Tom Hanks yn cefnogi menter newydd tad a mab o Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae'r actor byd enwog, Tom Hanks wedi cysylltu gyda thad a mab o Sir Gâr i ddatgan ei gefnogaeth i'w hamgueddfa symudol newydd.
Fe anfonodd y seren Hollywood lythyr "hyfryd" at Seimon Pugh Jones a'i dad Stephen o ardal Meinciau i ddymuno pob lwc iddyn nhw gyda'r fenter.
Maen nhw wedi sefydlu'r amgueddfa Ail Ryfel Byd fel ffordd o ddelio gyda phroblemau iechyd meddwl ac iselder.
Fe gollodd Stephen ei goesau dair blynedd yn ôl, ond mae'r ffaith bod yr amgueddfa yn symudol yn golygu bod modd iddo fod yn rhan o'r cyfan.
Mewn cyfweliad ar raglen Radio Wales Breakfast fore Mercher, dywedodd Seimon ei fod wedi gweithio gyda Hanks yn y gorffennol.
"Nes i rywfaint o waith ar y ffilm Saving Private Ryan, dim byd glamorous, dim ond cario gwisgoedd gwlyb yn ôl ac ymlaen," meddai.
"Ac yna es i o weithio ar Saving Private Ryan i Band of Brothers."
Mae Hanks wedi cydweithio gyda'r cyfarwyddwr Steven Spielberg ar sawl cyfres deledu yn canolbwyntio ar yr Ail Ryfel Byd, gan gynnwys The Pacific, Masters of the Air a Band of Brothers.
"Y peth nesaf, o'n i'n chwarae rhan dyn camera ym mhennod saith Band of Brothers - mi oedd e'n anhygoel."
'Llythyr llawn teimlad - mae'n hyfryd'
Mae Tom Hanks - sydd wedi ennill dwy wobr Oscar - yn un o sêr mwyaf Hollywood, ac wedi serennu mewn ffilmiau fel Big, Forrest Gump ac Apollo 13.
Ond mae Hanks - sydd yn casglu teipiaduron - bellach wedi anfon llythyr, wedi ei deipio ar un o'r peiriannau hyn, at Seimon a Stephen yn dymuno pob lwc.
"Mae'r llythyr yn fyr, yn llawn teimlad, ambell i gamgymeriad - ond mae'n hyfryd," meddai Seimon.
"Rydyn ni eisiau gwneud defnydd mwy o'r amgueddfa yn y gymuned, dim just fel amgueddfa, ond fel theatr a galeri hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd29 Awst 2024
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2023