Reform UK: 'Cwbl bosib i ni ffurfio llywodraeth yng Nghymru'

Oliver Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Reform wedi sefydlu cangen ym mhob un o etholaethau'r Senedd, meddai Oliver Lewis

  • Cyhoeddwyd

Fe allai plaid Reform UK ffurfio llywodraeth yng Nghymru yn dilyn yr etholiad i Senedd Cymru y flwyddyn nesaf, yn ôl llefarydd Cymreig y blaid.

Dywedodd Oliver Lewis ei bod hi'n bosib y byddai'r blaid yn ennill "20, 30 neu gobeithio 40" o seddi ym Mae Caerdydd.

Bydd nifer y seddi yn y Senedd yn cynyddu o 60 i 96 yn 2026, ac mae Reform yn gobeithio manteisio ar newidiadau i'r drefn bleidleisio fydd yn gwbl gyfrannol.

Llafur sydd wedi arwain Llywodraeth Cymru ers dechrau datganoli ym 1999.

Bydd Reform yn cystadlu am seddi yn y Senedd am y tro cyntaf yn 2026.

Yn yr etholiad cyffredinol yng Ngorffennaf, daeth Reform yn ail mewn 13 o'r 32 etholaeth Gymreig wrth i'r blaid sicrhau 16.9% o'r bleidlais ar draws y wlad, o gymharu â 5.4% yn 2019 pan safodd y blaid fel Plaid Brexit.

Roedd cyfran y bleidlais a enillodd Reform yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol yn uwch na chyfran Plaid Cymru, a enillodd bedair sedd, a'r Democratiaid Rhyddfrydol a enillodd un.

Ym mis Medi dywedodd Dr Jac Larner o Brifysgol Caerdydd y dylai Reform fod yn "hyderus iawn" wrth edrych ymlaen at yr etholiad nesaf i Fae Caerdydd gyda'r arolygon barn yn awgrymu y gallai'r blaid ennill "rhwng 14 ac 17 sedd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni enillodd Reform yr un sedd yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, ond daeth yn ail mewn 13 o'r 32 sedd

Mae arweinydd Reform, Nigel Farage wedi dweud taw etholiad nesaf Senedd Cymru fydd "prif flaenoriaeth" ei blaid yn 2026 ac y gallai Reform ennill "llawer o seddi".

Ond mewn cyfweliad gyda rhaglen Politics Wales BBC Cymru aeth Mr Lewis yn bellach, gan honni bod "llawer wedi newid ers ein cynhadledd ar 8 Tachwedd".

"Bryd hynny dwi'n meddwl bod Nigel o'r farn y bydden ni'n ffurfio'r brif wrthblaid i Lafur," meddai Mr Lewis.

"Nawr, o ystyried bod 50,000 o bobl wedi ymuno â'n symudiad ym mis Rhagfyr, dwi'n meddwl ei bod hi'n gwbl bosib y gallwn ni ffurfio llywodraeth yng Nghymru.

"Rydyn ni wedi sefydlu cangen ym mhob un o etholaethau'r Senedd."

Farage 'i chwarae rhan fawr yn yr ymgyrch'

Mae Reform UK yn dweud bod gan y blaid 7,800 o aelodau yng Nghymru – tipyn mwy na'r 5,000 sydd gan y Ceidwadwyr, yn ôl adroddiadau.

Dydy'r BBC methu cadarnhau'r ffigyrau'n annibynnol, ond dydy'r Ceidwadwyr ddim wedi gwrthod y ffigwr o 5,000.

Ychwanegodd Mr Lewis nad oedd yna fwriad i benodi arweinydd Cymreig ar y blaid cyn yr etholiad. Yn hytrach, mae'r blaid yn bwriadu cadw'r sylw ar Farage.

"Mae Nigel yn mynd i chware rhan fawr yn yr ymgyrch," meddai Mr Lewis.

"Ein cynllun ni ar hyn o bryd yw unwaith mae gyda ni ein grŵp yn y Senedd, unwaith mae gyda ni ein 20, 30 neu gobeithio 40 aelod yn y Senedd, yna byddan nhw'n dewis arweinydd ar y diwrnod cyntaf."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd nifer y seddi yn y Senedd yn cynyddu o 60 i 96 yn 2026 a bydd newidiadau i'r system bleidleisio

Os ydy Reform yn ennill seddi yn y Senedd, byddai hynny'n fuddugoliaeth fawr arall i Nigel Farage ym Mae Caerdydd.

Fe oedd arweinydd UKIP pan enillodd y blaid honno saith sedd yn 2016, cyn i'r grŵp chwalu o ganlyniad i ffraeo mewnol dros y blynyddoedd canlynol.

"Roedd gan UKIP nifer o drafferthion," meddai Mr Lewis. "Yn sicr mae'n rhaid i ni ddysgu gwersi o hynny.

"Un o'r problemau gyda UKIP oedd ei bod yn blaid oedd yn canolbwyntio ar un pwnc," meddai, gan gyfeirio at Brexit.

Mewnfudo yn 'llai o ffactor' yng Nghymru

Mae mewnfudo yn un o'r prif feysydd sydd wedi hawlio sylw Reform, ond mae Oliver Lewis eisiau canolbwyntio ar faterion eraill cyn yr etholiad.

"Mae Cymru wedi gweld lefelau cyfyngedig o fewnfudo mewn gwirionedd, a gellir dadlau bod y mewnfudo rydyn ni wedi ei weld wedi bod yn bositif i'r economi.

"Felly mae mewnfudo'n llawer llai o ffactor i wleidyddiaeth yng Nghymru nag yn Lloegr, er enghraifft, yn enwedig yn y de ddwyrain.

"Fy mlaenoriaeth i ydy diwygio'r wladwriaeth, i sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael â'n sefydliadau sy'n methu â sicrhau eu bod yn gwneud yn well dros bobl Cymru.

"Dydy'r etholiad yma ddim am fewnfudo. Dydy mewnfudo ddim wedi ei ddatganoli.

"Dwi eisiau cael dadl gyda'r pleidiau ar safonau'r gwasanaeth iechyd ac ysgolion."

Mae modd gweld y cyfweliad yn llawn ar Politics Wales ar BBC1 Cymru am 10:00, 12 Ionawr ac ar iPlayer.

Pynciau cysylltiedig