Gwrandawiad: Uwch-arolygydd heddlu 'ddim yn meddwl am y canlyniadau'

Mae Gary Davies wedi'i gyhuddo o bum achos o gamymddygiad o fewn y llu rhwng 2017 a 2021
- Cyhoeddwyd
Mae uwch-arolygydd heddlu wedi dweud wrth wrandawiad camymddwyn "nad oedd o'n meddwl am y canlyniadau", wrth anfon neges destun at gydweithiwr benywaidd yn awgrymu eu bod yn rhedeg i ffwrdd gyda'i gilydd.
Mae Gary Davies wedi'i gyhuddo o bum achos o gamymddygiad o fewn y llu rhwng 2017 a 2021, gan gynnwys cyffwrdd â staff benywaidd mewn parti Nadolig.
Mae'r Uwch-arolygydd Davies yn wynebu honiadau ei fod wedi cyfeirio at ymddangosiad neu rywioldeb merched, ac hefyd wedi'i gyhuddo o roi llysenwau i fenywod y bu'n gweithio gyda nhw - enwau fel Ferrari, Rolls-Royce a Porsche.
Mae Mr Davies yn gwadu bod ei weithredoedd honedig yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol ac yn gwadu ei fod wedi ymddwyn mewn ffordd sy'n gwahaniaethu.
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd25 Mawrth
Cafodd y dyn 58 oed ei groesholi ddydd Mawrth ym Mhencadlys yr Heddlu yn Llangynnwr, Sir Gaerfyrddin, gan y bargyfreithiwr Mr Elliot Gold.
Cafodd yr uwch-arolygydd ei holi am barti Nadolig yn 2017, lle cafodd ei ddisgrifio yn "amheus", "anghwrtais" ac o fod "dros y lle" gan ddau berson a honnodd fod Mr Davies wedi cyffwrdd â nhw'n amhriodol.
Dywedodd Mr Davies nad oedd o'n cofio manylion y noson, ond roedd o'n derbyn yr honiadau. Ond dadleuodd ynglŷn ag os oedd yr ymddygiad o natur rywiol.
Cytunodd ei fod wedi meddwi'r prynhawn hwnnw, ac yn tueddu i "gyffwrdd pan yn yfed".
Fe gwestiynodd Mr Gold y llysenw yr oedd cydweithwyr benywaidd wedi bod yn galw'r uwch-arolygydd, sef "octopws".
Dywedodd Mr Davies nad oedd y llysenw yn "ganmoliaethus," ond ei fod wedi dod gan "aelodau gonest o staff heddlu".

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Davies mai jôc oedd y cyfeiriad yn y negeseuon at gydweithiwr benywaidd
Ddydd Llun, clywodd y gwrandawiad fod Gary Davies wedi anfon neges destun at gydweithiwr benywaidd yn awgrymu eu bod yn rhedeg i ffwrdd gyda'i gilydd.
Clywodd y gwrandawiad ddydd Mawrth bod y cydweithiwr benywaidd wedi dweud dros neges destun ei bod hi'n "waith cynnal rhy uchel".
Clywon nhw fod Mr Davies wedi'i hateb gan ddweud bod "Porsche yn waith cynnal uchel, ond yn dal yn werth ei berchen."
Dywedodd yr Uwch-arolygydd mai jôc oedd y cyfeiriad yn y negeseuon, ond roedd yn derbyn nad oedd y cydweithiwr benywaidd wedi'u gweld yn ddoniol.
Mae'n gwadu gyrru'r negeseuon "gyda bwriad rhywiol."
"Doeddwn i ddim yn ddigon hunanymwybodol, roeddwn i'n meddwl mai jôc yn unig oedd y cyfeiriad. Wnes i ddim meddwl am y canlyniadau", meddai.
'Wedi'i fwriadu fel canmoliaeth'
Cafodd Mr Davies ei holi am yr honiad ei fod wedi gwneud sylw am wallt cydweithiwr benywaidd mewn cyfarfod, gan achosi iddi deimlo "embaras."
Dywedodd yr uwch-arolygydd fod hyn "wedi'i fwriadu fel canmoliaeth," ac "nad oedd yn ymwneud â'i gallu fel unigolyn".
Gofynnodd y bargyfreithiwr Mr Gold i Mr Davies "pe bawn i'n dweud wrthych chi rŵan fy mod i'n eich gweld chi'n ddeniadol, a fydde hynny'n eich gwneud chi'n anghyfforddus?"
Atebodd Gary Davies y byddai'n deimlad "rhyfedd os byddech chi'n gwneud sylw ar fy ymddangosiad corfforol."
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Davies nad oedd yn meddwl amdano fel ymddygiad rhywiol, ond ei fod yn ei ddeall "y gallai gael ei weld felly".
Gwadodd yn gryf ei fod eisiau "rhoi ei wyneb rhwng bronnau" un cydweithiwr - gan ddweud bod yr unigolyn wnaeth yr honiad yn anghywir.
Wrth gael ei holi am honiadau bod rhai cydweithwyr benywaidd yn teimlo eu bod wedi'u heithrio o drafodaethau gwaith, dywedodd Mr Davies wrth y gwrandawiad "nad dyna oedd ei ddealltwriaeth o o'r sefyllfa".
Clywodd y panel "nad yw Mr Davies yn derbyn" honiadau bod cydweithwyr benywaidd yn teimlo eu bod wedi cael eu "gadael allan" ac wedi cael eu gwneud i deimlo fel "merched cronfa deipio".
Os caiff yr honiadau eu profi, byddai'n gyfystyr â thorri safonau proffesiynol.
Mae'r gwrandawiad yn parhau.