Morgan yn beirniadu gweinidog y DU am 'siarad ar ei rhan' ar doriadau

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn siarad "drosof fy hun"

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Llafur Cymru, Eluned Morgan, wedi beirniadu Ysgrifennydd Cymru am ddweud ei bod yn cefnogi toriadau'r canghellor i fudd-daliadau.

Dywedodd Jo Stevens wrth BBC Cymru yr wythnos ddiwethaf fod y prif weinidog wedi "croesawu" y diwygiadau dadleuol.

Ond mewn sesiwn danllyd yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Eluned Morgan: "Roedd gen i rywun arall yn ceisio siarad ar fy rhan yr wythnos diwethaf.

"Rwy'n siarad drosof fy hun."

Cadarnhaodd ffynhonnell yn agos at arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru i'r BBC fod y sylw yn cyfeirio at Jo Stevens.

Dywedodd Ms Morgan ei bod yn cydnabod bod pobl yn "dioddef" ac yn "poeni" am y newidiadau.

Ond gwrthododd y prif weinidog dro ar ôl tro i gondemnio'r diwygiadau yn llwyr wrth iddi ddod o dan feirniadaeth barhaus gan y gwrthbleidiau yng nghwestiynau i'r prif weinidog.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud nad ydyn nhw am wneud sylw.

Roedd Eluned Morgan wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Liz Kendall yn gofyn am asesiad i effaith y newidiadau ar Gymru ar 11 Mawrth.

Daeth ymateb dros y penwythnos - dros bythefnos yn ddiweddarach.

Wrth wynebu beirniadaeth yn y Senedd ei bod hi wedi gwrthod cyhoeddi'r ymateb, dywedodd Ms Morgan ei bod yn gobeithio y byddai Llywodraeth y DU yn ei ryddhau brynhawn Mawrth.

Yn ddiweddarach, fe gafodd yr ymateb ei gyhoeddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau - heb unrhyw asesiad effaith wedi'i gynnwys, er bod yr adran yn addo edrych "ar effeithiau penodol ar y rhai sy'n byw yng Nghymru" yn y dyfodol.

Beth yw'r newidiadau dadleuol?

Fel rhan o ddatganiad y gwanwyn, fe gyhoeddodd y Canghellor sawl newid i'r system budd-daliadau.

Mae'r newidiadau yn cynnwys tynhau rheolau cymhwyster ar gyfer Taliadau Annibyniaeth Bersonol - y prif fudd-dal anabledd - sy'n cael eu hawlio gan fwy na 250,000 o bobl yng Nghymru.

Fe wnaeth asesiad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ganfod y bydd 3.2m o deuluoedd ar draws Lloegr a Chymru ar eu colled o ganlyniad i'r newidiadau, gyda 250,000 yn fwy o bobl yn cael eu gwthio i dlodi.

Dadl frys ddydd Mercher

Yn y cyfamser mae Plaid Cymru wedi sicrhau dadl frys yn y Senedd ddydd Mercher ar effaith newidiadau Llywodraeth Lafur y DU i wariant lles ar Gymru.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Sioned Williams AS: "Gallai'r diwygiadau lles a gyhoeddwyd gan y Canghellor fel rhan o gyllideb Gwanwyn llywodraeth y DU wthio 50,000 o blant ychwanegol i dlodi, yn ôl asesiad y llywodraeth ei hun.

"Dywedodd dadansoddiad cychwynnol gan y Resolution Foundation fod y cyfuniad o ragolygon economaidd gwan a'r toriadau i fudd-daliadau sy'n disgyn yn anghymesur ar deuluoedd incwm isel yn golygu bod incwm cyfartalog yr aelwydydd tlotaf ar y trywydd i ostwng £500 ar gyfartaledd dros y pum mlynedd nesaf.

"Beth bynnag yw eich barn chi am ddiwygiadau'r canghellor, y ffaith ddiamheuol yw nad oes gennym unrhyw asesiad swyddogol o'r effaith y bydd y diwygiadau hyn yn ei chael ar bobl Cymru nac ar gyllideb Llywodraeth Cymru.

"Mae hyn yn cael ei dystio gan lythyr gan y Prif Weinidog at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, lle gofynnodd i lywodraeth y DU ddarparu asesiad penodol i Gymru, a hefyd mewn cyfweliad teledu lle amddiffynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru statws 'Cymru a Lloegr' yr asesiad.

"Rydym yn haeddu gwell na hyn ar ôl chwarter canrif o ddatganoli," ychwanegodd.