'Amhroffesiynol' - Darpar ymgeiswyr Llafur yn anhapus â phroses ddewis

- Cyhoeddwyd
Mae yna rwystredigaeth ymysg darpar ymgeiswyr Llafur Cymru ynghylch y broses o ddewis ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd fis Mai, mae BBC Cymru yn deall.
Mae rhai ymgeiswyr wedi'u dewis a'u cadarnhau ond mae eraill yn dal i aros am benderfyniad ac yn cwyno eu bod wedi derbyn ychydig neu ddim cyfathrebiad gan y blaid yn ganolog.
Roedd rhai aelodau'n gobeithio y byddai'r broses ddethol wedi'i chwblhau erbyn y gynhadledd wanwyn, ond nawr mae yna amau na fydd y broses yn dod i ben tan yr Hydref.
Yn ôl Llafur Cymru, mae'r broses o ddewis a rhestru ymgeiswyr ar gyfer y rheiny sy'n gobeithio cael eu hailethol wedi'i gwneud, a chwblhau'r broses ar gyfer "y slotiau sy'n weddill" yn parhau i fynd rhagddi.
'Amhroffesiynol'
Mae BBC Cymru ar ddeall bod rhai dyddiadau cau i wneud cais i fod yn ymgeisydd wedi'u hymestyn nes 3 Awst.
"Mae pobl yn cymryd fod yn rhaid bod 'na rhyw gynllwyn tu ôl i'r oedi," yn ôl un darpar ymgeisydd.
"Mae'n rhwystredig, dyma'r broses mwya' amhroffesiynol dwi wedi gweld mewn unrhyw faes tu fewn neu tu fas gwleidyddiaeth trwy fy ngyrfa."
Pwyllgor Gweithredol Llafur Cymru sy'n gyfrifol am ystyried pob ymgeisydd sy'n gwneud cais, trwy broses o ddiwydrwydd dyladwy (due dilligence).
O dan y system etholiadol fwy cyfrannol newydd, unwaith y caiff uchafswm o wyth ymgeisydd eu cymeradwyo, bydd canghennau lleol a sefydliadau eraill y blaid yn pleidleisio i raddio eu dewisiadau.

Fe ddywedodd darpar ymgeisydd arall ei fod yn ymddangos fod yna ddiffyg brys o fewn y blaid gan ystyried fod yna etholiad ymhen llai na blwyddyn.
"Mae'r Blaid Lafur angen wirioneddol mynd ati ar frys gyda'r broses o ddewis ymgeiswyr.
"Mae yna gryn dipyn ohonom ni wedi cwyno am y ffordd mae'r blaid wedi delio efo'r broses o due diligence o'r ymgeiswyr.
"Mae angen sicrhau ein bod yn cael ymgeiswyr o ansawdd, lleol, sydd yn dymuno gweithio yn galed dros eu cymunedau."
Yn ôl darpar ymgeisydd arall, sydd wedi bod drwy broses ddethol debyg yn y gorffennol, mae'r broses yn sylweddol "off track" ac yn "rhwystredig iawn ar lefel bersonol, rwyf wedi gorfod gwrthod swydd sydd wedi achosi ansicrwydd ac anhawster".
"Dydw i ddim yn siŵr os mai mater o ddiffyg adnoddau yw e... rhyw ymdeimlad o burnout yn dilyn etholiad y llynedd ynghyd â threfnu cynhadledd wanwyn."
- Cyhoeddwyd7 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru bod y blaid "ar hyn o bryd yn rhedeg prosesau dewis ar gyfer yr 16 etholaeth newydd a ffurfiwyd ar gyfer etholiadau'r Senedd nesaf yn 2026 yn dilyn amserlen sydd wedi ei chytuno gan y Pwyllgor Gweithredol Cymreig".
"Mae'r raddfa ar gyfer yr holl rai sy'n ceisio ailddewis wedi cwblhau.
"Mae'r rheiny sydd wedi gwneud cais i fod yn ymgeisydd ar gyfer y slotiau sy'n weddill wedi bod trwy broses ddiwydrwydd dyladwy cadarn, ac mae'r broses o wneud rhestr fer o'r ymgeiswyr hynny yn parhau."
Lle mae'r pleidiau eraill arni?
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod yn "yn barod wedi dewis a chadarnhau dros 80 o ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd yn dilyn prosesau dewis lleol wedi eu arwain gan aelodau'r blaid".
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig mae'r broses ddethol yn mynd rhagddi gyda disgwyl i osod trefn ymgeiswyr ar y rhestrau erbyn diwedd Medi.
Yn ôl Reform UK mae'r blaid yn gobeithio cael ymgeiwsyr mewn lle erbyn "diwedd y flwyddyn".