Cymru gyfan yn disgwyl gwres llethol dros y penwythnos

Haul yn RhuthunFfynhonnell y llun, Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Dydd Sadwrn y mae disgwyl y gwres poethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Gymru gyfan gael tywydd poeth dros y dyddiau nesaf, gyda tymereddau uchel i ddod ddydd Sadwrn a Sul.

Yn ôl y rhagolygon, bydd y tymheredd yn codi i dros 30°C mewn nifer o leoliadau yng Nghymru dros y penwythnos.

Dydd Sadwrn y mae disgwyl y gwres mwyaf llethol, wrth i rai ardaloedd yn ne ddwyrain Cymru baratoi ar gyfer tymereddau sy'n cyrraedd 33°C.

Yn y cyfamser dywedodd y gwasanaeth tywydd cenedlaethol fod Cymru wedi cofnodi diwrnod poetha'r flwyddyn ddydd Gwener - gyda thymheredd o 32.4C ym Mharc Bute yng Nghaerdydd.

Rheilffordd Cwm RheidolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Nid ydy hwn yn benderfyniad yr ydym wedi'i wneud yn ysgafn," medd Rheilffordd Cwm Rheidol

Mae pob gwasanaeth trên ar Reilffordd Cwm Rheidol wedi'u canslo'r penwythnos yma, dydd Sadwrn a dydd Sul, yn sgil y gwres.

Dywedon nhw fod "risg tân eithafol" ar y lein, yn eu rhwystro rhag medru gweithredu eu systemau stêm yn saff.

"Nid ydy hwn yn benderfyniad yr ydym wedi'i wneud yn ysgafn," meddant mewn cyhoeddiad.

Bydd eu siop, amgueddfa a chaffi ar agor dros y penwythnos ac maen nhw'n "hyderus" y bydd eu gwasanaethau trenau yn ail-ddechrau ddydd Llun.

CerrigydrudionFfynhonnell y llun, Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Cerrigydrudion yn yr haul

Dywedodd Prif Feteorolegydd y Swyddfa Dywydd, Steve Willington, bod "nosweithiau cynnes iawn yn debygol, yn enwedig i rai rhannau gorllewinol y DU".

"Mae disgwyl isafbwyntiau dros nos i fynd i fyny i'r arddegau uchel, neu hyd yn oed yr ugeiniau isel, mewn rhannau o orllewin Cymru," meddai.

"Mae'n edrych fel bod dydd Sul ychydig yn oerach na dydd Sadwrn, ond mae tymheredd o 30°C yn dal yn debygol yn nwyrain Cymru."

Tim Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tim Lloyd fod "petha' di cael eu rhoi yn eu lle i neud yn siŵr fod pawb yn cadw'n saff" yn Marathon Llwybr Eryri

Gyda Marathon Llwybr Eryri yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, dywedodd Tim Lloyd, un o'r trefnwyr, bod "newidiadau wedi digwydd" bellach yn sgil y gwres.

Enghraifft o'r newidiadau yma ydy'r offer y mae'r rhedwyr am eu cario, "da ni'n gofyn i bobl gario - minimum litr o ddŵr, sunblock, het haul - y math yna o beth".

"I lot o'r rhedwyr 'ma, cofia, ma' nhw'n trafeilio o wledydd poeth yn y byd a di'r gwres 'ma ddim yn effeithio nhw cweit yr un fath a mae o'n effeithio bobl lleol," meddai.

Ychwanegodd Mr Lloyd fod "petha' di cael eu rhoi yn eu lle i neud yn siŵr fod pawb yn cadw'n saff".

Chris Roberts
Disgrifiad o’r llun,

"Gobeithio neith y bobl sy'n mynychu gymryd 'chydig bach o gyfrifoldeb personol," medd Chris Roberts

Digwyddiad arall sy'n digwydd dros y penwythnos ydy Gŵyl Arall yng Nghaernarfon a dywedodd Chris Roberts, un o drefnwyr yr ŵyl, eu bod yn "gwneud y gorau ohoni dim otch be' ydy'r tywydd - bob tro".

Esboniodd fod y rhan fwyaf o'r digwyddiadau y maen nhw'n eu cynnal yno, o dan do.

"Yn amlwg da ni'n cynllunio'r ŵyl misoedd o flaen llaw, felly 'da ni'n goro' rhoi petha' mewn lle a meddwl be' sy'n digwydd os di'n storm neu'n ofnadwy o boeth," meddai.

'Digon o ddŵr yfad'

Ychwanegodd Chris mai eu hateb nhw i'r gwres ydy "pwysleisio ar y petha' 'da ni 'di rhoi mewn lle'n barod".

"Y petha' amlwg amwn i [ydy'r ateb], digon o ddŵr yfad ym mhob lleoliad, a geith unrhyw un sy'n mynychu ddŵr yfad am ddim.

"Gobeithio neith y bobl sy'n mynychu gymryd 'chydig bach o gyfrifoldeb personol, os ydy'n nhw'n gweld eu hunain yn mynd yn rhy boeth," meddai Mr Roberts.

Plant yn chwarae wrth y môrFfynhonnell y llun, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi dweud wrth bobl i sicrhau eu bod yn nofio yn y llefydd cywir

Mae Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi cyngor i bobl er mwyn helpu i sicrhau diwrnod diogel ar y traeth - mae disgwyl i'r gwres fod yn 32°C yno.

Ymhlith y cynghorion mae meddwl ddwywaith cyn cynnau barbeciw tafladwy gan eu bod yn medru aros yn boeth am sawl awr ar ôl cael eu defnyddio.

Maen nhwn hefyd yn gofyn i bobl sicrhau eu bod yn nofio yn y llefydd cywir - ac yn gofyn i bobl beidio deifio o'r morglawdd yno.

LlangollenFfynhonnell y llun, Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Y ddafad yn mwynhau'r haul yn Llangollen

Wedi i griw gwirfoddol RNLI Porthcawl gael eu galw i bum digwyddiad yn ystod yr oriau diwethaf dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr bod y cyngor yn "croesawu pob ymwelydd sy'n ymddwyn yn gyfrifol, yn aros yn ddiogel ac yn rhoi eu sbwriel mewn biniau neu'n mynd ag ef adref gyda nhw".

Roedd pedwar o'r digwyddiadau lle bu'n rhaid galw am gymorth yn rhai lle oedd pobl oedd wedi mynd i drafferth tra'n defnyddio byrddau padlo.

Stadiwm y PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd yn gadael i bobl ail-lenwi poteli dŵr am ddim yno

A hithau'n benwythos cyngherddau y Sterephonics mae Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd wedi cadarnhau eu bod yn gadael i bobl ail-lenwi poteli dŵr am ddim yno, oherwydd y gwres.

Ond, mae'n rhaid i'r poteli fod yn rhai 500ml ac yn rhai sy'n medru crebachu.

Mae'r trefnwyr yn annog pobl yfed digon o ddŵr a defnyddio eli haul.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.