Cowbois yn cyhoeddi eu gig cyntaf ers strôc y prif leisydd
![Iwan Huws](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/c531/live/2e0e4810-ea17-11ef-a819-277e390a7a08.jpg)
Iwan Huws ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 gyda Cowbois Rhos Botwnnog
- Cyhoeddwyd
Mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi cyhoeddi eu bod nhw "nôl yn gigio" ar ôl i'w prif leisydd gael strôc y llynedd.
Ym mis Gorffennaf 2024 cafodd Iwan Huws ei daro'n wael tra'n perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau.
Mae'r band o dri o frodyr wedi cael eu cyhoeddi ymhlith y rhai fydd yn perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau eleni - union flwyddyn wedi'r digwyddiad.
Wrth rannu manylion yr ŵyl ar eu tudalen Facebook, dywedodd y band eu bod nhw "nôl yn gigio, byddwch yn glên!"
![Poster yn hysbysebu Sesiwn Fawr Dolgellau](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1680/cpsprodpb/0d5f/live/1fbb2d90-ea18-11ef-98b8-4512aa930084.jpg)
Mae Cowbois Rhos Botwnnog ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau ym mis Gorffennaf
Roedd Cowbois Rhos Botwnnog yn chwarae yn Sesiwn Fawr Dolgellau ar nos Wener yr ŵyl y llynedd pan gafodd y set ei dorri'n fyr am "resymau iechyd".
Yn dilyn triniaeth ysbyty, dywedodd y band eu bod wedi penderfynu gohirio eu holl berfformiadau am gyfnod yn dilyn salwch Iwan Huws.
Roedd hynny'n golygu na wnaethon nhw berfformio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd a Gŵyl y Dyn Gwyrdd ym mis Awst.
Fe wnaeth mab Iwan Huws, Now, ymuno â gweddill Cowbois Rhos Botwnnog i dderbyn gwobr Albwm y Flwyddyn 2024 yn yr Eisteddfod ym mis Awst
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol, enillodd y band wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024 gyda 'Mynd â'r tŷ am dro'.
Fe wnaeth mab Iwan, Now, dderbyn y wobr ar lwyfan y pafiliwn ar ei ran ynghyd â'i frodyr, Aled a Dafydd.
Dydd Iau, cyhoeddodd trefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau pwy fydd yn perfformio yn yr ŵyl o'r 17-20 Gorffennaf eleni.
Yn ogystal â Cowbois Rhos Botwnnog, mae'r artistiaid eraill yn cynnwys Blodau Papur, Buddug, Brigyn, Celt, Mynediad am Ddim, 9Bach, Ynys ac Yws Gwynedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2024
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2024