Cyllideb 2025: '£505m ychwanegol i Lywodraeth Cymru'

Cyhoeddodd Rachel Reeves y bydd £505m ychwanegol i Lywodraeth Cymru drwy fformiwla Barnett
- Cyhoeddwyd
Bydd £505m ychwanegol i Lywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf, diwedd ar y cap ar fudd-daliadau dau blentyn a chodiadau treth sylweddol yn y blynyddoedd i ddod yn dilyn Cyllideb y Canghellor Rachel Reeves.
Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd Llywodraeth Cymru yn cael £320m ychwanegol i'w wario ar wasanaethau o ddydd i ddydd, a £185m ar seilwaith dros y pedair blynedd nesaf.
Mae Trysorlys y DU yn bwriadu gwneud mân newidiadau i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu, gan ganiatáu i weinidogion yng Nghaerdydd fenthyca mwy a rhoi mwy o hyblygrwydd iddyn nhw yn y ffordd y maen nhw'n rheoli eu cyllideb.
Dywed y Trysorlys y bydd hyn yn rhoi £425m ychwanegol i weinidogion Cymru ei wario.
Manylion wedi'u rhyddhau'n gynnar
Bu'n rhaid i'r canghellor ddechrau ei datganiad trwy gydnabod ei bod yn "siomedig iawn" bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cyhoeddi eu rhagolwg swyddogol trwy gamgymeriad.
Cyhoeddwyd yr adroddiad tua dwy awr yn gynnar cyn y Gyllideb.
Mae'r canghellor wedi penderfynu y bydd y cap ar fudd-dal dau blentyn "o fewn credyd cynhwysol" yn cael ei godi o fis Ebrill 2026.
"Mae ei ddileu yn costio £2.3bn yn 2026-27 a £3bn yn 2029-30," meddai'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.
Natur y Gyllideb 'yn mynd i greu problemau' i Lywodraeth y DU
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Y syniad o golli car yn sgil y Gyllideb yn 'frawychus' i bobl anabl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Mae'r rhewi mewn trothwyon treth incwm ac Yswiriant Gwladol wedi'i ymestyn am dair blynedd arall tan fis Ebrill 2031 - blwyddyn yn hirach na'r hyn oedd yn cael ei ddisgwyl.
Mae'n golygu y bydd mwy o bobl yn talu cyfraddau uwch o dreth incwm wrth i'w cyflog godi.
Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi croesawu'r Gyllideb, ond daeth beirniadaeth gan y gwrthbleidiau.
Nos Fercher, pasiwyd cynnig gan y Ceidwadwyr wedi dadl ar y Gyllideb bod Senedd Cymru "yn credu bod Llywodraeth y DU yn methu â chyflawni ar gyfer pobl Cymru", o 25 pleidlais i 24.
Newid bach i dreth etifeddiant
Mae'n ymddangos bod y Gyllideb wedi lleihau ychydig ar effaith y dreth etifeddiant ar rai ffermwyr.
Mae'r llywodraeth yn mynd i ganiatáu i ŵr a gwraig, neu bartneriaid sifil, drosglwyddo unrhyw ran o'u lwfans gwerth £1m i'w gilydd cyn gorfod talu'r dreth.
Felly pe bai un partner yn marw a defnyddio rhan o'u lwfans yn unig, bydd gan y partner arall hawl i lwfans o fwy na £1m.
Mae'r NFU wedi croesawu'r newid, ond mae'r undeb - sy'n cynrychioli ffermwyr ar draws Cymru - yn dweud bod angen gwneud mwy i leihau'r effaith ar ffermwyr.
Bydd y tâl newydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2026.
Ond mae'r llywodraeth hefyd wedi rhewi'r lwfans o £1m am flwyddyn ychwanegol tan fis Ebrill 2031 - roedd i fod i godi gyda chwyddiant o fis Ebrill 2030 ymlaen.
Gallai'r newid golygu bod mwy o ffermydd yn gorfod talu'r dreth.
Beth oedd y cyhoeddiadau eraill?
Ymhlith y cyhoeddiadau eraill:
bydd pensiwn y wladwriaeth yn cynyddu 4.8% o fis Ebrill 2025 ymlaen;
bydd treth milltiroedd ar gyfer cerbydau trydan o fis Ebrill 2028. "Yn 2028-29, bydd y tâl yn hafal i £0.03 y filltir ar gyfer ceir trydan batri a £0.015 y filltir ar gyfer ceir hybrid plygio-i-mewn, gyda'r gyfradd fesul milltir yn cynyddu'n flynyddol gyda'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr," meddai'r adroddiad;
treth tanwydd yn cael ei rhewi ar ei gyfradd bresennol tan fis Medi 2026;
treth newydd ar dai gwerth mwy na £2m yn Lloegr;
bydd costau nwy a thrydan cartrefi yn cael eu gostwng trwy doriadau i ardoll gwyrdd ar filiau ynni - bydd yn costio tua £2.3bn, yn ôl rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol;
ni fydd cyfraniadau pensiwn a aberthwyd gan gyflog uwchlaw trothwy blynyddol o £2,000 bellach wedi'u heithrio rhag Yswiriant Gwladol. Bydd hyn yn dod i rym o fis Ebrill 2029;
mae diwygiadau i'r system Cyfrifon Cynilo Unigol (ISA) yn golygu y bydd y lwfans llawn o £20,000 yn parhau, ond bydd £8,000 o hyn bellach yn cael ei ddyrannu'n gyfan gwbl at ddibenion buddsoddi, gyda dim ond pobl dros 65 oed yn cadw'r lwfans arian parod llawn o £20,000.

