrick

Newid byd

Pan glywodd Tomos ap Rhys fod cŵn tywys yn Lerpwl yn cael eu hyfforddi ar gyfer pobl ddall, gofynnodd am un ar unwaith.

Dyma pryd ddaeth Folly i'w fywyd. Yn ôl y teulu, roedd hi'n gi tywys gwych. Roedd hi'n rhan o'r teulu o'r cychwyn, ond yn gwybod bod ei lle wrth ymyl Tomos bob amser.

Yn ôl Helen: "Gwnaeth Folly newid bywyd Tomos ac roedd ganddo berthynas agos gyda'r ci. Roedd y ci tywys yn rhan mawr o'r teulu. Dwi'n cofio pawb yn siarad am y ci yn annwyl iawn.

"Aeth ymlaen i gael nifer o gŵn tywys, fel Pero, Danny a Sheba."

Dywedodd Tomos ap Rhys mai'r pethau mwyaf defnyddiol yn ei fywyd oedd ei gi tywys a'i radio. Gyda chymorth Folly, gwnaeth Tomos wella ei ffitrwydd nes ei fod yn gallu rhwyfo a cherdded mewn cystadlaethau; pethau oedd e'n eu mwynhau'n fawr.

Roedd hefyd yn gweithio mewn ysbyty fel ffisiotherapydd.

Ffynhonnell y llun, Tomos ap Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Tomos ap Rhys a'i deulu, Pasg 1965

Meddai Helen: ""Roedd fy nhaid yn ddwyieithog a Chymraeg oedd ei iaith gyntaf.

"Roedd wedi derbyn ei fod yn ddall ac yn barod i wynebu heriau yn ei fywyd. Roedd ganddo feddwl gweithgar ac roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn materion cyfoes. Roedd hefyd yn actif iawn."

Geirfa

ci tywys / guide dog

dall / blind

wyres / granddaughter

taid/tadcu / grandfather

her / challenge

annibyniaeth / independence

ymladd / fight

byddin / army

olwg / sight

nwy / gas

profiadau erchyll / traumatic experiences

cyfarfod / meet

Prifysgol / University

gradd dosbarth cyntaf / first class degree

hyfforddi / train

perthynas / relationship

annwyl / dear

defnyddiol / useful

cymorth / assistance

ffitrwydd / fitness

rhwyfo / row

cystadlaethau / competitions

ffisiotherapydd / physiotherapist

dwyieithog / bilingual

heriau / challenges

materion cyfoes / current affairs

actif / active

Straeon perthnasol

Pynciau cysylltiedig