Oliver Lewis i beidio sefyll ar ran Reform yn etholiad Senedd Cymru

Mae Oliver Lewis wedi dweud nad yw'n llefarydd i Reform UK gan ei fod yn gweithio dramor
- Cyhoeddwyd
Mae Reform UK yn dweud nad yw'r dyn a gynrychiolodd y blaid yng Nghymru yn ystod ymgyrch etholiad San Steffan llynedd yn ymgeisydd iddyn nhw ar gyfer etholiad Senedd Cymru.
Mae Oliver Lewis hefyd wedi cadarnhau nad yw bellach yn llefarydd i Reform UK yng Nghymru.
Daw'r newyddion wedi iddi ymddangos bod rhwyg rhwng Mr Lewis a chadeirydd y blaid Zia Yusuf yn dilyn sylwadau wnaeth y cyn-lefarydd i Gymru ar fewnfudo.
Wrth siarad â rhaglen Politics Wales y BBC ym mis Ionawr, dywedodd Mr Lewis fod mewnfudo yng Nghymru wedi bod yn "gyfyngedig iawn" a "gellid dadlau ei fod wedi bod yn gadarnhaol iawn i'r economi".
Wrth ymateb i glip o'r cyfweliad ar X, dywedodd Cadeirydd Reform UK, Zia Yusuf, "nid dyma safbwynt Reform".
Mae Reform UK bellach wedi cadarnhau nad yw "Oliver Lewis yn llefarydd ar ran y blaid ac nid yw'n ymgeisydd ar gyfer 2026".
Mae Mr Lewis hefyd wedi cadarnhau nad yw "bellach yn llefarydd" i Reform UK gan ei fod "erbyn hyn yn gweithio dramor".
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2024
Wrth drafod sylwadau Oliver Lewis am fewnfudo ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C, dywedodd Llyr Powell, arweinydd cyfathrebu Reform UK yng Nghymru, mai "barn Oliver oedd hwnna".
Roedd Mr Powell hefyd yn amau bod Oliver Lewis erioed wedi bod yn llefarydd ar ran Reform UK yng Nghymru.
"Sai'n siŵr mai'r teitl 'na oedd teitl e. Doedd dim o'r rôl yna. Sai'n siŵr o ble mae hwn wedi dod," meddai.
Oliver Lewis oedd yn cynrychioli Reform UK mewn dadleuon Cymreig a chyfweliadau â'r cyfryngau yn ystod etholiad San Steffan fis Gorffennaf llynedd, ochr yn ochr ag arweinwyr Cymreig eraill y pleidiau.
Ym mis Ionawr, dywedodd Oliver Lewis wrth BBC Politics Wales fod "Cymru wedi cael lefelau cyfyngedig iawn o fewnfudo a gellir dadlau bod y mewnfudo rydyn ni wedi'i gael wedi bod yn gadarnhaol iawn i'r economi".
"Felly mae mewnfudo yn llawer llai o ffactor i wleidyddiaeth yng Nghymru na, dyweder, Lloegr."
'Nid yw'n ymgeisydd ar gyfer 2026'
Roedd Oliver Lewis yn dal i gynrychioli plaid Reform UK fel llefarydd yng Nghymru tan fis Ionawr eleni.
Ond mewn datganiad i BBC Cymru, dywedodd Reform UK: "Nid yw Oliver Lewis yn llefarydd ar ran Reform, ac nid yw'n ymgeisydd ar gyfer 2026."
Mae Oliver Lewis wedi cadarnhau nad yw "bellach yn llefarydd" ar ran Reform, ond mae'n dweud ei fod "dal yn Aelod ac yn Ddirprwy Gadeirydd fy nghangen ac yn gefnogol i fudiad Reform".
"Y rheswm y dywedodd datganiad Reform nad wyf yn ymgeisydd ar gyfer 2026 yw oherwydd nad oes gennym ymgeiswyr eto ar gyfer 2026," meddai.