Pobol y Cwm: Dewi Rhys wrth ei fodd bod nôl yn chwarae Dyff
- Cyhoeddwyd
"Pan nes i adael yn 2000 doeddwn ddim yn meddwl y baswn i'n mynd nôl, ond fe all unrhyw beth ddigwydd mewn opera sebon."
Dyna eiriau'r actor Dewi Rhys sy'n chwarae cymeriad Dyff Jones yn y gyfres Pobol y Cwm.
Cafodd gwylwyr S4C gipolwg annisgwyl o Dyff ar goridor ward ysbyty nos Fawrth.
Does neb wedi gweld Dyff ers i'w angladd gael ei gynnal 'nôl yn y flwyddyn 2000.
Sut brofiad oedd hi felly i Dewi Rhys gamu nôl ar set Pobol y Cwm? Ac oedd hi'n benderfyniad hawdd camu nôl i chwarae cymeriad oedd fod wedi marw 25 mlynedd yn ôl?
Dyma oedd gan Dewi Rhys i'w ddweud wrth BBC Cymru Fyw am ddychwelyd i Gwmderi.
Ble oedd Dyff?
"Tua'r adeg yma'r flwyddyn ddiwethaf oedd hi a ges i alwad ffôn gan Dafydd Llewelyn (Cynhyrchydd Cyfres Pobol y Cwm).
"Doeddwn ddim yn disgwyl yr alwad ond dyna pryd y gwnaeth Dafydd sôn fod 'na fwriad i ddod â Dyff yn ôl.
"Dwi'n nabod Dafydd ers blynyddoedd ac roedd o'n gweithio ar Pobol y Cwm nôl pan nes i adael yn wreiddiol yn 2000.
"Ar ôl iddyn nhw esbonio'r stori a'r cynllun i Dyff, gafon ni ychydig mwy o gyfarfodydd a dyma fi'n cytuno," meddai Dewi.
Daeth esboniad ym mhennod nos Fercher fod Dyff wedi goroesi ymosodiad gan y dihiryn Frank Price nôl yn 2000 ac nad oedd o wedi marw, fel roedd pawb yn ei feddwl.
Roedd Dyff wedi bod yn byw yn Sbaen ers dros 20 mlynedd yn cuddio dan gynllun gwarchod tystion yr heddlu.
Mewn golygfa ddramatig, daeth i'r amlwg fod Stacey, merch Dyff wedi cwrdd ag ef ddwywaith wedi ei farwolaeth ffug, ac yn gwybod ei fod dal yn fyw er syndod i'w mam Kath Jones a'i brawd Mark.
'Fel reidio beic'
Mae cymaint wedi newid ers y tro diwethaf i Dewi Rhys gamu ar set Pobol y Cwm, meddai.
"Y newid mwyaf oedd y lleoliad. Pan nes i orffen roedd y set ar hen safle'r BBC yn Llandaf.
"Mae popeth wedi symud i Fae Caerdydd rŵan felly ro'n i'n nerfus iawn yn mynd nôl.
"Mae 'na lot fawr o actorion newydd hefyd, ond roedd hi'n braf gweld bod 'na sawl un o'r criw y tu ôl i'r camera dal i weithio ar y gyfres, felly roedd hi'n braf gweld ambell i wyneb cyfarwydd.
"Ond unwaith roeddwn ar y set roedd o fel reidio beic, roedd popeth yn dod nôl yn gyflym iawn," meddai.
Ond roedd o leiaf tri wyneb cyfarwydd iawn yn disgwyl amdano i ffilmio'r golygfeydd cyntaf.
Roedd Dewi yn edrych ymlaen at weithio unwaith eto gyda Siw Hughes sy'n chwarae rhan Kath, Arwyn Davies sy'n chwarae rhan Mark Jones a Shelley Rees sy'n chwarae rhan Stacey.
"Roedd y chemistry yno'n syth hefo nhw i gyd. Ond yn enwedig efo Siw, rydan ni'n ffrindiau mawr ers blynyddoedd," meddai.
Mae Dewi'n cyfaddef iddo ddifaru derbyn y cynnig i ddychwelyd ychydig ddyddiau ar ôl cytuno, ond fe ddiflannodd y teimlad hwnnw wedi digwyddiad mewn archfarchnad.
"Ers blynyddoedd mae pobl ar y stryd yn dod ata i ac yn sôn am Dyff, mae'n anhygoel ar ôl cymaint o flynyddoedd fod hynny yn digwydd.
"O'n i mewn archfarchnad ychydig ddyddiau ar ôl cytuno i fynd nôl.
"Yn sydyn ges i bwl o ddifaru ac amau os yr oeddwn wedi gneud y penderfyniad iawn.
"Erbyn i mi gyrraedd y til, fe drodd y ddynes oedd yn gweithio yno a deud wrtha i cymaint yr oedd hi'n methu Dyff ar y sgrin.
"Roedd hwnna’n deimlad rhyfedd ond 'nath hynny gadarnhau i mi fy mod wedi gneud y peth iawn yn cytuno i fynd nôl.
"Yr unig beth sydd wedi bod ychydig yn anodd yw'r cadw'r gyfrinach. Dwi'n falch rŵan fod o wedi cael ei weld ar y sgrin unwaith eto," meddai.
Dyfodol Dyff
Beth nesaf i Dyff felly?
Does dim cadarnhad am ba hyd fydd Dyff yn ei ôl ond yn ôl Dewi fe fydd hi'n ddifyr gweld sut bydd ei berthynas gyda theulu'r Jonesiaid yn datblygu.
"O ran dod nôl, dwi'n gyfforddus efo'r stori o egluro sut fod Dyff wedi atgyfodi.
"Dim ond ei goes o welon ni 25 mlynedd yn ôl a doedd dim cadarnhad pendant bryd hynny fod o wedi marw, ond roedd pobl yn cymryd yn ganiataol fod hynny wedi digwydd.
"Fe all unrhyw beth ddigwydd mewn opera sebon; ychydig bach o hwyl ydi hyn a dwi'n falch o gael chwarae rhan yn hynny," meddai.
Ac o ofyn os yw Dyff wedi newid ers bod i ffwrdd yn Sbaen?
Ateb Dewi oedd - "Bydd rhaid i chi aros i weld."
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2024