Ystyried uned gofal brys i'r dydd yn unig yn ysbyty Llanelli
![Uned Mân Anafiadau [UMA] Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/f788/live/43580460-9a23-11f0-97f5-bd38218a3641.jpg)
Penderfynodd y Bwrdd Iechyd newid oriau agor y gwasanaeth dros dro yn Nhachwedd - o wasanaeth 24 awr i 12 awr
- Cyhoeddwyd
Mae uned gofal brys 12 awr wedi cael ei chymeradwyo gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fel y dewis mwyaf ffafriol ar gyfer dyfodol Uned Mân Anafiadau [UMA] Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli.
Daw'r cyhoeddiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn cyfarfod ddydd Iau, wedi ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y gwasanaeth.
Ers mis Tachwedd 2024, mae'r UMA wedi bod yn gweithredu oriau agor dros dro - o 08:00 tan 20:00 er mwyn diogelu cleifion a staff.
Er bydd, o bosib, angen buddsoddiad cyfalaf i wireddu'r cynllun, dywedodd y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, Mark Henwood, bod y bwrdd iechyd yn ystyried yr opsiwn fel un y gellid ei gyflawni.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cynnal eu hystad, fel bod pobl yn derbyn gwasanaethau diogel a chynaliadwy."

Penderfynodd y bwrdd iechyd newid oriau agor y gwasanaeth dros dro yn Nhachwedd - o 24 awr y dydd saith diwrnod yr wythnos, i wasanaeth 12 awr rhwng 08:00 ac 20:00 saith diwrnod yr wythnos.
Gwnaed hyn er mwyn diogelu diogelwch cleifion a staff, oherwydd nad oeddent yn gallu staffio rotâu meddygol dros nos, yn ogystal â phobl oedd yn mynychu dros nos gyda chyflyrau anaddas ar gyfer UMA.
Cafodd hyn ei amlygu mewn adroddiad gan Arolygiaeth Iechyd Cymru.
Mewn cyfarfod ym mis Mawrth 2025, fe wnaeth y Bwrdd ystyried a gellid ailsefydlu'r UMA i weithredu am 24 awr unwaith eto.
Ond, daeth yr aelodau i benderfyniad nad oedd modd dychwelyd i'r oriau gwreiddiol.
![Uned Mân Anafiadau [UMA] Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/c23c/live/ce402040-9a22-11f0-92db-77261a15b9d2.jpg)
Ers mis Tachwedd 2024, mae'r uned wedi bod yn gweithredu o dan oriau agor dros dro 08:00 tan 20:00
Roedd eu penderfyniad i raddau helaeth yn seiliedig ar bwysau staffio a'r ffaith nad oedd rota 24 awr gadarn mewn lle a phenderfynwyd cadw oriau agor yr uned i 08:00 tan 20:00.
Wedi hynny, cafodd pedwar opsiwn hirdymor eu datblygu ar gyfer y gwasanaeth.
Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ei chytuno a'i chynnal rhwng 28 Ebrill a 22 Gorffennaf 2025, i gasglu barn cleifion, staff, y cyhoedd a rhanddeiliaid.
Roedd y pedwar opsiwn yn cynnwys amrywio oriau agor, neu ddarparu model gofal brys.
Dywedodd y Bwrdd Iechyd iddynt dderbyn dros 700 o ymatebion i'r holiadur, ynghyd â channoedd o sgyrsiau a chafodd eu cynnal drwy ddigwyddiadau galw heibio cyhoeddus ac ar-lein, cyfarfodydd â grwpiau a sefydliadau cymunedol, yn ogystal â llawer o sesiynau ymgysylltu uniongyrchol â chleifion a staff.
Fe arweiniodd hyn, medden nhw, at adborth manwl ac ystyriaeth am y pedwar opsiwn, yn ogystal â chwe opsiwn newydd gan ymatebwyr yr ymgynghorwyd â nhw - y gallai'r bwrdd ystyried eu gweithredu.
'Gofal diogel ac effeithiol'
Wrth drafod yr opsiynau ddydd Iau ac wrth i'r adroddiad ymgynghori llawn gael ei gyflwyno, soniodd y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, Mark Henwood, pa opsiynau oedd y mwyaf cyflawnadwy.
Ymhlith y rhain oedd opsiwn 4a - sef Canolfan Driniaeth Gofal Brys 12 awr.
Wrth siarad o blaid yr opsiwn hwnnw, dywedodd Dr Jon Morris, Arweinydd Clinigol yn yr Adran Fân Anafiadau, y byddai opsiwn 4a yn lleihau'r nifer o gleifion yr oedden nhw'n gorfod eu hailgyfeirio at wasanaethau eraill.
Ychwanegodd Dr Morris bod model 12 awr "yn sicr yn gweithio".
"Ers Tachwedd 2024, rydym wedi bod yn darparu gofal diogel ac effeithiol," meddai.
Dywedodd eu bod wedi llwyddo i recriwtio staff yn ddiweddar, ond nid digon ar gyfer cynnal gwasanaeth 24 awr.

Ers cwtogi'r oriau agor yn Nhachwedd 2024, dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio, bod yr UMA yn dal wedi cyrraedd y gofynion - ond gyda mwy o reolaeth.
Dywedodd bod oedi 12 awr o hyd wedi cael ei ddatrys a bod profiad y cleifion a'r staff yn well.
"Ry'n ni'n trin y bobl iawn, yn y lle iawn, ar yr amser iawn," meddai.
Yn ôl Philip Kloer, Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, dyma'r opsiwn oedd yn ymddangos fel yr un â'r cyfle i gyflwyno "gwell cynaliadwyedd a safon gwell" i'r cyhoedd.
'Angen ystyried yr effaith'
Cytunodd y Cadeirydd, Neil Woodward y byddai opsiwn 4a yn darparu gwerth ychwanegol yn y dyfodol.
"Mae wedi bod yn benderfyniad anodd, yn un pwysig a'r un cywir," meddai.
Cytunodd aelodau'r bwrdd i gymeradwyo opsiwn 4a, sef Canolfan Driniaeth Gofal Brys 12 awr, fel eu hopsiwn mwyaf ffafriol.
Ar ddiwedd y drafodaeth atgoffodd Huw Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid y Bwrdd Iechyd, fod y penderfyniad yn golygu buddsoddi ymhellach.
"Mae hwn yn fuddsoddiad net rydym yn ei wneud yn yr uned hon a bydd angen i ni ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar ein cynlluniau eraill ar draws y bwrdd iechyd."
'Byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG yn gyfrifol'
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cynnal eu hystad, fel bod pobl yn derbyn gwasanaethau diogel a chynaliadwy".
"Rydym yn parhau i fuddsoddi symiau sylweddol yn GIG Cymru, gyda mwy na £400m o gyllid cyfalaf eisoes wedi'i ddarparu i sefydliadau yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
"Fel rhan o'r cyllid hwn, mae sefydliadau'n derbyn cyfran o fwy na £100m fel cyfalaf dewisol iddynt ei gyfeirio at feysydd blaenoriaeth.
"Hyd yn hyn, nid oes unrhyw gynnig wedi'i rannu â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r datblygiad hwn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd11 Mehefin
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2020