Y Cymro sy'n helpu'r Gwyddelod yn y Gemau Olympaidd
- Cyhoeddwyd
Yng nghanol bwrlwm ryngwladol y Gemau Olympaidd eleni, fe fydd Cymro Cymraeg yn gwneud ei orau glas i helpu ei dîm i ennill medalau.
Ond nid gweithio gyda thîm Prydain y mae Richard Lee, o bentref Frongoch ger y Bala, ond yn hytrach gyda thîm canŵio dŵr gwyllt Iwerddon.
Yn ei ddydd roedd Richard, sy’n 59 oed, yn canŵio dros Gymru, ac wedi iddo orffen cystadlu fe gymerodd rôl flaenllaw mewn datblygu canŵio yng Nghymru a Phrydain.
Mae’n cynorthwyo tîm Iwerddon ers rhai blynyddoedd bellach, ac ym Mharis eleni fe fydd yn gweithio i ddadansoddi perfformiad canŵ-wyr yr Ynys Werdd er mwyn eu helpu i fynd i lawr y cwrs cyn gynted â phosib’.
“Fel dwi’n siarad hefo chi o fy stafell yn y pentref Olympaidd, dwi’n gweld y Stade de France ar un ochr i mi a Thŵr Eiffel ar yr ochr arall,” meddai.
“Mae gan Iwerddon dîm o 140 o athletwyr yma a pedwar o’r rheiny yn ganŵ-wyr. Rydan ni’n rhannu neuadd yn y Pentref Olympaidd gyda thîm athletau Kenya, sy’n enwog am ei rhedwyr pellter hir a chanolig.
“Ac roedd yna nifer o dimau rygbi saith-bob-ochr yn y gym hefo fi’r bore ‘ma' - Fiji, De Affrica ac Awstralia.
“Mae Novak Djokovic i fod yn cystadlu yn y tennis yma, ac fe fydd Rory McIlroy a Shane Lowry yn cynrychioli Iwerddon yn y golff - ond 'wn i ddim os fyddan nhw’n aros yn y pentref ai peidio.”
Cyrraedd Paris i setlo ac ymarfer
Fe gyrhaeddodd Richard y Pentref Olympaidd wythnos cyn i’r canŵio cystadleuol ddechrau er mwyn i bawb gael setlo a hyfforddi ar y dŵr y byddant yn cystadlu arno.
Ac mae’r canŵio’n cael ei gynnal mewn amgylchedd trawiadol iawn eleni - Stadiwm Forwrol Vaires-sur-Marne, y cyntaf o’r cyfleusterau newydd i’w cwblhau ar gyfer y gemau, yn 2019.
Meddai Richard: “Rydan ni wedi bod yn dod allan yma ers tua blwyddyn rŵan ac fe gafodd Cwpan y Byd ei chynnal yma fis Hydref diwethaf, felly rydan ni’n eitha’ cyfarwydd hefo’r safle.
“Cwrs artiffisial ydi o hefo pump drop reit syfrdanol.
“Ond er ein bod ni’n gyfarwydd hefo’r safle fyddwn ni ddim yn gallu ymarfer ar y cwrs unwaith y bydd o wedi cael ei setio i fyny. Ac wedyn, os gwneith rhai o’n tîm ni fynd drwy’r heats a chyrraedd y ffeinal, fe fydd y cwrs yn newid eto.”
Ond os oes rhywun yn meddwl cadw llygad am Richard ar y teledu yn ystod y Gemau, mae’n annhebygol y bydd ar y sgrin fach – gan y bydd o o flaen dwy sgrin fideo yn ystod y cystadlu.
Meddai: “Mewn ystafell gerllaw fydda i, yn edrych ar ddwy sgrin, gan amseru splits pawb i weld ble gallan’ nhw arbed amser.
“Fe fydd o’n reit intense am ryw ddwy neu dair awr yn ystod y cystadlu.
“Rhan bwysig arall ydi dadansoddi troseddau - rhai ni a rhai'r timoedd eraill - i weld os oes camgymeriadau wedi cael eu gwneud gan y swyddogion.”
Mae pob trosedd yn golygu dwy eiliad o gosb i amser y canŵ-wyr.
O’r pedwar yn nhîm Iwerddon y siawns gorau am fedal, meddai Richard, yw Liam Jegou.
“Fe wnaeth o ennill ras yng nghyfres Cwpan y Byd yn 2021,” meddai.
“Ond y prif beth yw ceisio mynd drwy’r heats. Os gwnewch chi hynny, does wybod be’ wneith ddigwydd yn y ffeinal.”
'Cwrs canŵio wedi newid fy mywyd'
Dechreuodd Richard ganŵio ym mlwyddyn pedwar yn Ysgol y Berwyn, Y Bala, pan ddaeth Pencampwriaethau Canŵio’r Byd i’r ardal yn 1980. Aeth criw o’r ysgol ar gwrs pedwar diwrnod i ddysgu canŵio cyn mentro i lawr dŵr gwyllt y Tryweryn.
