Cymeradwyo ysgol anghenion ychwanegol newydd yn Llanelli

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi pleidleisio i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer ysgol newydd
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i adeiladu ysgol newydd ar gyfer 150 o ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn Llanelli wedi ei gymeradwyo.
Daw ar ôl i Gyngor Sir Caerfyrddin ddweud y llynedd nad oedd modd parhau â'r cynllun gwreiddiol i adeiladu ysgol newydd i Heol Goffa oherwydd costau adeiladu, wyth mlynedd ar ôl yr ymrwymiad gwreiddiol.
Wedi ymgyrchu cyson gan rieni a ffrindiau'r ysgol i sicrhau adeilad newydd, cafodd adroddiad annibynnol ei chomisiynu gan y cyngor ar ddarpariaeth addysg arbennig yn yr ardal.
Roedd canfyddiadau'r adroddiad yn nodi chwe opsiwn ar gyfer yr ysgol ac ADY yn lleol.
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd16 Mehefin
Ymysg yr opsiynau fwyaf ffafriol gan y cyngor roedd adeiladu ysgol ar gyfer 150 o ddisgyblion (opsiwn 4) neu adeiladu ysgol newydd ar gyfer 250 o ddisgyblion fyddai'n cynnwys darpariaeth ar gyfer plant â Chyflyrau Sbectrwm Awtistig (opsiwn 5).
Roedd y cyngor yn awyddus, serch hynny, i wybod rhagor am y costau a hyfywedd y dyluniadau.
Wrth argymell y dylid bwrw ymlaen â'r cynllun i adeiladu ysgol i 150 o ddisgyblion mewn cyfarfod cabinet ddydd Iau, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Glynog Davies pe bai'r cyngor wedi bwrw ymlaen â'r cynllun gwreiddiol byddai "wedi bod yn orlawn cyn i'r drysau agor".
Dywedodd hefyd bod ei argymhelliad i fwrw ymlaen ag opsiwn 4 yn "gynllun da, yn gynllun fydd yn cwrdd â'r galw ac yn gynllun y gallwn ni ei wireddu".
Ychwanegodd ei fod wedi derbyn llythyr gan Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Heol Goffa, Owen Jenkins oedd yn nodi fod "staff yr ysgol i gyd yn cefnogi opsiwn 4".
Pleidlais unfrydol
Cafodd yr argymhelliad ei eilio gan y Cynghorydd Alun Lenny a ddywedodd y gellid adeiladu Ysgol Heol Goffa newydd, sy'n fwy o faint na'r un bresennol, "mewn amserlen fyrrach" na'r opsiwn arall o ddarparu ysgol i 250 o ddisgyblion.
Ysgol i hyd at 120 o blant ac 80 o staff oedd y cynllun gwreiddiol yn 2017.
Aeth y Cynghorydd Alun Lenny ymlaen i ddweud y byddai'r ysgol yn costio rhwng £28m a £35m, ac y byddai'n hanfodol i gynnal trafodaethau nawr gyda Llywodraeth Cymru i lunio cynllun busnes.
Fe bleidleisiodd aelodau'r cabinet yn unfrydol o blaid yr argymhelliad i adeiladu Ysgol Heol Goffa newydd gyda lle i 150 o ddisgyblion sydd ag ADY.
Roedd pob aelod yn bresennol yn y cyfarfod cabinet.

Mae rhieni Jac Dakin (canol) yn teimlo rhyddhad mawr ond am i'r ysgol newydd ddechrau cael ei hadeiladu ar unwaith
Mae Lana ac Alex Dakin yn rieni i Jac, 7 oed, sy'n ddisgybl yn Ysgol Heol Goffa.
Wrth ymateb i benderfyniad y cabinet, fe ddywedon nhw eu bod yn "teimlo rhyddhad bod penderfyniad wedi'i wneud o'r diwedd ar gyfer ysgol newydd".
"Bydd hyn ddim yn dileu'r blynyddoedd mae ein mab Jac wedi treulio mewn adeilad nad oedd yn gallu ymateb i'w anghenion, ond o leiaf mae gobaith nawr iddo brofi rhai o'i flynyddoedd ysgol mewn lleoliad sydd wir yn ei gefnogi."
Ychwanegon nhw: "Wedi dweud hynny, rhaid adeiladu'r ysgol newydd ar unwaith, byddai unrhyw oedi yn hollol annerbyniol."
Ategodd Alex Dakin drwy ddweud bod angen "amserlenni clir" ar deuluoedd.
"Mae'n hollbwysig bod y camau nesaf yn sicrhau gwerth am arian ac nad ydynt yn achosi oedi pellach", meddai.
Mae Prifathrawes Ysgol Heol Goffa, Ceri Hopkins wedi croesawu'r cefnogaeth i adeilad newydd sy'n "addas at y diben ar gyfer disgyblion haeddiannol iawn Ysgol Uwchradd YHG", meddai.
"Edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda'r awdurdod lleol i ddylunio, adeiladu a chreu canolfan ragoriaeth y gall Sir Gaerfyrddin gyfan fod yn falch ohoni.
"Mae hyn yn nodi pennod newydd gyffrous i Ysgol Uwchradd YHG a'i disgyblion anhygoel."

Roedd Owen Jenkins yn falch iawn gyda'r penderfyniad
Yn dilyn y cyfarfod cabinet, dywedodd Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Heol Goffa, Owen Jenkins, ei fod yn "hapus dros ben" gyda'r penderfyniad, ac y byddai' opsiwn 4 yn "golygu gewn ni ddarpariaeth ysgol newydd yn gynt".
"Hefyd, mae'n bwysig i gydnabod darpariaeth ar gyfer plant ag awtistiaeth, fe geiff y garfan hynny hefyd ddarpariaeth mwy newydd yn gynt hefyd.
"Mae gyda ni'r safle yn barod, mae gyda ni ganiatâd cynllunio, felly gobeithio fydd hwnna yn hwyluso'r daith o hyn ymlaen."
Gwrthododd Llywodraeth Cymru roi amserlen i BBC Cymru ar ba mor hir y gallai gymryd i gymeradwyo unrhyw gynigion ariannu ar gyfer ysgol newydd, ond cafodd gwybodaeth ei roi am y broses ariannu, dolen allanol.
Dywedodd llefarydd mai "mater i'r awdurdod lleol oedd rheoli'r amserlenni ar gyfer symud trwy bob cam o'r broses achos busnes" a bod y cynghorau'n gwybod orau am eu "blaenoriaethau buddsoddi".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.