Newidiadau i fudd-daliadau 'wedi dychryn pobl', yn ôl AS Llafur

Mae angen i'r Blaid Lafur fynd i'r afael â materion economaidd sylfaenol, meddai Alun Davies AS
- Cyhoeddwyd
Mae etholwyr bregus wedi eu "dychryn" gan newidiadau i'r system fudd-daliadau, yn ôl Aelod Llafur o'r Senedd.
Roedd Alun Davies yn ymateb i gyhoeddiad y Canghellor, Rachel Reeves ynglŷn â thorri gwariant ar les dros y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd yr aelod dros Blaenau Gwent wrth BBC Cymru fod angen i'r Blaid Lafur "fynd i'r afael â materion economaidd sylfaenol", gan awgrymu fod "perygl gwirioneddol" y bydd nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru yn cynyddu.
Nod y newidiadau yw moderneiddio'r system fudd-daliadau ac annog mwy o bobl i ddychwelyd i'r gwaith, yn ôl Llywodraeth y DU.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Fel rhan o ddatganiad y Gwanwyn, fe gyhoeddodd y Canghellor sawl newid i'r system budd-daliadau.
Mae'r newidiadau yn cynnwys tynhau rheolau cymhwyster ar gyfer Taliadau Annibyniaeth Bersonol - y prif fudd-dal anabledd - sy'n cael eu hawlio gan fwy na 250,000 o bobl yng Nghymru.
Wrth annerch ASau, dywedodd Ms Reeves "nad yw'n iawn diystyru cenhedlaeth gyfan sydd allan o waith ac sy'n camddefnyddio PIPs".
Cadarnhaodd hefyd y bydd credyd cynhwysol cysylltiedig ag iechyd ar gyfer hawlwyr newydd, a oedd eisoes i'w haneru o fis Ebrill 2026 o dan becyn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, bellach yn cael ei rewi ar lefel is newydd o £50 yr wythnos tan 2030.
Bydd taliadau cysylltiedig ag iechyd hefyd yn cael eu rhewi ar gyfer hawlwyr presennol.
Fe wnaeth asesiad gan yr adran Gwaith a Phensiynau ganfod y bydd 3.2m o deuluoedd ar draws Lloegr a Chymru ar eu colled o ganlyniad i'r newidiadau, gyda 250,000 yn fwy o bobl yn cael eu gwthio i dlodi.
'Dychryn y bobl fwyaf bregus'
Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Supplement ar Radio Wales, dywedodd Mr Davies: "Mae'r pwnc yma'n codi pan rydw i'n siarad gyda phobl yn fy etholaeth - pobl sy'n ei chael hi'n anodd tynnu dau ben llinyn ynghyd ac yn byw bywydau sy'n cael eu heffeithio gan anableddau a thlodi.
"Pan maen nhw'n gweld y penawdau yma... mae'n dychryn pobl. Mae'n dychryn y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, ac mae hynny'n ofnadwy i'w weld.
"Be sydd angen i ni ei wneud fel y Blaid Lafur yw mynd i'r afael â materion economaidd sylfaenol, ac i sicrhau nad yw pobl ofn byw'r bywydau y maen nhw am eu byw.
"Ry'n ni'n gweld trethi'n codi ar hyn o bryd gan fod yr economi yn methu.
"Mae pobl eisiau gweithio a byw bywyd cyfforddus, a rôl llywodraethau yw helpu iddyn nhw allu gwneud hynny."

Nod y newidadau yw moderneiddio'r system fudd-daliadau ac annog mwy o bobl i ddychwelyd i'r gwaith, yn ol Llywodraeth y DU
Ychwanegodd Mr Davies ei fod am weld Llywodraeth Lafur y DU yn ymrwymo yn gadarn i fynd i'r afael â thlodi a lleihau anghydraddoldeb drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru.
"Pan ddechreuon ni ar daith datganoli gyda Gordon Brown a Rhodri Morgan, yn gweithio gyda'n gilydd, fe welon ni gyfraddau tlodi plant yn disgyn ym Mlaenau Gwent ar ddechrau'r ganrif," meddai.
"Hoffwn weld yr un ymdrech yn cael ei roi at fynd i'r afael â thlodi gan Lywodraeth y DU heddiw, a welon ni bryd hynny."
Awgrymodd hefyd y gallai nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru gynyddu: "Dwi'n meddwl bod yna berygl gwirioneddol y gallai hynny gyflymu.
"Mae'n rhaid deall yr hyn sy'n digwydd o fewn cymdeithas os ydych chi am newid pethau."
Doedd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan ddim am rannu ei safbwyntiau nes ei bod yn gwybod beth fyddai'r effaith ar Gymru.
Fe gadarnhadd ei bod yn dal i aros am ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Gwaith a Phensiynau, Liz Kendall, wedi iddi ofyn am effaith y cyhoeddiadau ar Gymru.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud mai'r nod wrth gyflwyno'r newidiadau yma yw moderneiddio'r system fudd-daliadau, ac annog nifer o'r rhai sy'n ddibynnol ar gymorth i fynd yn ôl i'r gwaith.
'Ceisio sicrhau sefydlogrwydd economaidd'
Ar raglen Politics Wales y BBC, dywedodd Kanishka Narayan - AS Llafur Bro Morgannwg - fod Llywodraeth y DU yn gweithio i sicrhau "sefydlogrwydd economaidd er mwyn rhoi rhagor o arian ym mhocedi pobl".
"Ry'n ni hefyd yn ceisio gwyrdroi llymder. Mae gwariant o ddydd i ddydd yn cynyddu o ddegau o filiynau (billions), tra bod gwariant cyfalaf yn cynyddu o gan biliwn dros bum mlynedd.
"Ry'n ni hefyd am ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus, a sefyllfa o ran budd-daliadau, sydd ar yr un llaw yn anfoesol o ran cefnogi pobl sydd am ddychwelyd i'r gwaith, ac yn gwbl anghynaladwy o ran dyfodol hir dymor y wlad."
Ychwanegodd ei fod yn deall fod pobl yn teimlo'n ansicr ac yn bryderus ond fod angen cyflwyno newid.