Asbestos mewn o leiaf 900 o ysgolion Cymru
- Cyhoeddwyd
Gallai monitro anghyson o asbestos yn ysgolion Cymru beryglu staff a disgyblion, medd undebau.
Mae Cais Rhyddid Gwybodaeth a wnaed gan BBC Cymru yn dangos bod dros 900 o ysgolion Cymru yn cynnwys asbestos.
Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau hyn yn cael eu harolygu yn gyson ond mae rhai arolygon yn 10 oed ac yn aml mae amheuon bod asbestos yn yr adeiladau ond does dim gwybodaeth bendant.
Mae'r undebau yn dweud bod yn rhaid gweithredu ar frys.
Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda phartneriaid i "gael gwared o risgiau cyn gynted â phosib".
Yn gynharach eleni roedd amheuon bod arolygon asbestos wedi dyddio wedi i ddisgybl gicio wal ysgol nes ei bod yn dwll - darganfuwyd asbestos nad oedd wedi'i ganfod o'r blaen.
Cafodd asbestos ei wahardd yn 1999 gan fod y ffibrau yn gysylltiedig â nifer o afiechydon - yn eu plith mesothelioma, ffurf ar ganser.
Ond mae asbestos yn parhau i fod mewn nifer o adeiladau cyhoeddus - gan gynnwys ysgolion ac ysbytai a gafodd eu codi neu eu hailwampio yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Os yw'n cael ei drin yn ofalus mae asbestos yn llai peryglus - rhaid anadlu ffibrau iddo fod yn niweidiol.
Mae Llywodraeth Cymru yn gorchymyn fod yn rhaid i bob ysgol gael arolwg diweddar - un sy'n nodi a oes asbestos yn yr adeilad.
Mae cais rhyddid gwybodaeth BBC Cymru yn nodi bod rhai cynghorau yn arolygu adeiladau yn gyson ond dyw eraill ddim wedi gwneud ers 2011.
Tra bod asbestos wedi cael ei symud o rai ysgolion, mewn eraill cadw golwg ar y sefyllfa y mae arbenigwyr oherwydd y gost uchel o'i symud.
Mae ffigyrau newydd yn dangos bod deunyddiau sy'n cynnwys asbestos yn bresennol mewn 903 ysgol yng Nghymru sef 60% - ond fe allai'r ffigwr fod yn uwch gan i bedwar cyngor beidio ymateb.
Mae'r rhan fwyaf o'r asbestos risg uchel mewn ystafelloedd na sy'n cael eu defnyddio gan staff neu ddisgyblion - er enghraifft ystafelloedd bwyleri, llofftydd ac ystafelloedd o dan ddaear.
'Angen gweithredu ar frys'
Dywed David Evans, Ysgrifennydd Cymru undeb addysg yr NEU, bod "cael cymaint o asbestos yn ysgolion Cymru yn frawychus".
"Ry'n ni'n awyddus i gael gwybod beth yw cynlluniau pob awdurdod lleol i gael ei wared yn ddiogel, dyw hyn ddim yn dderbyniol bellach," meddai.
Dywedodd Mike Payne, o undeb GMB bod rhai gweithwyr ysgol wedi marw ar ôl dod i gysylltiad gydag asbestos.
"Mae plant yn bangio walydd... mae pobl yn cael eu gorchuddio â llwch a does neb yn gwybod beth yw e," meddai.
"Mae mesothelioma yn lladd... ry'n ni angen cael gwybod lle mae'r asbestos ac yn fwy pwysig byth cael gwybodaeth am ei gyflwr."
Ychwanegodd Mr Payne bod yn rhaid gweithredu ar frys er mwyn symud asbestos o ysgolion.
"Rhaid cael cynllun, rhaid symud y deunydd angheuol hwn cyn gynted â phosib - fe fydd yn costio llawer o arian, ond faint o fywydau sy'n rhaid eu colli?"
Faint o asbestos sydd yn ysgolion Cymru?
Yng Nghonwy mae asbestos wedi cael ei gadarnhau mewn 35 ysgol gydag amheuon ei fod yn bresennol mewn 13 ysgol arall.
Yn dilyn digwyddiad yn y sir yn gynharach eleni, mae swyddogion wedi galw am dros £100,000 i wario ar arolygon gwell wedi iddyn ddod o hyd i rai arolygon oedd dros 20 oed.
Wrth ymateb i gwestiynau dywed Cyngor Conwy bod contractwr allanol wedi cynnal arolygon asbestos newydd eleni a'u bod bellach wedi cael sicrwydd bod yr arolygon presennol yn "gywir".
Yn Sir Fynwy dangosodd arolygon a gafodd eu cynnal yn 2014 bod asbestos yn bresennol mewn toiledau, lloriau a nenfydau ystafelloedd staff.
