Y tywydd a chostau cynyddol yn poeni busnesau

Llangrannog yn y glaw
Disgrifiad o’r llun,

56% o fusnesau twristiaeth Cymru sy'n hyderus am y flwyddyn i ddod, yn ôl arolwg newydd

  • Cyhoeddwyd

Wrth i dymor y Pasg gyrraedd, ychydig dros hanner busnesau'r diwydiant ymwelwyr sy'n hyderus am yr hyn sydd gan 2025 i'w gynnig.

Mae costau uchel ac ansicrwydd am y tywydd ymhlith y rhesymau dros hynny.

Yn ôl holiadur ar ran Llywodraeth Cymru, mae'r gyfran o fewn y sector twristiaeth sy'n mynegi hyder, sef 56% yn is na'r adeg hon y llynedd pan oedd y ganran yn 64%.

Mae amryw o fusnesau'n dweud bod y pryder yn deillio o'r cynnydd mewn costau cyflogaeth ddaeth i rym ym mis Ebrill, gan ei gwneud hi'n anoddach i wneud elw.

Huw Reed
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tywydd "yn effeithio ar bopeth," yn ôl Huw Reed

Mae Huw Reed yn rhedeg caffi a bwyty Tafell a Tân yn Llangrannog ac yn edrych allan ar faes parcio gwag a gwlyb: "Mae e'n effeithio ar bopeth, yn enwedig busnes fel ni sydd ar lan y môr.

"Mae'r adeg i wneud yr arian rhwng nawr a mis Medi so mae fe'n amser eitha' byr.

"So pan ni'n cael tywydd fel hyn, mae e'n effeithio dros y flwyddyn wedyn."

Gwesty'r Harbwrfeistr
Disgrifiad o’r llun,

Mae archebion stafelloedd yn arafach eleni yn yr Harbwrfeistr o'i gymharu â'r llynedd, meddai rheolwr cyffredinol y gwesty

Yn Aberaeron, mae bwyty a gwesty'r Harbwrfeistr wedi cael ei effeithio gan waith adeiladu mawr yn yr harbwr ac ansicrwydd cyffredinol o fewn y diwydiant.

Yn ôl arolwg Llywodraeth Cymru, mae llai na hanner lletyau Cymru wedi eu harchebu o flaen llaw ar gyfer mis Ebrill a Mai.

Dywedodd Dai Morgan, rheolwr cyffredinol y gwesty, fod y ffigyrau yn adlewyrchu eu sefyllfa nhw.

"Ni'n cymryd bookings o flaen llaw, a 'sen i'n bod yn hollol onest 'da chi, maen nhw'n arafach yn dod mewn eleni," meddai.

'Ni ishe croesawu pobl'

Er hynny, mae Mr Morgan yn edrych ymlaen yn hyderus ac yn croesawu pob her.

"Ni'n edrych 'mlaen at y tymor efo gwên ar ein hwynebau, ni ishe croesawu pobl," meddai.

"Gobeithio nawr bod y tywydd yn mynd i wella a bydd popeth arall yn mynd gyda fe.

"Hyd yn oed bod ddim cymaint o arian gyda phobl i wario na beth oedd 'na bum mlynedd nôl."

Rowland Rees-Evans
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn gwneud archebion funud olaf yw'r her fwyaf i fusnesau ar hyn o bryd, meddai Rowland Rees-Evans

Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu mai 38% o fewn y diwydiant sydd wedi buddsoddi yn y busnes er mwyn gwella adnoddau ar gyfer 2025.

Ansicrwydd ynglŷn â nifer cwsmeriaid sydd i gyfrif am hynny, yn ôl cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, Rowland Rees-Evans;

"Yr her fwyaf ar hyn o bryd yw'r bobl yn ffonio lan munud diwethaf i fwcio," esboniodd.

"S'dim ffordd allwch chi baratoi am hynny, ond wy'n credu bod y diwydiant ei hunan dal yn weddol gryf ond mae 'na sawl her o'n blaen ni o ran y pethau sydd tu allan i'n control ni."

Pynciau cysylltiedig