“Fe wnaeth hynny newid cwrs fy mywyd,” meddai.
“Ond mae’n deg i ddweud nad oedd canŵio yn plesio pawb yn lleol bryd hynny - roedd yna ‘chydig bach o ‘ni a nhw’ amdano fo achos mai pobl o i ffwrdd oedd yn canŵio yn yr ardal yn bennaf.
“Dwi’n falch o ddweud fod pethau wedi newid ers hynny ac mae cyfle i bobl ar draws Cymru i ymuno hefo clwb canŵio lleol erbyn hyn.
“Roedd yna un dyn yn y Bala - Barry Evans - oedd yn pioneer go iawn. Fo oedd y cyntaf i ddangos y gallai pobl o’r ardal fynd ar y dŵr i fwynhau a chystadlu. Fe ddaeth o yn Bencampwr Cymru a bod yn rhan o garfan GB hefyd.
“Mae ‘na ddywediad Saesneg, standing on the shoulders of giants, a dyna oedd Barry i fi. Cawr.”
Hyfforddi gyda thîm Iwerddon
Wedi mynd i’r Brifysgol yn Llanbed fe ymunodd Richard â chlwb canŵio Llandysul.
Aeth ymlaen i weithio yng nghanolfan Tryweryn a chynrychioli Cymru ar y dŵr gwyllt cyn mynd i Brifysgol Loughborough i astudio Rheolaeth Chwaraeon ac ennill Pencampwriaeth Canŵio Prifysgolion Prydain.
Yn 1997 daeth yn Brif Weithredwr Cymdeithas Canŵio Cymru a helpu i sefydlu'r ganolfan ddŵr gwyllt ym Mae Caerdydd.
Daeth yn hyfforddwr llawn amser gyda thîm Prydain yn 2004 ac er iddo gefnogi’r tîm Prydeinig yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008, ni chafodd y cyfle i deithio i’r gemau eu hunain.
Bu hefyd yn gweithio fel sylwebydd ar y safle canŵio yng ngemau Olympaidd Llundain yn 2012.
Dechreuodd weithio gydag athletwyr o Ogledd Iwerddon tra’n astudio ym Mhrifysgol Bangor yn 2018, cyn symud ymlaen i weithio ar strategaeth datblygu canŵio a hyfforddiant efo Cymdeithas Ganŵio Iwerddon.
Bu’n hyfforddi eu tîm o dan 23 oed a chreu system dadansoddi perfformiad iddyn nhw.
Ac mae’r gwaith yn golygu cryn dipyn o deithio. O’r 10 athletwr sydd yn y tîm hŷn, mae tri yn byw yn Iwerddon, tri ym Mhrydain, dau yn Ffrainc a dau yn UDA.
Ar ben hynny mae wedi teithio i Bencampwriaethau’r Byd ym Mrasil, Sbaen, Yr Almaen, Llundain ac i bencampwriaethau Ewrop yng Ngwlad Pwyl.
Eleni mae o oddi cartref am tua 140 o ddiwrnodau.
'Y canŵiwr gwaethaf yn y teulu'
Ond beth sy’n fwyaf syfrdanol efallai yw mai Richard yw, yn ei eiriau ei hun: “y canŵiwr gwaethaf yn y teulu”.
Mae ei wraig, Carol, wedi ennill pencampwriaeth slalom Cymru dair gwaith ac wedi cynrychioli Cymru a Phrydain.
Yn yr un modd mae ei ferched, Cara a Kirsten, wedi cynrychioli Cymru a Phrydain.
“Mae Cara bellach yn canolbwyntio ar expeditions. Mae hi yn Norwy ar y funud ac wedi bod mewn llefydd fel Rwsia a Mongolia i ganŵio.
“A mis Hydref fe fydd Kirsten yn cynrychioli tîm polo canŵ Prydain ym Mhencampwriaeth y Byd yn Tsieina.”
Beth sy’n dod ar ôl y Gemau Olympaidd i Richard?
“Dwi’m yn siŵr," ydi’r ateb gonest. “Ar y funud ‘dwi jysd isho canolbwyntio ar hyn. Mae’n bwysig bod yn y foment a chanolbwyntio’n llwyr ar y gemau.”
Ond un peth mae’n sicr ohono - fe fydd yn parhau i weithio’n wirfoddol efo clwb canŵio’r Bala.
Mae hefyd yn awyddus i annog unrhyw un sydd hefo diddordeb yn y gamp i roi cynnig arni drwy gysylltu efo'u clwb canŵio lleol drwy wefan Canŵ Cymru.
A phwy a ŵyr, efallai y bydden nhw yn mynd i’r Gemau Olympaidd yn y dyfodol...
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf