'Dim tystiolaeth gadarn' yn erbyn y nyrs a'r llofrudd Lucy Letby - AS

David Davis ASFfynhonnell y llun, ParliamentLive
Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod dadl yn San Steffan dywedodd y cyn-weindog cabinet, David Davis AS, bod angen adolygu'r achos yn erbyn Lucy Letby

  • Cyhoeddwyd

Mae'r AS Ceidwadol David Davis wedi codi cwestiynau am rôl tystion arbenigol yn achos y llofrudd, Lucy Letby, gan alw am achos arall.

Yn ystod dadl yn San Steffan, dywedodd y cyn-weinidog cabinet bod angen adolygu'r achos yn erbyn y nyrs.

Fe wnaeth Syr David gwestiynu'r dystiolaeth a gafodd ei chyflwyno yn yr achos, gan gynnwys tystiolaeth cyn-ymgynghorydd pediatrig o Gymru, Dr Dewi Evans, prif dyst arbenigol yr erlyniad.

Awgrymodd Syr David fod esboniadau eraill am y cynnydd mewn marwolaethau babanod yn yr ysbyty.

Cafwyd Letby yn euog ym mis Awst 2023 o lofruddio saith babi a cheisio lladd saith arall yn Ysbyty Countess of Chester, sy'n gwasanaethu rhannau o ogledd Cymru.

Mae dau gais i apelio yn erbyn ei heuogfarnau wedi cael eu gwrthod.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dr Dewi Evans eisoes wedi ymateb i feirniadaeth o'i dystiolaeth gan ddweud eu bod yn sylwadau "di-sail"

Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Syr David: "Fy nadl ganolog yw beth i'w wneud am achos sydd, yn fy marn i, yn gamweinyddiad cyfiawnder clir gan system farnwrol na all asesu tystiolaeth ystadegol a meddygol anodd.

"Yr unig gorff sydd ar gael i gywiro hyn yw'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol.

"Yn fy marn i, dylai edrych ar yr holl ddiagnosau newydd pan ddônt allan, ac os oes angen, ymgynghori â'r awdurdodau blaenllaw ar gyfer babanod newydd-anedig, y bobl fwyaf arbenigol - pobl sy'n llawer mwy cymwys i roi asesiad cywir na'r arbenigwyr a gyflogwyd gan yr heddlu ar y pryd.

"Doedd dim tystiolaeth galed yn erbyn Letby, ni welodd neb hi'n gwneud dim byd anffafriol (untoward)."

Dywedodd Syr David: "Ym mis Mai 2017, aeth Dewi Evans, meddyg sydd wedi ymddeol ac sydd nawr yn rhedeg busnes sy'n darparu tystiolaeth arbenigol feddygol mewn achosion llysoedd, at yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol i wirfoddoli ei wasanaethau.

"Roedd barn Evans fod Letby yn chwistrellu aer naill ai i wythiennau'r babi, gan achosi emboledd aer, neu i lawr y tiwb nasogastrig i mewn i'r stumog, yn un o'r sylfeini, yn wir, yn brif sylfaen achos yr erlyniad.

"Mae'r dystiolaeth dybiedig hon yn hynod ddadleuol," meddai.

Ychwanegodd: "Newidiodd Evans ei farn ar sawl mater allweddol yn ystod yr achos. Mae bellach yn cael ei gyhuddo gan gyfreithiwr Letby o newid ei farn eto ers diwedd y broses apêl."

'Fy nhystiolaeth ddim yn ddadleuol'

Dywedodd Dr Dewi Evans wrth y BBC: "Nid yw fy nhystiolaeth yn ddadleuol.

"Roedd yn seiliedig ar dystiolaeth a gefnogwyd gan adolygiad trylwyr iawn o'r ymchwil wyddonol a gyhoeddwyd, gyda chefnogaeth meddygon profiadol iawn o ddisgyblaethau eraill, gyda thystiolaeth gan y meddygon lleol, a lle nad oedd yr amddiffyniad wedi darparu un arbenigwr i herio fy nhystiolaeth a thystiolaeth yr erlyniad er gwaethaf cael dwy flynedd i baratoi eu hachos."

Mae eisoes wedi ymateb i feirniadaeth o'i dystiolaeth gan ddweud eu bod yn sylwadau "di-sail".

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Dr Dewi Evans nad oedd dim byd newydd yn sylwadau Syr David.

Wrth gael ei holi am gael ei dalu i roi tystiolaeth ychwanegodd mai dyna'r system sydd wedi bod ers degawdau ac os yw'r Aelod Seneddol yn feirniadol o hynny "pam nad yw wedi codi'r mater yn y 37 mlynedd mae wedi bod yn AS?" gofynnodd.

"Yr unig reswm am ail achos yw tystiolaeth newydd ac o glywed yr hyn yr oedd gan David Davis i'w ddweud ddoe does dim byd newydd," meddai.

"Roedd y wybodaeth 'nes i roi a phawb arall wedi'i seilio ar dystiolaeth wyddonol ac roedd nifer o gyhoeddiadau mewn papurau gwyddonol i gefnogi'r peth... ac wrth gwrs roedd yr amddiffyniad wedi cael dwy flynedd i baratoi'r achos ac wedi methu cael arbenigwr i roi tystiolaeth yn y llys i herio tystiolaeth yr erlyniad.

"Dwi'm yn gweld unrhyw dystiolaeth newydd fyddai'n hawlio achos newydd ac hefyd mae'n rhaid bod yn ofalus oherwydd mae Heddlu Sir Gaer yn dal i edrych ar nifer o achosion eraill nid yn unig yn ysbyty Caer ond hefyd yn Lerpwl dair mlynedd cyn y llofruddiaethau hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Letby yn euog ym mis Awst 2023 o lofruddio saith babi a cheisio lladd saith arall yn Ysbyty Countess of Chester

Yn ymateb i'r ddadl ar ran Llywodraeth y DU roedd y gweinidog cyfiawnder ac AS Pontypridd, Alex Davies-Jones.

Dywedodd: "Er fy mod yn nodi'r pryderon a godwyd am yr achos, mae'r rheithgor wedi ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger eu bron ac maent wedi gwneud eu penderfyniad."

Ychwanegodd: "Nid yw'n briodol i mi na'r llywodraeth wneud sylw ar brosesau barnwrol, na dibynadwyedd euogfarnau neu dystiolaeth. Ar ben hynny, mae'r system cyfiawnder troseddol yn darparu llwybr trwy'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol i'r rhai sy'n credu eu bod wedi eu dedfrydu yn euog ar gam.

"Mae'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol yn gorff annibynnol, ac maen nhw'n adolygu unrhyw geisiadau sy'n dod ger eu bron… eu rôl nhw yw ymchwilio i achosion lle mae pobl yn credu eu bod wedi'u cael yn euog ar gam a chyfeirio achosion yn ôl i'r Llys Apêl… Mae Miss Letby fel unrhyw berson arall a gafwyd yn euog yn gallu gwneud cais i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol."

Pynciau cysylltiedig