To Stadiwm Principality ar gau ar gyfer holl gemau rygbi Cymru

to PrincipalityFfynhonnell y llun, Rex Features
  • Cyhoeddwyd

Bydd tîm rygbi Cymru yn chwarae eu holl gemau rhyngwladol yn Stadiwm Principality gyda'r to ar gau am y ddwy flynedd nesaf.

O'r blaen roedd yn rhaid i'r ddau dîm gytuno a ddylid cau'r to neu ei adael ar agor, ond mae yna bellach gytundeb newydd.

Dywed Undeb Rygbi Cymru (URC) bod gallu'r cau to yn sicrhau amodau chwarae da, yn rhoi cysondeb i'r chwaraewyr ac yn gwella profiad y cefnogwyr.

"Does dim awyrgylch gwell na Stadiwm Principality llawn dop yn cefnogi Cymru," medd rheolwr y stadiwm, Mark Williams.

"Yn y gorffennol rydym bob amser wedi dod i gytundeb gyda'r tîm sy'n ymweld ynghylch a yw'r to ar agor neu ar gau, ond mae'r cytundeb hanesyddol hwn yn ein galluogi i wneud y mwyaf o un o'n hasedau gorau a bydd y to ar gau yn ystod gemau rygbi rhyngwladol Cymru am y ddwy flynedd nesaf.

"Pan mae'r to ar gau, mae'r sŵn yn wefreiddiol. Mae'n wych i'r cefnogwyr a'r chwaraewyr."

Pob sedd yn llawn

Mae'r holl docynnau ar gyfer y ddwy gêm gartref ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2025 wedi'u gwerthu, a bydd Cymru felly yn chwarae Iwerddon ddydd Sadwrn 22 Chwefror a Lloegr ar 15 Mawrth o flaen torf o 74,000.

Mae Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc ym Mharis nos Wener, 31 Ionawr cyn wynebu'r Eidal yn Rhufain wyth diwrnod yn ddiweddarach.

Bydd y tîm, a orffennodd ar waelod y bencampwriaeth heb yr un fuddugoliaeth yn 2024 ac sydd wedi colli record o 12 gêm ryngwladol, yn teithio i'r Alban ddydd Sadwrn, 8 Mawrth, cyn y gêm gartref olaf yn erbyn Lloegr.

Pynciau cysylltiedig