Canlyniad poenus ond cefnogwyr balch ar ddiwedd taith Cymru

Tim yn diolch i'r ffansFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Er i Gymru'n golli'n drwm yn erbyn Lloegr 6-1 yn eu gêm grŵp olaf yn Euro 2025, "prowd iawn" yw prif deimlad y cefnogwyr yn Y Swistir.

Mae taith y merched wedi dod i ben yn Euro 2025 ond maen nhw wedi creu hanes drwy wneud eu hymddangosiad cyntaf ar y llwyfan mwyaf.

Fe gollon nhw'r dair gêm, yn erbyn Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd ac mae'r daith wedi bod yn un "emosiynol iawn" yn ôl capten Cymru, Angharad James.

Ond, i'r cefnogwyr allan yno bydd y profiad o weld Cymru'n sgorio dwy gôl ar y lefel uchaf yn aros yn y cof am byth.

Llun o Angharad JamesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Capten Cymru'n dweud bod y profiad wedi dangos faint o waith sydd i'w wneud yn y dyfodol

Yn syth ar ôl colli dywedodd James ei bod hi'n "noson boenus" ond yn "anodd rhoi mewn i eiriau" pa mor arbennig oedd y profiad.

Dywedodd bod y tîm "mor falch o bawb" a "ni'n diolch i bawb sy' 'di cefnogi ni'.

Pwysleisiodd bod y daith wedi dangos "pa mor bell ni angen mynd ond ie, ni'n falch iawn".

Hannah Cain (chwith) sgoriodd wedi gwaith da Jess FishlockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hannah Cain (chwith) sgoriodd yn erbyn Lloegr wedi gwaith da Jess Fishlock

Y foment i'w chofio i Gymru nos Sul oedd pan sgoriodd Hannah Cain ail gôl y tîm yn y bencampwriaeth.

Fe ddaeth yn yr ail hanner ac wrth ymateb ar ddiwedd y gem dywedodd "mi fyddai well gen i ennill ond i glywed y dorf yn rhuo pan chi'n sgorio dros Gymru - does 'na ddim byd tebyg".

Ychwangeodd bod Lloegr yn dîm gwych a "naethon ni frwydro'n dda drwy'r twrnament. Bydd neb byth yn gallu cymryd ein hysbryd i ffwrdd o ni".

Ond er eu hangerdd a'u hymdrech roedd profiad a safon y timau eraill yn ormod i Gymru.

Llun o Mari mewn crys cwch a het bwced Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mari fod y profiad wedi bod yn un "gwefreiddiol iawn"

Er gwaethaf colli nos Sul fe wnaeth cefnogwyr Cymru fwynhau'r profiad.

Dywedodd Mari, sy'n 46 o Gaerdydd, bod yr awrygylch wedi bod yn "ffantastig fan hyn yn Y Swistir" ac "odd hi just yn hyfryd gallu nodi bod Cymru 'di cyrraedd 'ma ar ddiwedd y gêm heddi".

Wrth gyfeirio at y gêm nos Sul: "Roedd yr hanner cyntaf braidd yn heriol i Gymru ond o'dd y gôl, o'dd e fel tasen nhw 'di ennill pan sgorion nhw'r gôl.

"Ac o'dd yr awyrgylch pan oedd pawb yn aros ar y diwedd i glapio'r tîm yn drydanol."

Llun o Mark a Llinos Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mark (chwith) a Llinos wedi mwynhau mas draw ac yn falch o weld gôl yn cael ei sgorio nos Sul

Roedd Llinos Davies, 58 a Mark Davies, 60 - y ddau o Gaerfyrddin - yn gytûn bod y profiad yn un "anhygoel".

Dywedodd Llinos ei bod wedi "joio mas draw".

Ychwanegodd "sai'n mynd i lot o football matches ond fi 'di joio mynd i'r fanzones a canu - fi di colli'n llais".

Dywedodd Mark er nad oedd y canlyniad yn un da ei fod yn "prowd iawn o'r merched ac mae sgorio dwy gôl yn rhywbeth i ddathlu".

"Mae'n ffantasitg bod y merched 'di mynd trwyddo i ddechre," meddai.

"Ma' nhw 'di neud yn dda yn erbyn tri tîm cryf iawn so ymlaen am y pedair blynedd nesa nawr,” ycwhwanegodd.

Llun o Sharon Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sharon ei bod yn "falch iawn o'r merched" am y perfformiad yn erbyn "tîm grêt"

Cyfaddefodd Sharon Williams, sy'n 54 o Gasnewydd, bod hi'n dipyn o her cyn dechrau: "O'dd e'n mynydd i ni geisio mynd trosodd yn y lle cyntaf.

"Ond o'n i'n bles iawn i fod yma a gweld y gôl yn cael ei sgorio.

"Odd e just yn emosiynol iawn a mor bles bod y merched yn gallu teimlo sut ma fe i sgorio gôl" ar y llwyfan uchaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig