'Hanfodol' bod Cymru yn adeiladu ar Euro 2025

- Cyhoeddwyd
Thema ymgyrch hanesyddol Euro 2025 Cymru oedd y weithred o ddringo mynydd.
Ar ddechrau eu hymgyrch ragbrofol, gosododd y rheolwr Rhian Wilkinson y nod i'w chwaraewyr o fod y tîm cyntaf o Gymru i gyrraedd prif gystadleuaeth pêl-droed merched. Dyna, meddai hi, oedd dringo'r mynydd.
Yna, pan ddewisodd ei charfan ar gyfer y gystadleuaeth, roedd yn symbolaidd bod Wilkinson wedi penderfynu gwneud hynny ar gopa'r Wyddfa.
Roedd hefyd yn briodol y byddai'r bencampwriaeth Ewropeaidd hon yn cael ei chynnal yn y Swistir, gwlad sy'n enwog am ei harddwch mynyddig.
Ac er ei bod hi'n naturiol y bydd chwaraewyr Cymru yn ddigalon ar ôl i'r golled ddydd Sul yn erbyn Lloegr gadarnhau eu bod nhw allan o'r gystadleuaeth yn barod, gallan nhw ymfalchïo'n fawr yn y ffaith eu bod wedi helpu eu gwlad i gyrraedd uchelfannau newydd.

Nawr y nod yw adeiladu ar y cyflawniad hwn, er mwyn sicrhau bod yr effeithiau ar bêl-droed yng Nghymru yn hirdymor ac yn bellgyrhaeddol.
"Dyna'r cwestiwn hanfodol i ni oherwydd, er bod hwn wedi bod yn brofiad gwych, be sy'n bwysig yw be ni'n neud nesaf," meddai cyn-gapten Cymru, Laura McAllister, sydd bellach yn is-lywydd gyda chorff llywodraethu pêl-droed Ewrop, Uefa.
"Sai'n credu ni'n dechrau o sylfaen isel ar hyn oherwydd bod gennym strategaeth eisoes ar gyfer menywod a merched ond, wrth gwrs, mae cyrraedd cystadleuaeth fel hyn nid yn unig yn dod â mwy o gyllid ond hefyd mwy o gyfle i fanteisio ar yr egni o amgylch y gêm a'r ysbrydoliaeth i ferched ifanc yn enwedig i fynd allan a chwarae pêl-droed.
"Felly mae'n ddyletswydd arnom nawr ym myd pêl-droed, boed ar lefel Cymru neu ar lefel Ewropeaidd, i wneud yn siŵr bod yr arian a wariwn ar y gêm yn creu llwybr cryfach i bob chwaraewr, boed ydyn nhw'n mynd i fod y Jess Fishlock neu'r Angharad James nesaf, neu a ydyn nhw'n mynd i chwarae am hwyl gyda'u ffrindiau."

