Dyn yn gaeth i morffin ar ôl gwella'n 'wyrthiol' o ganser
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Bowys yn dweud ei fod yn dioddef o iselder dwys ac yn gaeth i morffin ar ôl blynyddoedd o leddfu poen ei ganser terfynol – dim ond i ddarganfod bedair blynedd yn ddiweddarach nad oes ganddo’r afiechyd mwyach.
Cafodd Colin Whitney, 76, wybod ym mis Mai 2020 fod ganddo cyn lleied â phythefnos i fyw yn dilyn diagnosis cynt o lymffoma celloedd B mawr gwasgaredig, oedd ym mêr ei esgyrn.
Ond ar ôl blynyddoedd o ofal diwedd oes pan ddirywiodd ei iechyd yn sylweddol, mae ei deulu nawr yn mynnu atebion gan benaethiaid iechyd ar ôl cael gwybod ym mis Chwefror eleni ei fod wedi gwella yn “wyrthiol”.
Maen nhw’n cyhuddo byrddau iechyd o beidio â chydnabod beth maen nhw’n ei gredu oedd camddiagnosis, gan olygu y gallai problemau iechyd eraill oedd gan Mr Whitney fod wedi cael eu methu yn y cyfamser.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys eu bod nhw’n “cymryd unrhyw gwynion a phryderon o ddifrif”, tra bod Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cydymdeimlo gyda sefyllfa’r teulu, ond dweud bod y “diagnosis cywir” wedi’i wneud ar y pryd.
Roedd Mr Whitney, saer coed o’r Gelli Gandryll, yn arfer byw bywyd actif ond fe gafodd driniaeth yn 2019 am hylif o gwmpas ei galon.
Yn dilyn profion pellach, cafodd wybod gan arbenigwyr yn Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni fod ganddo lymffoma ac fe gafodd gemotherapi – er mai dim ond chwech o’r 10 cwrs o driniaeth a gwblhaodd “gan fod o’n ei wneud o’n sâl iawn”, yn ôl ei ferch Rebecca.
Ar ddechrau 2020 mae’n cofio “canu cloch” i ddangos nad oedd canser arno – dim ond i alwad Skype gyda doctoriaid yn ystod y cyfnod clo chwalu’r argraff honno.
“Mi ddywedodd un ohonyn nhw ei fod o’n newyddion drwg,” meddai Colin.
“Roedd gen i ganser. Doedd pethau ddim yn dda. Doedd o ddim am fod yn hir dymor.
“Ond bum mlynedd yn ddiweddarach, dwi dal yma.”
Fe wnaeth y rhagolwg roi saib ar fywydau’r teulu, gyda Rebecca yn symud i fyw gyda’i thad er mwyn gofalu amdano – ac aros am y diwrnod tyngedfennol.
“Bob diwrnod pan o’n i’n mynd i’r gwaith a dod adref, roedd rhaid i fi eistedd tu allan a pharatoi fy hun, yn meddwl bod Dad wedi marw,” meddai.
I’w brawd Adam, oedd yn byw yng Nghaerdydd, roedd yn golygu galwad betrusgar bob dydd.
“Bob bore roeddwn i a Becky yn siarad gyda’n gilydd, cyn checkio ar Dad, achos ‘dych chi jyst ddim yn gwybod pryd mae’r diwrnod am ddod,” meddai.
'Cysgu 20 awr y dydd'
Ond fe drodd misoedd yn flynyddoedd, a Colin yn dweud fod bellach ganddo “iselder” a’i fod yn “gaeth i’r cyffuriau lleddfu poen” a gafodd eu rhoi iddo fel rhan o’r gofal diwedd oes.
Mae bellach yn “cysgu 20 awr y dydd”, yn ôl Rebecca, a methu gadael y tŷ oni bai ei fod yn mynd i apwyntiadau ysbyty.
Llynedd fe ddechreuodd y teulu amau’r diagnosis canser gwreiddiol o ddifrif, ac ar ôl gofyn am brofion pellach, cawsant wybod y newyddion “syfrdanol” ym mis Chwefror nad oedd y lymffoma yno bellach.
“Eu geiriau nhw oedd, 'wel wir, rydyn ni mewn sioc ac wedi syfrdanu',” meddai Adam. “Mae o’n wyrth.”
Mewn llythyr ym mis Mehefin 2024, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan “ymddiheuro am effaith boenus” y profiad ar y teulu, gan ddweud fodd bynnag bod eu hadolygiad nhw wedi canfod “dim amheuaeth fod y diagnosis cywir” wedi’i wneud yn 2019.
