Rees-Zammit ar y fainc ar gyfer gêm gyntaf Tandy wrth y llyw

Steve TandyFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cyfres yr Hydref yw gemau cyntaf y rheolwr Steve Tandy wrth y llyw gyda Chymru

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd Louis Rees-Zammit yn dechrau gêm gyntaf Steve Tandy fel prif hyfforddwr Cymru yn erbyn yr Ariannin ar y fainc.

Mae'r asgellwr yn ôl yng ngharfan Cymru ar ôl iddo ddychwelyd i rygbi yn dilyn cyfnod yn chwarae pêl-droed Americanaidd yn yr Unol Daleithiau.

Mae'r prop Rhys Carre wedi ei ddewis yn y rheng flaen, a hynny am y tro cyntaf ers 2023, tra bod yr wythwr Caerlŷr, Olly Cracknell - sydd eto i ennill cap - wedi ei gynnwys ymhlith yr eilyddion yn sgil anaf Taulupe Faletau.

Fe fydd y crysau cochion yn wynebu Ariannin yn Stadiwm Principality ddydd Sul, cyn herio Japan, Seland Newydd a De Affrica cyn diwedd y mis.

Louis Rees-ZammitFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Louis Rees-Zammit, 24, yn ôl yng ngharfan Cymru, dwy flynedd ar ôl iddo chwarae ddiwethaf dros ei wlad

Mae Tandy wedi gwneud saith newid i'r tîm a lwyddodd i ddod â rhediad o 18 colled o'r bron i ben yn erbyn Japan ym mis Gorffennaf.

Yn ogystal â Carre, fe fydd y prop Keiron Assiratti yn dechrau yn y rheng flaen gyda bachwr y Gweilch, Dewi Lake.

Mae Adam Beard a Dafydd Jenkins yn dychwelyd i'r ail-reng ar ôl colli'r daith i Japan yn ystod yr haf.

Ar ôl chwarae rhan ym muddugoliaeth y Llewod ar eu taith i Awstralia, mae capten Cymru Jac Morgan wedi ei ddewis fel blaenasgellwr ynghyd ag Alex Mann.

Aaron Wainwright fydd yn dechrau yn safle'r wythwr.

Ymhlith yr olwyr, Dan Edwards fydd yn dechrau fel maswr, gyda Ben Thomas a Max Llewellyn yn ganolwyr.

Mae Nicky Smith, Freddie Thomas, Liam Belcher ac Archie Griffin yn ymuno â Cracknell a Rees-Zammit ar y fainc.

Disgrifiad,

Cyn gêm gyntaf Steve Tandy wrth y llyw, mae aelodau yn ei glwb lleol, Ton-mawr, wedi bod yn rhannu eu teimladau

Dywedodd Steve Tandy: "Mae'n fraint enfawr cyhoeddi fy nhîm cyntaf o 23 o chwaraewyr i gynrychioli Cymru.

"Dwi eisiau gweld pob aelod o'r garfan yn camu i'r maes ddydd Sul, mynegi eu hunain ar y cae gan fwynhau pob eiliad o gynrychioli eu gwlad gyda chrys mor arbennig ac unigryw ar eu cefnau."

Ychwanegodd Tandy fod Olly Cracknell ymhlith y chwaraewyr sydd wedi creu argraff yn ystod y sesiynau ymarfer.

"Dwi'n ei adnabod ers blynyddoedd, cefais y fraint o'i hyfforddi yn ystod fy amser gyda'r Gweilch.

"Mae'n broffesiynol iawn o safbwynt ei agwedd. Mae'n unigolyn penderfynol iawn ac mae wedi profi hynny dros y blynyddoedd gyda'r Gwyddelod yn Llundain ac mae'n arddangos yr un rhinweddau gyda Chaerlŷr erbyn hyn.

"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at ei weld yn trosglwyddo ei ddoniau amlwg i'r llwyfan rhyngwladol."

Tîm Cymru

Blair Murray; Tom Rogers, Max Llewellyn, Ben Thomas, Josh Adams; Dan Edwards, Tomos Williams; Rhys Carre, Dewi Lake, Kieron Assiratti, Dafydd Jenkins, Adam Beard, Alex Mann, Jac Morgan (capt), Aaron Wainwright.

Eilyddion: Liam Belcher, Nicky Smith, Archie Griffin, Freddie Thomas, Olly Cracknell, Kieran Hardy, Jarrod Evans, Louis Rees-Zammit.

Gemau Cyfres yr Hydref Cymru

  • Dydd Sul, 9 Tachwedd - Yr Ariannin - 15:10

  • Dydd Sadwrn, 15 Tachwedd - Japan - 17:40

  • Dydd Sadwrn, 22 Tachwedd - Seland Newydd - 15:10

  • Dydd Sadwrn, 29 Tachwedd - De Affrica - 15:10

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig