Ymchwil Prifysgol Aberystwyth: Bara gwyn mwy maethlon ar y gorwel?

- Cyhoeddwyd
Mae brechdanau wedi bod yn rhan allweddol o’r bocs bwyd yng Nghymru a thu hwnt ers blynyddoedd maith.
Ond dros y degawdau diweddar mae pobl wedi rhoi mwy o ystyriaeth i ba mor llesol yw'r bara, yn enwedig bara gwyn.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithio ar astudiaeth sy’n gobeithio trawsnewid y bara rydyn ni’n ei fwyta, gan greu blawd i fara gwyn sydd â’r un daioni â bara brown.
'Colli fitiminau a mwynau'
Un o’r rhai sy’n arwain y prosiect yw Dr Catherine Howarth.
“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi bwyta bara gwyn. Ond pan 'dych chi’n gwneud blawd yn y felin rydych yn cracio’r wenithfaen a thynnu’r blawd o’r tu fewn iddo. Gan wneud hyn 'dych chi’n diystyru haenau allanol y wenithen – ac yn y rhannau yma mae’r rhan fwyaf o’r pethau da fel microfaethynnau (micronutrients) i’w cael.
“Yn y blawd mae 'na brotein a charbohydrad, ond os 'dach chi eisiau’r fitaminau a’r mwynau, dydyn nhw ddim yn y blawd gwyn – maen nhw’n cael eu colli yn y broses.”

Dr Catherine Howarth o Brifysgol Aberystwyth
“Felly, be ni’n gwneud yw gweithio’n agos gyda melinwyr yn Shipton Mill, gan edrych ar eu prosesau nhw," esboniai Dr Howarth.
"Mae ganddyn nhw tua 40 o wahanol ffrydiau yn dod o’u melin nhw, a ry’n ni’n edrych i weld ble yn union yn y broses mae’r fitaminau a’r mwynau yn cael eu colli, a gweld os allen ni addasu’r broses felina fel bydden ni’n cael y bendithion o be fydde mewn bara brown, i mewn i fara gwyn."
Aeth Dr Howarth ymlaen: “Rhan arall o’r ymchwil yw gweld os allen ni wella’r ansawdd o faeth o fewn blawd gwyn drwy edrych ar gnydau eraill. Er enghraifft, 'dan ni’n gwneud lot o ymchwil yma yn Aberystwyth ar fagu ceirch gwahanol.
"Mae ceirch yn cynnwys lot o ffibr a beta glucans ac efo lefelau uchel o fitaminau a’r mwynau. Felly, 'dan ni’n trio gweld os allwn ni wella blawd gwyn drwy ychwanegu pethau fel ceirch iddo, neu allwn ni ychwanegu pys neu ffa i’r blawd?"

Chris Holister o Shipton Mill, sy'n cydweithio gyda Dr Howarth ar y prosiect
Llai o siwgr?
Felly, a fydd gan y bara gyda'r blawd newydd lai o siwgr na bara gwyn cyffredin?
“Mae gan fara gwyn glycemic index uchel yn sgil y lefelau o carbohydrad ynddo," esboniai Dr Howarth.
"Ond os fyddech chi’n cynyddu’r lefel o ffibr, fel fuasech chi wrth fwyta bara brown neu ychwanegu ffa, bydde’r lefelau glycemic index llawer yn is.
“Ry’n ni wedi ffeindio ble ni’n colli’r fitaminau, mwynau a ffibr, a ni’n gweithio i weld ble ellir lleihau y golled yma, a gweld pa gnydau eraill allen ni ddefnyddio. Peth arall ni’n gwneud yw edrych ar yr ystod eang o wenith sydd, a thrio gwahanol gyfuniadau.
“Un peth yw dweud 'da ni am wella’r maeth o fewn bara gwyn', ond mae hefyd rhaid iddo gael y blas, yr arogl a’r teimlad iawn hefyd – felly mae’r taste tests yn bwysig!
“Prif amcan yr astudiaeth 'ma yw creu math newydd o flawd i’w defnyddio mewn bara, ond mi fydd y pobi a dadansoddiad o’r bara ei hun yn rhan o’r gwaith hefyd."

Mae'r gwyddonwyr a'r milenwyr yn cydweithio gyda blawd arbrofol, gyda chynhwysion fel grawnfwydydd, pys a ffa
Mae Dr Howarth yn credu y gall y prosiect yma arwain at newidiadau pellgyrhaeddol:
“Fe all hyn drawsnewid bara gwyn, ond mae rhaid hefyd cynnig dewis. Mae nifer o bobl wedi cysylltu i ofyn beth am yr alergeddau all y bara newydd ei achosi oherwydd y cynhwysion newydd sy’n cael ei ychwanegu – fel ffa ag ati. Felly mae’n rhaid bod yn ofalus, a bydde rhaid labelu y bara i gyd yn fanwl ac yn gywir."
'Targedu gwahanol farchnadoedd'
Y gobaith ydy y gall y bara o'r blawd newydd fod ar gael i bob math o gwsmeriaid, meddai Dr Howarth.
“Ers i mi siarad efo’r wasg am y prosiect mae wedi fy nharo i gymaint y mae pobl yn caru bara gwyn!
“Y gobaith ydy i dargedu gwahanol farchnadoedd – pobl yn pobi adref, pobyddion bach annibynnol, a’r cwmnïau mawr a’r archfarchnadoedd.
Mae Dr Howard yn gobeithio y cawn nhw ganlyniadau cyffrous ynglŷn â'r gwaith ymchwil yma y flwyddyn nesaf.
“Mae’r prosiect yma wedi ei ariannu gan Innovate UK am ddwy flynedd, ac fe ddechreuodd ym mis Medi diwethaf. Erbyn diwedd y ddwy flynedd, y cynllun yw y bydd ganddon ni’r blawd ac y bydd o’n barod i fynd."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2023