Ond dyw’r teulu ddim yn credu’r esboniad hwnnw.
“’Dych chi’n byw am bedair blynedd a hanner yn meddwl bod rhywun yn mynd i farw o ganser terfynol, ac yna i gael gwybod ei fod wedi diflannu’n llwyr, 'ewch adref a delio gyda’r peth', mae’n syfrdanol,” meddai Rebecca.
Mae teulu Colin nawr wedi cwestiynu pam na wnaeth gweithwyr iechyd sylweddoli’n gynt ei fod wedi goroesi’n hirach na’r disgwyl, ac a oedd yr oedi hwnnw wedi golygu nad oedd cyflyrau iechyd eraill wedi’u trin yn y cyfamser.
“Ar yr olwg gyntaf mae’n newyddion da, tydi?” meddai Adam.
“Ond mae jyst wedi codi lot mwy o gwestiynau, achos mae Dad dal yn sâl iawn, a dydyn ni heb gael at wraidd beth sy’n mynd ymlaen.
“’Dyn ni hefyd yn adlewyrchu ar sut allai bywyd fod wedi bod yn wahanol petawn ni wedi cael y rhagolygon cywir bedair blynedd yn ôl.”
Ychwanegodd Rebecca fod y chwe mis diwethaf wedi bod yn “annioddefol”, o feddwl bod posib nad oedd ganddo ganser wedi’r cwbl.
“Mae’n waeth na byw gyda rhywun 'dych chi’n meddwl sy’n mynd i farw unrhyw ddydd o ganser terfynol,” meddai.
'Hanner degawd mewn limbo'
Wrth chwilio am fwy o atebion, fe dalodd y teulu am sgan MRI preifat fis diwethaf wnaeth amlygu problemau ar galon Colin, a niwed i’w ymennydd.
Fe wnaeth hynny arwain at ymgynghoriadau brys, dim ond iddyn nhw gael gwybod gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys bod rhestr aros o 61 wythnos am apwyntiad cardiolegydd.
“’Dyn ni jyst eisiau gwybod beth sydd o’i le arno fo, er mwyn iddo fo gael y feddyginiaeth gywir,” meddai Rebecca.
“Gobeithio y gall o wella, neu os ddim, o leia’ cael bywyd mwy cyfforddus.
“Gallwn ni i gyd symud ymlaen gyda’n bywydau wedyn, achos ar hyn o bryd, mae wedi bod yn hanner degawd a phawb mewn limbo.”
Mae’r teulu wedi codi pryderon gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys - lleoliad meddyg teulu Colin a rhai o’r gwasanaethau eraill a gafodd megis gofal diwedd oes - yn ogystal â Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan oedd yn gyfrifol am y diagnosis o lymffoma.
Ar hyn o bryd maen nhw’n aros am drydydd "ymateb terfynol" gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Mewn ymateb i gais BBC Cymru am sylw, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Ein bwriad yw i ddarparu a chomisiynu’r gofal gorau posib i’n holl gleifion.
“Rydym yn cymryd unrhyw gwynion a phryderon o ddifrif, ac yn gweithio gyda’r teulu i edrych ar y materion a godwyd fel blaenoriaeth.
“Mae’n hymrwymiad i gyfrinachedd cleifion yn golygu y byddai’n amhriodol i ni wneud sylw ar ofal a thriniaeth unigolyn.”
'Annerbyniol'
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan: “Rydym yn flin i glywed bod Mr Whitney a’i deulu yn parhau i fod yn anhapus gyda chanlyniad y cyfarfodydd i drafod ei ofal, a dydyn ni ddim yn bychanu pa mor drist a gofidus mae’r sefyllfa yma’n siŵr o fod wedi bod i Mr Whitney a’i deulu.
“Byddwn yn ei annog i gysylltu gyda ni’n uniongyrchol os hoffai drafod unrhyw bryderon sydd ganddo ynghylch ein gwasanaethau.”
Mae’r Aelod Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Jane Dodds, bellach wedi bod yn cynorthwyo’r teulu yn eu hachos, ac yn dweud bod y diffyg eglurdeb “yn annerbyniol”.
“Maen nhw’n rhesymol iawn gyda beth maen nhw’n ei ofyn o’r awdurdodau iechyd, ac mae eu gofynion nhw’n glir a syml mewn gwirionedd,” meddai Ms Dodds.
“Atebion i beth ddigwyddodd bum mlynedd yn ôl, ond yn fwy na hynny, maen nhw isio gwybod beth sy’n digwydd rŵan, ac i’w tad nhw gael ei drin ar frys.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai
- Cyhoeddwyd16 Mai