Morgannwg yn ennill dyrchafiad i haen uchaf Pencampwriaeth y Siroedd

Dyw Morgannwg heb gael eu trechu ers mis Ebrill yn y bencampwriaeth
- Cyhoeddwyd
Mae clwb criced Morgannwg wedi sicrhau dyrchafiad i haen uchaf Pencampwriaeth y Siroedd am y tro cyntaf mewn 21 mlynedd.
Daw wedi i'r Cymry gael gêm gyfartal oddi cartref yn Sir Derby oherwydd glaw, ac wedi i Middlesex fethu ag ennill oddi cartref yn Sir Gaerhirfryn.
Mae Morgannwg wedi ennill pum gêm, colli dwy, a chael chwe gêm gyfartal yn y bencampwriaeth y tymor yma, a dydyn nhw ddim wedi cael eu trechu ers mis Ebrill.
Fe fyddan nhw'n herio Sir Gaerhirfryn yn eu gêm olaf o'r tymor yr wythnos nesaf, ond bellach does dim pwysau ar y Cymry am ganlyniad yn y gêm honno.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin
- Cyhoeddwyd31 Awst
- Cyhoeddwyd23 Medi 2024