Dywedodd Rachel Reeves ei bod yn "siomedig iawn" bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cyhoeddi eu rhagolwg swyddogol trwy gamgymeriad
Cyhoeddodd y canghellor hefyd y bydd yn trosglwyddo cronfa fuddsoddi wrth gefn Cynllun Pensiwn Staff Glo Prydain i'w aelodau "fel bod y menywod a'r dynion a oedd yn gweithio yn swyddfeydd a chantinau'r diwydiant glo yn cael bargen deg yn eu hymddeoliad hefyd".
Dywedodd Rachel Reeves hefyd y bydd dyled ariannol net y DU eleni yn £2.6 triliwn, sy'n golygu "mae un o bob £10 y mae'r llywodraeth yn ei wario yn mynd ar log ar ddyledion".
Mae hi'n dweud y bydd ei rheolau cyllidol yn "gostwng benthyca wrth gefnogi buddsoddiad", gan ychwanegu erbyn 2028/2029 y bydd balans y Gyllideb yn "symud i warged o £3.9bn".
Dywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol am eu camgymeriad wrth gyhoeddi yn gynnar, "aeth dolen i'n dogfen rhagolygon economaidd a chyllidol yn fyw ar ein gwefan yn rhy gynnar y bore yma. Mae wedi'i thynnu".
"Rydym yn ymddiheuro am y gwall technegol hwn ac wedi cychwyn ymchwiliad i sut y digwyddodd hyn."

Bydd codi y cap ar fudd-dal dau blentyn yn effeithio ar fwy na 21,000 o deuluoedd yng Nghymru
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: "Dyma Gyllideb a fydd yn helpu pobl ledled Cymru.
"Bydd yn golygu mwy o arian ym mhocedi'r bobl sydd ei angen fwyaf, cymorth ar gyfer biliau ynni, cynnydd yn yr isafswm cyflog a newyddion da i bensiynwyr.
"Rwy'n falch bod y canghellor wedi gwrando ar ein galwad i ddileu'r cap dau blentyn ar gyfer y budd-dal plant, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â melltith tlodi plant.
"Fe wnaethon ni alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i barhau i'n cefnogi gyda mwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, sydd dan bwysau difrifol, ac maen nhw wedi gwrando drwy roi £500m yn ychwanegol inni.
"Mae hyn yn adeiladu ar y £5bn o gyllid ychwanegol sydd eisoes wedi'i gadarnhau."
'Cymru'n cael ei thwyllo eto'
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae'r Gyllideb hon yn gwneud un peth yn glir: mae Cymru'n cael ei thwyllo eto.
"Nid oes dim yng nghyhoeddiadau heddiw yn newid yr annhegwch sylfaenol sy'n wynebu ein cenedl.
"Mae gennym bwerau cyllidol gwannach nag unrhyw genedl ddatganoledig arall, sy'n golygu llai o allu i fuddsoddi yn ein heconomi, ac mae'r Trysorlys yn parhau i atal dros £4bn sy'n ddyledus i Gymru mewn cyllid trafnidiaeth.
"Ni chafwyd unrhyw gamau ar gostau Yswiriant Gwladol na threth etifeddiaeth uwch sy'n gwthio'r sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru i'r dibyn.
"Addawodd Llafur newid ond heddiw mae'n profi nad oes dim o hynny i'w gael."
"Cyllideb risg uchel" - yr Athro Richard Wyn Jones fu'n rhoi ei farn ar bodlediad Gwleidydda
Dywedodd llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands AS: "Mae honiad Llafur na fyddent yn codi trethi ar bobl sy'n gweithio wedi cael ei ddatguddio am yr ail gyllideb yn olynol, mae'n ymddangos bod Llafur yn mwynhau gwario arian pobl eraill.
"Mae Cymru a'r DU yn haeddu gwell na llywodraeth sy'n gollwng ei Chyllideb ei hun ac yn cosbi'r union bobl sy'n cadw ein heconomi i redeg.
"Gyda'n rheol economaidd aur a'n cynllun arbedion gwerth £47bn, byddai'r Ceidwadwyr yn rheoli gwariant, yn cefnogi busnes ac yn torri trethi i gael Prydain i weithio eto.
"O dan Lafur, rydym yn parhau i dalu mwy."
Beth mae pobl eisiau gweld yn y gyllideb?
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Costau byw: 'Biliau a bwyd yn mynd yn ddrytach a drytach'
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd
Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds: "Rydym yn croesawu penderfyniad y llywodraeth i ddileu'r cap budd-dal dau blentyn, rhywbeth y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw amdano ers tro byd.
"Bydd y penderfyniad hwn yn codi miloedd o blant allan o dlodi yng Nghymru ac yn rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar deuluoedd i godi ar eu traed eto.
"Mae'n benderfyniad y dylid bod wedi'i wneud ar ddiwrnod cyntaf llywodraeth Lafur."
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Cymru: "Mae bellach yn amlwg bod cael llywodraethau Llafur ar ddau ben yr M4 wedi bod yn drychineb i fusnesau, ffermydd a chymunedau Cymru.
"Bydd y Gyllideb hon yn codi trethi i'w huchaf ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gan roi pwysau enfawr ar gyflogwyr a gweithwyr ledled Cymru."