'Lle i fentrau lleol helpu'r Gymraeg fel iaith gymunedol'

Mae Huw Davies a Donna Watts yn gweithio i Bartneriaeth Ogwen yn ardal Bethesda
- Cyhoeddwyd
Mae sgôp i ddatblygu mwy o fentrau lleol sy'n cael eu harwain gan gymunedau Cymraeg eu hiaith, yn ôl un bartneriaeth o'r fath sy'n cyflogi dros 20 o bobl yng Ngwynedd.
Dydd Iau fe wnaeth adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg argymell yr angen am "gamau radical" i gryfhau’r Gymraeg fel iaith genedlaethol fyw a'i gwarchod fel iaith gymunedol.
Ymysg y bron i 60 o argymhellion oedd grymuso cymunedau Cymraeg drwy ddynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch lle mae canran uchel o siaradwyr Cymraeg.
Mae hyn, yn ôl yr adroddiad a arweiniwyd gan Dr Simon Brooks, yn cynnwys "cefnogi modelau o ddatblygu cymunedol sy’n hybu mentrau cymunedol a chyd-berchnogaeth".
Dywed rhai o arweinwyr Partneriaeth Ogwen yn ardal Bethesda, sy'n rhedeg nifer o brosiectau arloesol er budd y gymuned a’i ddatblygiad economaidd, fod lle i fabwysiadu prosiectau tebyg mewn ardaloedd eraill lle mae'r Gymraeg yn gryf.
Ond roedd rhybudd hefyd fod angen ffynonellau ariannol mwy sefydlog i sicrhau eu ffyniant hirdymor.
'Dim rhaid mynd i Gaernarfon neu Fangor i weithio'
Ar ôl trawsnewid hen adeilad ysgol, mae Partneriaeth Ogwen yn rhedeg Canolfan Cefnfaes sy'n agos at ganol tref Bethesda.
Mae'r ganolfan yn cynnig nifer o ystafelloedd sydd ar gael i’w llogi gan y gymuned a busnesau, gan gynnwys gofod i gydweithio.
Mae'n un o sawl cynllun sy'n cael ei weithredu gan Bartneriaeth Ogwen, sydd erbyn hyn yn cyflogi 22 o bobl.

Roedd Canolfan Cefnfaes yn arfer bod yn ysgol a chlwb ieuenctid, ger stryd fawr Bethesda
Yn ôl Huw Davies, rheolwr prosiect Dyffryn Caredig, mae'r gallu i bobl barhau i weithio yn eu bro yn hollbwysig wrth hybu ffyniant economaidd mewn ardal ôl-ddiwydiannol fel Bethesda.
"Mae'n golygu nad oes rhaid mynd i Gaernarfon neu Fangor i weithio, 'da ni'n medru gweithio yn ein cynefin - yn amgylcheddol mae'n well, ac hefyd yn ariannol," meddai.
"Ond y brif her 'swn i'n ddeud ydy ansefydlogrwydd ac ansicrwydd oherwydd bod ni'n dibynnu ar grantiau.
"'Da ni yn fenter gymdeithasol ac yn mentro, ond mae'r cylchoedd dieflig yma o ariannu tair blynedd - os 'da ni'n lwcus - dwy flynedd ac ella misoedd, dydy o ddim yn gynaliadwy ac mae'n llesteirio datblygiad wedyn.
"Tasa gennym ni'r amser yno'n rhydd i ddatblygu 'sa ni wedyn yn gallu bod hyd yn oed fwy effeithiol."
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024
- Cyhoeddwyd4 Awst 2022
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2022
Ond ychwanegodd fod sgôp i ddatblygu mentrau tebyg mewn cymunedau eraill Cymraeg eu hiaith.
"Yn sicr mae 'na le i sefydlu pethau tebyg, mae 'na bethau tebyg yn digwydd ym Mlaenau Ffestiniog, Penygroes, ym Mhen Llŷn ac ein cyfeillion lawr yn y de, ond lle mae ei phig hi'n sownd ydy'r ariannu."