Ond dywed y cyngor nad oes ganddynt "unrhyw wybodaeth am ganfod asbestos o'r newydd" ac nad oedd unrhyw ddigwyddiadau wedi'u hadrodd.
Ym Mhowys cafodd asbestos ei ganfod o dan lloriau ysgol gynradd wedi llifogydd y llynedd, a chanfuwyd peth mewn ysgol uwchradd wrth i'w hystafelloedd newid gael eu hailwampio.
Yng Nghasnewydd bu'n rhaid selio ystafell foeler wedi digwyddiad yn Ebrill 2021.
Ysgolion yn fy ardal i?
Mae'r darlun ar draws Cymru yn amrywiol ond credir bod asbestos yn bresennol yn y mwyafrif o ysgolion a gafodd eu codi cyn 1990.
Dywedodd nifer o gynghorau nad ydynt yn gwybod faint a fyddai'n gostio i symud asbestos o ysgolion a bod gwaith yn digwydd yn ôl y galw.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot mae 61 ysgol wedi cadarnhau bod yna asbestos - dywed y cyngor bod ganddynt "gyfundrefn drwyadl" o gynnal arolygon bob blwyddyn er mwyn sicrhau nad yw deunyddiau wedi gwaethygu;
Dywed Cyngor Abertawe bod asbestos mewn 97 ysgol a'u bod yn hyderus nad oes asbestos yn y chwech adeilad newydd. Maent yn dweud eu bod yn cynnal arolygon a byddent yn cael gwared ohono petaent yn canfod niwed;
Yng Nghasnewydd canfuwyd bod asbestos mewn 66 ysgol a bod nifer o arolygon wedi cael eu cynnal eleni;
Yn Ynys Môn roedd asbestos mewn 37 ysgol a nodir bod arolygon yn cael eu cynnal yn flynyddol;
Dywed Cyngor Sir y Fflint bod asbestos mewn 11 ysgol uwchradd, 59 cynradd ac mewn pedwar adeilad addysg arbennig - y cyfan wedi'u codi cyn 1990. Maent yn dweud bod arolygon yn cael eu cynnal bob blwyddyn;
Ym Mlaenau Gwent mae'r nifer yn 18. Dywed y cyngor y bydd pob ysgol yn cael eu harolygu yn 2021 a bod yr arolygon diwethaf wedi digwydd yn 2019;
Amcangyfrifir bod 110 ysgol yng Nghaerdydd yn cynnwys asbestos oherwydd eu hoedran - mae dyddiad yr arolygon yn amrywio gyda rhai wedi'u cynnal eleni ond eraill ddim wedi'u cynnal ers 2011;
Yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr credir bod asbestos yn bresennol mewn 51 ysgol ond ni chanfuwyd achosion newydd yn ystod arolygon blynyddol;
Ym Merthyr cafwyd cadarnhad bod asbestos mewn 22 ysgol - ond mae'r cyngor yn dweud na chanfuwyd achosion newydd yn ystod arolygon a gafodd eu cynnal y llynedd;
Yng Ngheredigion mae deunyddiau sy'n cynnwys asbestos mewn 40 ysgol. Dywed y cyngor bod arolwg wedi cael ei gynnal ymhob ysgol yn ystod 2011-12 a bod ysgolion sydd â deunyddiau asbestos risg uchel yn cael eu harolygu bob chwe mis;
Ym Mhowys mae deunyddiau sy'n cynnwys asbestos mewn 73 ysgol ac mae arolygon yn cael eu cynnal yn flynyddol gydag asbestos yn cael ei symud pan nad yw'n bosib ei reoli neu pan mae gwaith ailwampio neu ddymchwel yn digwydd;
Yn Sir Wrecsam mae'r nifer yn 50 gydag arolygon neu'r gwaith o symud asbestos yn digwydd yn ôl y galw;
Yn Sir Ddinbych mae deunyddiau asbestos mewn 42 ysgol ond dywed y cyngor bod deunyddiau risg uchel wedi cael eu symud o ardaloedd y mae modd cyrraedd atynt;
Yn Sir Benfro mae'r nifer yn 48 ac mae'n bosib bod asbestos yn bresennol mewn pum ysgol arall a godwyd cyn 2000. Mae cynlluniau ar y gweill i'w symud.
Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n cynrychioli cynghorau, bod awdurdodau lleol yn cydweithio er mwyn deall maint y broblem a'u bod hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i "gael gwared o risgiau cyn gynted â phosib".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gweithio gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gefnogi arferiad da goruchwyliaeth asbestos mewn ysgolion ac adeiladau colegau."
Ychwanegodd: "Rydyn ni hefyd yn darparu cyngor i awdurdodau lleol i'w helpu cyflawni eu cyfrifoldebau o ran goruchwylio, arolygu ac, os oes angen, symud asbestos i ffwrdd o adeiladau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2021
- Cyhoeddwyd11 Medi 2018
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2015