Beirniadu Reform am lythyru ar ddiwrnod angladd AS Llafur

Dyma'r daflen a gyrhaeddodd tai yn etholaeth Caerffili ar ddiwrnod angladd yr AS Hefin David
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a fu'n cario'r arch yn angladd Aelod Llafur o'r Senedd wedi beirniadu Reform UK ar ôl iddo dderbyn taflen trwy'r post gan y blaid ar ddiwrnod y gwasanaeth.
Mae disgwyl i is-etholiad yn etholaeth Caerffili cael ei gynnal ar 23 Hydref yn dilyn marwolaeth yr AS Hefin David ddiwedd Awst.
Dywedodd David Bezzina fod y daflen a ddaeth drwy'r post yn dangos "diffyg parch a chwrteisi".
Fe wnaeth ffynhonnell o blaid Reform ymddiheuro os oedd y taflenni wedi achosi gofid, gan ddweud nad oedd y daflen i fod i gyrraedd y diwrnod hwnnw.
Mae disgwyl i Reform frwydro ymhlith prif bleidiau eraill Cymru i ennill is-etholiad Caerffili.
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi bod Lindsay Whittle yn sefyll dros y blaid.
Mae disgwyl i'r blaid Lafur gyhoeddi eu hymgeisydd dros y penwythnos, tra bod y Ceidwadwyr yn dweud eu bod am ddechrau'r broses o ddod o hyd i ymgeisydd yn fuan.

Roedd nifer o wleidyddion blaenllaw ymhlith y cannoedd o bobl a fynychodd angladd Hefin David yn Eglwys St Catwg, Gelli-gaer ddydd Llun.
Yn dilyn y gwasanaeth daeth i'r amlwg fod trigolion yr etholaeth wedi derbyn y daflen gan Reform ar yr un diwrnod.
Roedd y daflen ddwyieithog yn cynnwys llythyr gan Nigel Farage yn dadlau bod Llafur wedi methu Cymru o ran swyddi, y GIG a mewnfudo.
Roedd y daflen yn gofyn am rodd gan y pleidleiswyr ac am eu manylion cyswllt, a holiadur byr yn holi a fydden nhw'n cefnogi'r blaid, ac a fydden nhw'n fodlon gosod poster.
Roedd gan un fersiwn o'r llythyr amlen i ddychwelyd y ffurflen i gyfeiriad yng nghanol tref Caerffili.

Roedd y prif weinidog Eluned Morgan ymysg y nifer o ASau a fynychodd y gwasanaeth ddydd Llun
Dywedodd Mr Bezzina, ffrind teuluol i Mr David, ei fod wedi gweld y llythyr ar ôl iddo ddychwelyd i'w gartref yn Hengoed yn dilyn yr angladd.
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Mr Bezzina, sy'n gweithio i'r AS Llafur Ruth Jones: "Ro'n i'n ofidus. Roedd fy ngwraig yn agos iawn at Hefin hefyd - roedd e fel brawd mawr iddi.
"Roedd hi'n eithaf gofidus hefyd pan welodd daflen etholiad ar ein stepen drws.
"Rwy'n credu ei fod yn dangos diffyg llwyr o ran parch a chwrteisi.
"Rwy'n credu mai'r arfer yw na fyddech chi'n cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd ymgyrchu nac yn dosbarthu taflenni na datganiadau i'r cyfryngau ar ymgyrchu etholiadol tan ar ôl yr angladd fan bellaf."
'Hynod ansensitif'
Fe wnaeth Richard John, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr ar gyngor Sir Fynwy, hefyd glywed am y daflen, gan ddweud ei fod wedi cael gwybod bod un o bobl yr etholaeth wedi ei derbyn fore Llun.
Dywedodd: "Mae'n hynod ansensitif, ar yr union ddiwrnod y daeth Caerffili ynghyd i dalu parch at Hefin David, fod trigolion yn derbyn post gwleidyddol gan Reform UK yn gofyn am safleoedd posteri a rhoddion.
"Er bod pob plaid arall wedi dangos parch trwy oedi ymgyrchu, mae'n amlwg bod Reform UK wedi dewis bwrw ymlaen â llythyru torfol."
Mae'r BBC wedi cael gwybod bod y daflen wedi ei anfon drwy'r post.
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd26 Awst
- Cyhoeddwyd13 Awst
Dywedodd ffynhonnell o blaid Reform: "Rydym yn ymddiheuro os yw hyn wedi cynhyrfu unrhyw un.
"Nid oedd yn fwriadol o gwbl. Mae rhai wedi cyrraedd cartrefi pobl ar ôl yr angladd.
"Ond yn amlwg mae is-etholiad nawr ac rydym yn mynd i frwydro â phopeth sydd gyda ni i ennill y sedd."