200 o weithwyr iechyd o India i ddod i weithio yng Nghymru

Un o amcanion Jeremy Miles yw lleihau costau cyflogi nyrsys drwy asiantaethau
- Cyhoeddwyd
Mae undeb nyrsio yn croesawu cytundeb newydd i ddod â 200 o weithwyr iechyd o India i weithio yn y gwasanaeth iechyd, ond yn rhybuddio nad yw'n ddigon i lenwi bylchau staffio.
Mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Jeremy Miles wedi llunio'r cytundeb â llywodraeth talaith Kerala gyda'r nod o fynd i'r afael â phrinder staff a lleihau costau.
Ond mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn dweud bod angen dros 2,000 yn rhagor o nyrsys.
Un o amcanion Mr Miles, yn sgil y cytundeb, yw lleihau costau cyflogi nyrsys drwy asiantaethau.

Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn dweud bod angen dros 2,000 o nyrsys i lenwi bylchau staffio
"Wrth gwrs ein bod ni'n croesawu nyrsys a doctoriaid ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd," meddai Nicky Hughes o'r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yng Nghymru.
"Mae 'na 2,000 o swyddi gwag ar gyfer nyrsys a bydd hyn yn mynd rhywfaint tuag at helpu hynny."
Mae'r RCN yn poeni bod pwysau ariannol yn gwneud y gwaith o recriwtio staff i'r gwasanaeth iechyd yn anoddach.
"Mae'r wasgfa ariannol yn effeithio ar allu'r gwasanaeth iechyd i lenwi'r swyddi ac i ddatblygu staff ac yna eu cadw nhw," ychwanegodd.

Mae Prifysgol Caerdydd yn ystyried cael gwared â'r adran nyrsio fel rhan o gyfres o doriadau posib
Mae'r RCN yn poeni hefyd am ddyfodol ysgol nyrsio Prifysgol Caerdydd.
"Byddai cau'r ysgol yn cael effaith anferth, nid yn unig o ran hyfforddi nyrsys yng Nghaerdydd a'r Fro, ond yn y proffesiwn yn ehangach hefyd," meddai Ms Hughes.
"Mae hi'n hanfodol bod gennym ni yng Nghymru ysgolion nyrsio da sy'n cadw'r cyflenwad yna o nyrsys newydd i ddod."
'Traddodiad hir o recriwtio moesegol'
Wrth siarad â BBC Cymru o Kerala ar ôl arwyddo'r cytundeb, dywedodd yr ysgrifennydd iechyd y byddai'r cytundeb yn torri gwariant ar gyflogi nyrsys o asiantaethau.
"Un o'r heriau sy'n codi'n aml i fi fel yr ysgrifennydd iechyd ydi'r gost i'r Gwasanaeth Iechyd o gyflogi staff asiantaeth," meddai Mr Miles.
"Mae'r gost wedi haneru, dwi'n meddwl, dros gyfnod o ddwy neu dair blynedd," meddai, gan ychwanegu bod delio yn uniongyrchol gyda llywodraeth Kerala yn arbed arian.
Y llynedd fe arwyddodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, gytundeb tebyg pan oedd hi'n weinidog iechyd.
"Mae 'na draddodiad hir, un ni'n hynod falch ohono yng Nghymru, o recriwtio moesegol o weddill y byd i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru," meddai Mr Miles.
"Rwy' yn India gan ein bod ni wedi sefydlu'r berthynas yn barod sy'n gweithio'n dda iawn," meddai, "ac mae'r sgiliau sy'n dod gyda nhw yn cael eu rhoi ar waith yn syth er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael y gofal maen nhw ei angen."
- Cyhoeddwyd20 Chwefror
- Cyhoeddwyd12 Chwefror
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
Mae'r RCN yn dweud bod angen mwy o waith gan Lywodraeth Cymru "i lenwi swyddi a gwella gofal cleifion".
Dywedodd Nicky Hughes o RCN Cymru: "Mae cyflogau, telerau ac amodau yn cael effaith andwyol ar nyrsio yng Nghymru.
"Ond mae angen gwella adnoddau hefyd ac mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi dweud bod rhoi gofal i gleifion mewn coridorau yn gwbl amhriodol.
"Pan mae rhywun yn gorfod rhoi gofal mewn rhan o'r adeilad sy'n amhriodol ac anaddas a pham does dim mwy o staff i ofalu amdanyn nhw, mae rhywun yn mynd adref o'r gwaith yn teimlo nad ydych chi wedi gwneud eich gorau, a dyna pryd mae nyrsys yn gadael."