Natur y Gyllideb 'yn mynd i greu problemau' i Lywodraeth y DU

Mae Cyllideb Rachel Reeves yn un "risg uchel," yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffordd mae'r Canghellor wedi dewis codi arian yn y Gyllideb "yn mynd i greu problemau" i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ôl sylwebydd gwleidyddol blaenllaw.
Ar bennod ddiweddaraf podlediad Gwleidydda, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones y bydd nifer o'r polisïau, o bosib, "yn taro pobl yn annheg".
Cafodd manylion y Gyllideb eu cyhoeddi yn gynharach ddydd Mercher, gyda Rachel Reeves yn datgelu bod codiadau treth sylweddol i ddod yn y blynyddoedd nesaf.
Ychwanegodd yr Athro Wyn Jones fod y penderfyniad i wneud llawer o newidiadau "bach i godi pres" yn benderfyniad "risg uchel" i'r llywodraeth.
Gwleidydda: Cyllideb risg uchel?
Guto Ifan a Catrin Haf Jones sy'n ymuno i drafod
Fel rhan o'r Gyllideb bydd £505m ychwanegol i Lywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf a bydd diwedd ar y cap ar fudd-daliadau dau blentyn.
Mae'r rhewi mewn trothwyon treth incwm ac Yswiriant Gwladol wedi'i ymestyn am dair blynedd arall tan fis Ebrill 2031 - sy'n golygu y bydd mwy o bobl yn talu cyfraddau uwch o dreth incwm wrth i'w cyflog godi.
Mae'n ymddangos bod y Gyllideb hefyd wedi lleihau ychydig ar effaith y dreth etifeddiant ar rai ffermwyr.
Er bod y Canghellor yn dweud y bydd ei rheolau cyllidol yn "gostwng benthyca wrth gefnogi buddsoddiad", mae'r gwrthbleidiau wedi ei feirniadu yn chwyrn.
"Cyllideb codi arian ydy hwn," meddai Richard Wyn Jones.
"Ma' nhw 'di 'neud lot o ryw bethau clyfar a 'di'w heffaith nhw ddim yn mynd i ddod yn amlwg am gyfnod.
"Y peryg ydy, o wneud yr hyn maen nhw wedi ei wneud, ydy bod lot o bobl yn mynd i deimlo eu bod nhw'n cael triniaeth annheg.
"Meddyliwch, er enghraifft, sut ddaru ffermwyr ymateb y llynedd i'r stwff ynglŷn ag etifeddu.
"Mi ddaru hynna greu teimlad, yn gam neu gymwys ymysg ffermwyr, eu bod nhw wedi cael triniaeth arbennig a negyddol.
"Dwi'n rhagweld dros y dyddiau a'r wythnosau nesa 'ma, wrth i bobl fynd i grombil y Gyllideb yma, mi fydd y ffordd maen nhw wedi dewis codi'r arian yn taro pobl yn annheg.
"Yn hytrach na bo' nhw wedi mynd am rywbeth mawr, er enghraifft Treth Incwm, mae'r ffordd maen nhw wedi gwneud hyn yn mynd i greu problemau."
Codi'r cap dau blentyn 'yn allweddol'
Un o'r cyhoeddiadau mwyaf arwyddocaol, meddai oedd y penderfyniad i gael gwared ar y cap ar fudd-daliadau dau blentyn - gan ddweud y byddai'n "gig coch i'r meinciau cefn Llafur".
"Mae codi'r cap budd-daliadau dau blentyn yn allweddol. Mi oedd tlodi plant yn mynd i gynyddu," meddai.
"Mae'r data i gyd yn dangos mai hwnna yw'r peth mwya' effeithiol gallwch chi wneud fel llywodraeth... os 'da chi isio trio lleihau lefelau tlodi plant."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