Mae miloedd o gefnogwyr Cymru wedi bod yn y Swistir i wylio'r tîm
Drwy gyrraedd Euro 2025, mae Cymru wedi trawsnewid pêl-droed merched yn eu mamwlad.
Dim ond yn y 1990au y cawsant eu cydnabod gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru fel tîm rhyngwladol llawn.
Am flynyddoedd wedyn, roeddent yn dal i gael eu tan-ariannu, eu tan-werthfawrogi ac, yn aml, eu hanwybyddu.
Ond ni fyddai'r chwaraewyr a frwydrodd dros eu hawl i chwarae yn derbyn 'na' fel ateb.
Ar ysgwyddau'r arloeswyr hynny y mae'r chwaraewyr presennol yn sefyll.
Trwy sicrhau eu lle ym mhencampwriaeth Ewropeaidd eleni, gwireddodd y tîm yma freuddwydion eu rhagflaenwyr arloesol.
Sut mae ysbrydoli cenedlaethau i ddod?
Ar ôl cael eu rhoi mewn grŵp mor anodd, ni roddodd neb lawer o obaith i Gymru - ond roedd gweld nhw ar y llwyfan yn arbennig.
Ac yna gwylio Jess Fishlock - pwy arall - yn sgorio gôl gyntaf ei gwlad mewn prif gystadleuaeth? Gwefreiddiol.
Gwyliwch: Jess Fishlock yn sgorio i Gymru
Bydd yr eiliadau hyn yn para. Bydd y tîm yn ysbrydoli cenedlaethau i ddod. Felly sut mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwneud hynny'n ymarferol?
"Wel, yn gyntaf, mae'n rhaid bod digon o glybiau sy'n groesawgar ac mae angen iddyn nhw ddarparu'r cyfleoedd cywir i ferched, ac mewn gwirionedd does dim esgus i unrhyw glwb pêl-droed beidio â chael adran merched ac adran menywod nawr," meddai McAllister wrth BBC Cymru.
"Os nad ydyn nhw'n gwneud hynny nawr yna dylen nhw fod ar y daith i'w wneud oherwydd mae angen i ni wneud y cyfleoedd yn lleol iawn, yn amlwg ni allwn ddisgwyl i ferched deithio cannoedd o filltiroedd i chwarae pêl-droed.
"Ond mae'n rhaid i hyn i gyd fod yn rhan o'r strategaeth gyffredinol ac mae'n faes mawr a chymhleth oherwydd mae'r hyn sydd angen i ni ei wneud ar gyfer y gêm lawr gwlad yn wahanol iawn i'r hyn sydd angen i ni ei wneud i gryfhau'r llwybr i'r chwaraewyr proffesiynol."

Mae'r Athro Laura McAllister bellach yn swyddog gydag Uefa
Mae'r awydd i fanteisio ar yr eiliad hon yn ymestyn i'r maes gwleidyddol hefyd.
"Y ffordd orau o ddathlu'r cyflawniad hanesyddol hwn yw drwy helpu i ysbrydoli hyd yn oed mwy o fenywod ifanc i chwarae pêl-droed," meddai Jack Sargeant, gweinidog chwaraeon Llywodraeth Cymru.
"Byddwn yn gwneud hyn drwy gefnogi prosiectau ledled Cymru, gan helpu i adeiladu llwyddiant yn y dyfodol a chryfhau gwaddol y chwaraewyr ar gyfer cenedlaethau i ddod."
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
Mae'n amhosibl diystyru y cyd-destun hanesyddol ac emosiynol yna wrth ddadansoddi'r ymgyrch ond, o ran materion pêl-droed pur, y ffaith syml oedd bod Cymru yn herio gwrthwynebwyr llawer gwell.
Tîm Wilkinson oedd yr isaf yn rhestr detholion y byd yn Euro 2025 a chawsant eu rhoi yng Ngrŵp D gyda'r deiliaid Lloegr, pencampwyr 2017 yr Iseldiroedd a Ffrainc, a oedd wedi ennill pob un o'u gemau eleni.
Byddai unrhyw dîm wedi cael trafferth yn y grŵp hwn, heb sôn am un nad oedd erioed wedi curo gwlad a oedd yn y 10 uchaf yn y byd.

Brwydrodd Cymru yn ddewr yn yr hanner cyntaf yn erbyn yr Iseldiroedd ond cawsant eu dadwneud gan ddisgleirdeb Vivianne Miedema, cyn i'r Iseldirwyr gosbi eu camgymeriadau amddiffynnol ar ôl yr egwyl.
Roedd Ffrainc hyd yn oed yn fwy clinigol. Er i Fishlock roi gobaith i Gymru, roedd Les Bleus ar lefel wahanol i'w gwrthwynebwyr.
Doedd hynny ddim yn cymharu â'r difrod a achosodd Lloegr iddyn nhw nos Sul, gêm boenus o unochrog.
Ond does dim gwarth mewn colli i dimau mor gryf.
Fel y mae penaethiaid Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyfaddef, mae nhw'n dal i geisio "dal i fyny" gyda chewri Ewrop.
Ac er bod y bwlch rhwng y gorau a'r gweddill yn sylweddol, mae Cymru eisoes wedi dangos eu bod nhw'n gallu gwneud i'r amhosibl ymddangos yn bosibl.
Drwy gyrraedd Euro 2025, mae nhw wedi profi hynny i genedlaethau'r dyfodol. Dyma oedd eu cyntaf - ond nid yr olaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.