Eisteddfod 2024: Cyfle i ddysgu Cymraeg cyn y Brifwyl

Arwydd Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Rhondda Cynon Taf yn 2024

  • Cyhoeddwyd

Bydd cyfle i bobl sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf ddysgu Cymraeg am ddim fel rhan o ymdrech y sir i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol yn 2024.

Mae cwrs lefel mynediad a sylfaenol rhad ac am ddim yn cael ei drefnu gan Brifysgol De Cymru.

Fe fydd y cwrs dwys yn para am naw awr bob wythnos gyda gwersi ar foreau Llun, Mawrth a Gwener rhwng 09:30 a 12:30.

Dywedodd Angharad Lewis, cydlynydd y cwrs: "Eleni 'da ni fel prifysgol, fel rhan o'n hymgyrch ni i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i'r dalgylch lleol, yn cynnig un o'n cyrsiau dwys ni.

"Mae 'na fwrlwm yn barod... a dwi'n meddwl bod e'n bwysig bod ni'n cynnig cwrs fel hyn ar gyfer ein dysgwyr oherwydd ma' nhw'n mynd i fod yn rhan o'r bwrlwm yma."

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, Radio Cymru, ychwanegodd: "Be 'sa ni'n lico gweld yw bod gyda ni cynifer yn dod i ddysgu oherwydd y bwrlwm yma yn gysylltiedig â'r Eisteddfod.

"A bod nhw yn cael mesur o'r Gymraeg fel bod nhw'n gallu mynd hefyd i faes yr Eisteddfod a defnyddio eu Cymraeg nhw."

Dywedodd Ms Lewis bod llawer o frwdfrydedd i ddysgu'r iaith yn yr ardal yn barod.

"Yn sicr ma' 'na dwf a ma' 'na fwrlwm o ran dysgu'r Gymraeg yn y cymoedd," dywedodd.

"Dwi'n falch iawn i allu dweud bod ni'n mynd nôl â'r cwrs i'r campws... felly da ni'n gyffrous."

Bydd y cwrs yn dechrau ar 11 Medi ar gampws Prifysgol De Cymru yn Nhrefforest.

Mae croeso i unrhyw un dros 18 oed ymuno gyda'r cwrs.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd rhwng 3-10 Awst 2024.