Adeiladwr o Geredigion yn cael dirwy am beidio â thrin asbestos yn gywir

Mewn gwrandawiad dedfrydu ar 14 Mai 2025, cafodd Mr Ciminera ddirwy o £200 am bob un o'r ddwy drosedd
- Cyhoeddwyd
Mae adeiladwr o Geredigion a anwybyddodd fesurau diogelwch wrth drin asbestos wedi cael dirwy.
Fe blediodd Ashley Ciminera o Felin-fach yng Ngheredigion yn euog i ddau achos sy'n ymwneud â thrin gwastraff mewn modd sy'n debygol o achosi llygredd i'r amgylchedd neu niwed i iechyd pobl.
Pan fydd haenau asbestos yn cael eu tynnu, mae'n rhaid i'r unigolyn sy'n trin y deunydd wneud pob ymdrech i atal ffibrau asbestos rhag cael eu rhyddhau i'r awyr.
Fe gafodd ei ddedfrydu gan Ynadon yng Nghanolfan Gyfiawnder Aberystwyth a dirwy o £200 am bob un o'r ddwy drosedd gan gynnwys costau ychwanegol.
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd11 Medi 2018
Ym mis Mehefin 2023 roedd Mr Ashley Ciminera, sy'n 37 oed, yn tynnu to i lawr yn Warws Teifi yn Aberteifi.
Fe ollyngodd haenau o'r to oedd yn rhychiog ac yn cynnwys asbestos i faes parcio oedd â mynediad cyhoeddus, ac oedd yn agos i'r palmant.
Wrth iddo dynnu haenau o'r to roedd darnau tameidiog wedi cwympo gan ddifrodi ceir a oedd wedi'u parcio islaw.
Pan yn trin cynnyrch sy'n cynnwys asbestos mae'n rhaid sicrhau ei fod yn cael ei dynnu heb ei dorri ac yna ei lapio mewn dwy haen o blastig trwm.
Y rheswm am hyn yw pan fydd deunyddiau sy'n cynnwys asbestos yn cael eu difrodi, gallant ryddhau ffibrau bach i'r awyr.
Mae siâp a maint ffibrau asbestos yn ei alluogi i dreiddio'n ddwfn i'r ysgyfaint, lle gall aros a threiddio i feinwe'r ysgyfaint.
Clywodd y gwrandawiad bod gadael asbestos wedi torri mewn man cyhoeddus agored felly yn broblem iechyd cyhoeddus difrifol.
'Rhybudd clir am gamreoli deunyddiau peryglus'
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Ceredigion: "Mae'r achos hwn yn dangos y bydd unrhyw un a ganfyddir yn euog o gam-drin gwastraff peryglus yn wynebu cosbau llym.
"Mae'r erlyniad hwn yn rhybudd clir i bob unigolyn a sefydliad na fydd camreoli deunyddiau peryglus yn ddiofal neu'n fwriadol yn cael ei oddef."
Mewn gwrandawiad dedfrydu ar 14 Mai 2025, cafodd Mr Ciminera ddirwy o £200 am bob un o'r ddwy drosedd.
Yn ogystal, cyhoeddodd y llys ordal dioddefwr o £160 a rhoddwyd costau erlyn o £150, cyfanswm o £710 i gyd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.