Americanwyr yn cael eu denu i astudio ym Mhrifysgol Wrecsam

Ryan Reynholds a Rob McElhenneyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Americanwyr wedi bod yn ymweld â Wrecsam ers y gyfres ddogfen 'Welcome to Wrexham' a oedd yn dilyn datblygiad y clwb ers 2022

  • Cyhoeddwyd

Ychydig o flynyddoedd yn ôl fyddai disgyblion ysgolion uwchradd yn America ddim wedi clywed am Wrecsam heb sôn am feddwl am symud yno.

Ond mae'r rhod wedi troi ar ôl i'r sêr Hollywood hybu poblogrwydd y ddinas trwy brynu'r clwb pêl-droed.

Mae Americanwyr wedi bod yn ymweld â'r ddinas ers y gyfres ddogfen 'Welcome to Wrexham' a oedd yn dilyn datblygiad y clwb ers 2022.

Mae Prifysgol Wrecsam, sydd yn agos i'r Cae Ras, wedi manteisio ar y cyfle i ddenu myfyrwyr o UDA.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Abraham Amador y byddai'n wych astudio yn Wrecsam wrth ymyl y Cae Ras

Mae swyddogion yn gobeithio y bydd y myfyrwyr yma yn cyrraedd ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, yn dilyn ymdrechion Rob McElhenney a Ryan Reynolds i dynnu sylw at y ddinas.

Mae Abraham Amador, 18 oed o Los Angeles, yn gobeithio bod yn un o'r rhai cyntaf i astudio yng Nghymru.

"Mae'n edrych fel pe bai nhw'n cynnig yr union gwrs dwi eisiau gwneud. Mae'n swnio'n anhygoel. Fyswn i wrth fy modd yn astudio yno ac yn gallu mynd i gemau Wrecsam," meddai.

Mae Abraham yn ymgeisio ar gyfer cwrs hyfforddi chwaraeon ar ôl cwrdd â staff y brifysgol yn America.

Fel cefnogwr pêl-droed, dywedodd ei fod yn gwybod am dîm Wrecsam cyn dyddiau Rob a Ryan, ond ei fod wedi dysgu mwy am y clwb a'r ddinas ers iddyn nhw fod wrth y llyw.

Dywedodd ei fod yn hynod gyffrous pan ddaeth i wybod ei fod yn medru astudio yno hefyd, ar ôl mynychu ffair brifysgol yn Los Angeles fis Medi a sylwi ar grys Wrecsam yn un o'r stondinau.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Y sêr Hollywood a brynodd y clwb pêl-droed sy'n gyfrifol am hybu poblogrwydd Wrecsam

O'r 9,000 o fyfyrwyr sydd ym Mhrifysgol Wrecsam, mae 1,500 ohonynt yn fyfyrwyr rhyngwladol - yn bennaf o Dde Asia, Affrica, Yr Almaen a'r Swistir.

Dywed Daniel Griffiths, rheolwr marchnata a recriwtio rhyngwladol y brifysgol, fod y farchnad Americanaidd heb gael ei hystyried o ddifrif tan yn ddiweddar.

Er dywedodd tra ei fod yn y ffair yn Los Angeles, fod effaith poblogrwydd y clwb pêl-droed wedi gosod gogledd Cymru yn glir ar y map.

Ond dywedodd fod hynny ond yn gallu gwneud hyn a hyn - a bod Prifysgol Wrecsam yn gallu cynnig yr hyn sy' n bwysig i'r myfyrwyr.

"Fe wnaeth tipyn o fyfyrwyr adnabod crys a sgarff Wrecsam," meddai.

"Roedd llawer ohonyn nhw yn gwybod am y clwb pêl-droed drwy'r gyfres deledu, ond doedd 'na ddim llawer yn gwybod fod 'na brifysgol yma.

"Roedd modd i ni siarad â nhw am yr hyn oedd yn bosib ei astudio yma, a pha mor fforddiadwy oedd astudio a byw yng Nghymru o'i gymharu â'r UDA.

"Rydym wedi cael tipyn o fuddsoddiad yn y brifysgol, fel yr adeilad peirianneg newydd. Mae 'na resymau amlwg am ddod yma yn ogystal â'r pêl-droed."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Daniel Griffiths fod llawer o'r disgyblion "yn gwybod am y clwb pêl-droed drwy'r gyfres deledu, ond doedd na ddim llawer yn gwybod fod 'na brifysgol yma"

Mae Ashish, 26, o ranbarth Haryana yn India wedi bod yn byw yn Wrecsam ers rhyw chwe mis yn astudio ar gyfer gradd meistr mewn busnes rhyngwladol, ar ôl cwblhau ei radd gyntaf yn ei wlad enedigol.

Fe gafodd ei annog i ystyried i symud i Wrecsam gan ffrind a oedd eisoes yn byw yno.

Roedd o'r farn ei fod yn syniad da i recriwtio pobl o wahanol wledydd o'r byd am fod gan y ddinas lawer i'w gynnig, a'i bod yn "unigryw".

"Dwi'n hoffi'r amgylchedd. Does dim llygredd. Mae'r tai yn ciwt, mae'r adeiladau yn hen. Dwi'n hoffi'r tywydd yma," meddai.

Dywed Daniel Griffiths ei fod yn gobeithio y bydd "cynnydd naturiol" wrth i fyfyrwyr o UDA a De America ddod, gan ddangos i'w cyfeillion adref yr hyn sy'n bosib ei astudio yn Wrecsam.

Ychwanegodd bod myfyrwyr rhyngwladol yn dod â "chyfoeth" i brifysgolion Cymru fel Wrecsam, â'i "safbwyntiau unigryw".

"Maen nhw'n dod am flas o'r diwylliant Cymreig, ond maen nhw hefyd yn dod â rhywbeth i ni," ychwanegodd.