Miriam Isaac: 'Mae mwy i rhyw na rhyw i gael plentyn'

- Cyhoeddwyd
"Y mwya' agored gallwn ni fod am bob math o rhyw y gorau."
Dyma neges y cyflwynydd a'r perfformiwr Miriam Isaac o'r Bontfaen am y gyfres newydd am ryw mae hi'n ei gyflwyno sef Ar Led.
Mae'r gyfres ar Hansh ar S4C yn tynnu sylw at bob agwedd o iechyd rhywiol ac addysg rhyw, o deganau rhyw a chydsyniad i sextio a phrofion STI.
Bu Miriam yn rhannu gyda Cymru Fyw pam ei bod hi mor bwysig i siarad yn agored am ryw.
Meddai: "Mae o'n rhywbeth sy'n ran o'n bywyd ni. Mae 'na lot o myths a falle anwybodaeth allan yna pan mae'n dod at addysg rhyw a iechyd rhyw. Be' 'da ni isho neud ydy bod yn ffynhonnell fedrith pobl ymddiried ynddo a bod ni'n cael y drafodaeth agored 'na am rhyw.
"Os ti'n cael y trafodaeth agored amdano does 'na ddim stigma, does 'na ddim tabŵ."

Miriam gyda'i chyd-gyflwynydd Carwyn Blayney
Siarad yn agored
Ac mae hyn yn cynnwys trafodaeth ar y rhaglen am wahanol fathau o ryw, meddai Miriam: "Mae'n agor y drws yna fod 'na fwy na jest rhyw syth a rhyw i gael plentyn. Mae gymaint mwy iddo fo.
"Mae'n bwysig i siarad am y pethau yma, yn enwedig yn y Gymraeg achos 'da ni'n bobl reit barchus a ddim yn rhannu lot.
"A gobeithio fydd yn helpu pobl ac addysgu pobl mewn ffordd hwyl."
Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar bob elfen o ryw a rhywioldeb ac yn ymuno gyda Miriam i gyflwyno ac i rannu arbenigedd mae'r digrifwr Carwyn Blayney ac hefyd Christian Webb, sy'n arbenigwr iechyd rhywiol a lles, a Ffraid Gwenllian, sy'n gweithio fel meddyg iau ac yn cynnal y platfform addysg rhyw Secs ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ac mae Miriam yn dweud fod hi wedi dysgu dipyn drwy ffilmio'r gyfres: "Mae rhai o'r rhaglenni yn sôn am berthnasau ac am rywioldeb a chydsyniad. Ac hefyd kinks – 'da ni'n trio trafod lot o bynciau gwahanol.
"Mae 'na kinks o'n i ddim yn gwybod oedd yn bodoli so ges i'n addysgu. Ges i agoriad llygad! Ond y fwya' o wybodaeth sy' gyda chi y gorau.
"O'n i wedi synnu bod cymaint o bobl yn rhannu lluniau heb consent. O'n i'n meddwl bod hwnna yn rili shocking - ti'n ymddiried yn rhywun pan ti'n anfon y pethau yna a does dim cywilydd yn hwnna os 'da chi'n cydsynio i'r peth.
"Dyna pam mae'r rhaglen yma wedi cael ei greu – bod pobl yn dysgu.
"Mae'n cyrff ni'n newid, mae'n perthynas ni efo rhyw yn newid. Mae ynglŷn a chael trafodaeth iach am y pethau yma."
Addysg
Wrth dyfu i fyny roedd Miriam, fel llawer o bobl ifanc, yn dysgu mwy am ryw gan ei chyfoedion, meddai: "Dwi'n meddwl o'n i'n fwy o berson oedd yn siarad efo ffrindiau ac yn cael cyngor ganddyn nhw.
"Tin cael y basics yn yr ysgol fel cofiwch gwisgo condom neu mynd ar y pil. Doedd 'na ddim sôn am rhyw i bobl cwiar a rhyw am bleser, ddim jest i gael plant."
Ac un neges mae'r gyfres yn awyddus i drosglwyddo yw: "Y prif beth yw i gadw siarad. A bod 'na sbectrwm mor fawr pan mae'n dod at rhyw a rhywioldeb a beth mae pobl yn mwynhau.
"Oedd o jest yn agoriad llygad am hynna a bod o'n beth iach i agor y drafodaeth yna."

Iechyd meddwl
Nid dyma'r tro cyntaf i Miriam siarad yn agored am bwnc personol - mae hi wedi rhannu ei phrofiadau iechyd meddwl a'r pyliau o iselder a gorbryder mae hi wedi cael dros y blynyddoedd.
Meddai: "Mae o'n cymryd bach o ddewrder ac mae hwnna'n rhywbeth dwi wedi dysgu dros y blynyddoedd – bod o'n haws ac mae popeth yn teimlo'n ysgafnach unwaith ti wedi rhannu.
"Mae o'n cymryd dipyn i gael y dewrder yna i agor i fyny ac i rannu sut ti'n teimlo ac i fynd i therapi ac i gydnabod yr hyn sy'n digwydd yn dy feddwl di.
"Unwaith i ti wneud hynny mae'r posibiliadau yn fuddiol iawn.
"Os ydy o'n helpu rhywun mae hynna'n beth positif."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2019