Mae gofod y Gydweithfa yn galluogi pobl i weithio o'u cymuned leol drwy ddarparu Wi-Fi ac adnoddau technoleg gwybodaeth
Ychwanegodd Mr Davies: "Mae rhaid i ni gael y buddsoddiad yna i wneud yn siŵr fod ni'n gallu denu pobl a'u cynnal nhw, a'r rheiny sy'n byw yn eu cymuned sydd wedyn yn meithrin a datblygu ein hiaith a'n diwylliant ni.
"'Da chi'n gweld o'r bwrlwm sydd yma, mae gynnon ni bob dim o wersi arlunio i yrfa chwist i karate... mae cael canolbwynt yn ein cymunedau ni wedyn yn rhoi ymdeimlad o berchnogaeth i bobl a'r ymdeimlad fod o'n rhywle gwerth chweil i fyw.
"Mae gennym ni gymuned yma. Mae gennym ni lot o bobl sydd wedi symud yma, hefo'r brifysgol ym Mangor, ac maen nhw'n gwerthfawrogi be 'da ni'n ei wneud.
"Maen nhw'n gweld hefyd fod diwylliant Cymraeg a Chymreig yma."
'Y Gymraeg yw ein hiaith weinyddol'
Ers ei sefydlu mae'r fenter gymunedol wedi perchnogi rhai o adeiladau'r stryd fawr ym Methesda i hybu'r economi leol, a rhentu siopau a fflatiau i bobl leol.
Mae hefyd gwasanaeth bysiau trydan cymunedol, sydd yn ogystal â bod yn adnodd i'r ardal, hefyd yn helpu i daclo problemau parcio yn rhai o atyniadau'r fro, a chynllun solar a batri i wefru'r cerbydau.
Dywedodd Donna Watts, dirprwy brif weithredwr Partneriaeth Ogwen, fod llawer o alw ar eu gwasanaethau ers eu sefydlu tua degawd yn ôl.
Ychwanegodd fod mentrau fel y Gydweithfa wedi bod yn boblogaidd ers trawsnewid y cyn-ysgol a chanolfan ieuenctid at ddefnydd cymunedol.
Mae hi hefyd yn credu fod lle ar gyfer canolfannau tebyg mewn ardaloedd eraill.
"'Da ni wrth ein bodd bod yn ganol y gymuned a helpu pobl ar ein stepan drws," meddai.
"Mae'r elfen ieithyddol yn hollbwysig - y Gymraeg yw ein hiaith weinyddol a 'da ni i gyd yn dod o Ddyffryn Ogwen."

Mae Partneriaeth Ogwen hefyd yn rhedeg gwasanaeth bysiau trydan cymunedol
Ychwanegodd: "'Da ni'n lwcus ym Methesda mai Cymraeg - i'r rhan fwyaf - ydy'r iaith gyntaf, ac mae'r rhai sy'n symud i mewn i'w weld yn parchu hynny.
"Os ydy cymunedau eraill hefo'r awydd a'r brwdfrydedd oedd gan Partneriaeth Ogwen, mae'n bendant yn rhywbeth sy'n gallu cael ei wneud."
Wedi cyhoeddi argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, y byddai'r llywodraeth yn "ystyried y canfyddiadau a'r argymhellion yn ofalus cyn ymateb".
'Lle i fyw a gweithio'
Yn siarad ar raglen y Post Prynhawn dywedodd Elen Hughes, cyfarwyddwr prosiectau gyda Menter Môn a Llwyddo'n Lleol, ei bod yn croesawu argymhellion adroddiad Dr Brooks.
"'Da ni'n colli lot o bobl ifanc o flwyddyn i flwyddyn o'r ardaloedd sydd hefo'r dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg, felly mae gallu sicrhau fod yr ardaloedd yma'n cael eu cynnal yn hollbwysig, a dwi'n meddwl beth sy'n braf ydy fod yr argymhellion yn cydnabod gwerth Llwyddo'n Lleol, er enghraifft," meddai.
"Dydy newid agweddau ddim am ddigwydd dros nos ond mae o'n rhywbeth sy'n hollol allweddol a chanolog os ydan ni am weld parhad yn yr ardaloedd yma ond cynnydd hefyd - cael mwy o bobl yn ôl a sicrhau lle iddyn nhw fyw a gweithio.
"Efo'r gwaith da sy'n mynd ymlaen yn barod yn yr ardaloedd yma, mae 'na lot o waith arfer da i'w rannu, felly ehangu ar y gwaith yna ydy'r nod a gallu cynllunio'r hirdymor... mae hynny'n hollol allweddol."